Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Mai 2009

Ges(t) i sypreis...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:29, Dydd Mercher, 27 Mai 2009

Sylwadau (0)

"Pan oeddwn fachgen", a bachgen bach iawn hefyd, roeddwn i'n arfer gwrando ar raglen gerddoriaeth i blant ar y 'weiarles' o'r enw Children's Favourites, yn cael ei chyflwyno gan Yncl Mac. Ac un o'r caneuon mwyaf poblogaidd ar y rhaglen oedd
The Teddy Bear's Picnic..."If you go down to the woods today, You're sure of a big surprise"...ac yn y blaen.

Wel dyna ges i pan es i draw i Borth y Gest. Sypreis a hanner yn wir oherwydd mae'r pentref glan môr wedi cael ei thrawsnewid. Er nad oedd 'na eirth bach brown o gwmpas, mi roedd na boli parot, dau ful a chriw teledu wrthi'n ffilmio cyfres newydd - "Cei Bach", ar gyfer S4C fydd i'w gweld ar ein sgrin yn yr Hydref.

Erbyn p'nawn dydd Iau, roeddwn i wedi gwisgo fy sgidiau dawnsio, ac yn symud mor osgeiddig ag alarch mewn storm ar draws llawr y theatr yn Galeri, Caernarfon.

Aelodau o glybiau dawnsio Gogledd Cymru oedd wedi dod at eu gilydd i ddawnsio i sain cerddoriaeth fyw, fel roeddan nhw ers talwm yn y Tea Rooms yn Llundain, i fand Joe Loss a Victor Sylvester, ac yn y Town Hall, Llangefni ar Nos Sadwrn i'r Tom Lennon. Wrth i'r gerddoriaeth lifo-felly'r atgofion am ddosbarthiadau dawnsio Miss Iris Henry yn ysgol Llangefni ers talwm, lle bydda ni'n ymgodymu a symudiadau'r Tango, y Waltz, y Quick Step, ac wrth gwrs y Gay Gordons. 'Sgwn i be' ddigwyddodd i Gordon?

Mae Pink Floyd wedi ail ffurfio, Spandau Ballet, Kajagoogoo a rwan...Montana Blue-deuawd canu gwlad oedd yn boblogaidd iawn yn yr wythdegau. Roeddan nhw wedi dewis lle poblogaidd iawn ar gyfer yr aduniad hanesyddol - Y Madryn Arms, Chwilog. Elwyn a Derek ydi Montana Blue, ac os ddaru chi eu mwynhau nhw ar raglen Jonsi b'nawn Gwener yn canu "Hebot ti", pwy a wyr na fedrwn ni ddechrau ymgyrch i'w perswadio i fynd i'r stiwdio a recordio rhai o'u caneuon. Rhowch wybod drwy fy ebostio ar hywel@bbc.co.uk

madrynarms.JPG

Carlamu Cymru a chwrdd Cati!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:10, Dydd Mercher, 27 Mai 2009

Sylwadau (0)

falcondale2.JPG

Nol yn y ddeunawfed ganrif, roedd hi'n arferiad i deithwyr o Loegr ddod draw
i Gymru ar "Grand Tour" fel 'roedd o'n cael ei alw. Wel dwinna'n teimlo 'run peth ar ol
fy nhrafels diweddara' fel teithiwr sydd wedi bod ar "The Grand Tour of West Wales
and Places further North."

Galw heibio Llambed gynta' oherwydd fod Plasdy Teulu'r Harfords yn dathlu'i benblwydd eleni yn gant a hanner oed. Mae 'na filltir o ffordd o'r lon fawr at y plas, sydd wedi ei amgylchynu gan goed a llwyni rhododendron pinc.

Yn y saithdegau fe weddnewidiwyd y tu mewn a'i droi yn westy - gwesty'r Falcondale. Mae'r enw yn ein atgoffa ni mai Plas Cyrill, sef gair arall am hebog, oedd enw'r ty gwreiddiol a oedd ar y safle cyn codi'r Plasdy presennol.

Yn Nhregaron, 'roeddwn i'n cyfarfod a Twm Sion Cati sydd wedi trefnu ei ddathliadau ei hun i goffhau pedwar can mlynedd ei farw. Roedd plant Ysgol Gynradd Tregaron yno hefyd i'w gyfarch ar gan.

Nol yn niwl y gorffenol - tua 1968, fe 'sgwenodd Frank Hennesey, o grwp pop yr Henneseys, gan am Twm Sion Cati, ac mi es innau ati i'w chyfieithu ar gyfer Disc a Dawn. Dim ond y cytgan sydd ar fy nghof bellach:

O brysia Twm Sion Cati, rydwi'n clywed swn eu traed
Y milwyr efo'u gynnau, a ma' nhw am dy waed
Paid ac aros, paid ac oedi, paid a disgwyl am y wawr
Dos yn awr, Twm Sion, dos yn awr!

talbottwm2.JPG

Tadcu yn Cerdded y Clawdd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 19:00, Dydd Mawrth, 5 Mai 2009

Sylwadau (0)

tadcu.jpg

Yng Nghas-gwent y ces i fy mrecwast bore 'ma, yng nghwmni Arwyn Davies, cyn ffarmwr o ardal Bethlehem, sy'n mynd i gerdded Clawdd Offa er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr prin iawn y mae ei ŵyr Ifan a'i wyres Awen, yn dioddef ohono. Fe fydd y sgwrs ges i efo Arwyn ar raglen Nia ar Radio Cymru fore Mercher, ac fe fydd hi'n cael mwy o wybodaeth am y cyflwr P.K.U. gan feddyg teulu, Harri Pritchard.

'Dwi'n cofio taith gerdded y bues i arni yn y gorffennol o Dde Cymru i'r Gogledd yng nghwmni'r comedïwr Gari Williams, a'r siaradwr brwdfrydig, Sulwyn Thomas, er mwyn rhoi sylw i'r Urdd. Tu allan i Gaerfyrddin mae 'na allt, hir a blinderus, o'r enw Allt Walis, ac fe ofynnodd Gar i Sulwyn a finnau, pan oeddem ni'n dau ar ein gliniau allan o wynt ac yn goch fel dau domato.

"Ydach chi'n gwbod, pam maen nhw'n galw'r allt yma yn allt Walis?" 'Doedden ni ddim.
"Achos mai dim ond tri wally fel ni fasa'n meddwl ei cherdded hi!"

Mae Arwyn Davies, yn aelod o Bois y Castell, ac fe fyddan nhw yn ymuno ag o
am ran o'r daith, ac yn canu ei glodydd 'dwi'n siŵr.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.