Â鶹ԼÅÄ

Archifau Awst 2012

Nia Lloyd Jones - dydd Sadwrn Awst 11

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 17:29, Dydd Llun, 13 Awst 2012

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar y llwyfan oedd Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis i rai dos 21 oed. Roedd hon yn chwip o gystadleuaeth gyda Dafydd Jones ac Edryd Williams - dau eisteddfodwr profiadol iawn - a Mair Tomos Ifans ar y llwyfan. Tydy Mair ddim wedi cystadlu ers blynyddoedd ond fe gafodd hi andros o hwyl dda ar y llwyfan - a hi enillodd heddiw. Edrych ymlaen i dy weld ti yn Ninbych flwyddyn nesa rwan Mair.



Llongyfarchiadau mawr i Esyllt Tudur ar ennill yr Unawd Cerdd Dant agored. Mae Esyllt eisoes wedi ennill y Llwyd o'r Bryn, a gwobr Lady Herbert Lewis, felly dyma hatrick go iawn.

Dw i ddim isio i chi feddwl fod gen i rhyw obsesiwn hefo JPR Williams, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod hi'n braf ei weld o unwaith eto gefn llwyfan, a'r tro yma doedd o ddim yno yn rhinwedd ei swydd fel stiward. Cystadleuydd oedd o y tro hwn - gan ei fod o yn aelod o Gôr Meibion y Machlud - ac yn canu dan arweiniad un o'r Dyniadon Hirfelyn TesogÌýsef Eric Dafydd.



Y penwythnos diwethaf roedd Mike Williams ar y llwyfan yn arwain côr o ferched o Lundain, a heddiw roedd ganddo gôr meibion sef Eschoir. Ro'n i'n amau mai gwerthu teis oedd Gareth, un o'r aelodau, wrth y drws yng nghefn y llwyfan, ond erbyn gweld aros i weddill yr aelodau gyrraedd oedd o!

Diwrnod y corau meibion ydy dydd Sadwrn, a llongyfarchiadau mawr i Gôr Llangwm ar ennill y gystadleuaeth i Gorau Meibion hyd at 45 mewn nifer. Ond druanÌýag un o'r aelodau - sef Alun. Roedd Alun wedi dod i lawr yn y car a'r garafan yn eu dilyn ond fe wnaeth 'na gar arall ddreifio i mewn i'r garafan, nes ei bod hi'n llanast. O gofio bod Alun yn bwriadu mynd yn syth o'r Eisteddfod ar ei wyliau i Ffrainc doedd ond un peth amdani - prynu pabell! Gobeithio caiff o amser gwych yn honno.



Roedd hi'n andros o boeth gefn llwyfan heddiw ac un oedd yn teimlo'r gwres oedd Rhian James. Mae Rhian yn aelod o Ddawnswyr Caerdydd ac o dan y wisg frethyn roedd ganddi bais a theits hefyd!!



Os oes 'na un perfformiad yn aros yn y cof heddiw - perfformiad Côr Meibion Rhosllanerchrugog o 'Rondes' gan Folke Rabe ydy hwnnw. Darn heb eiriau ydy hwn - lle mae'r côr yn gwneud pob math o synnau gwahanol - gan gynnwys sibrwd eu rhif ffô²Ô a newid lleoliad hefo'r person drws nesa! Wir i chi - welais i erioed unrhyw beth tebyg i hyn o'r blaen ond fe gawson nhw hwyl arbennig o dda ar y llwyfan heddiw - a chipio'r wobr gyntaf am yr ail flwyddyn yn olynnol.


A dyna ni - Eisteddfod arall wedi dod i ben, a finna wedi cyfarfod llu o gystadleuwyr newydd a nifer o hen stejars hefyd. Diolch o galon i bawb am fod mor barod i sgwrsio, ac os byw ac iach, fe fyddwn ni gyd yn ôl yn Ninbych flwyddyn nesa. Dw i'n edrych ymlaen yn barod!!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Nia Lloyd Jones - nos Wener Awst 10

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 10:32, Dydd Sadwrn, 11 Awst 2012

Sylwadau (0)

Noson y corau oedd hi neithiwr...

Dim ond un Côr Cerdd Dant oedd yn cystadlu - sef Côr Merched y Ddinas. Owain Sion sy'n hyfforddi'r merched ac mae nifer o'i geinciau o wedi cael eu clywed yr wythnos yma.


Un ohonyn nhw - yn gynharach yn yr wythnos oedd 'Fflur' - cainc er cof am Fflur Bedwyr - fu farw'n rhy gynnar o lawer, a braf iawn oedd gweld teulu a ffrindiau Fflur yn y Pafiliwn yn gwrando ar y gystadleuaeth dan sylw sef y parti Cerdd Dant dan 21 oed.

Un peth faswn i byth yn medru ei wneud ydy bod yn aelod o Gôr Llefaru - a hynny oherwydd y byddai gen i ormod o ofn dod i mewn yn y lle anghywir. Ond roedd 'na dri côr llefaru ar y llwyfan a Chôr Sarn Helen enillodd neithiwr. Elin Williams sydd yn eu hyfforddi nhw a nos Iau - fe benderfynodd hi ymuno hefo nhw ar y llwyfan! Dewr iawn!

Mae ambell i aelod o Gôr Eifionnydd wedi bod yn ddigon anlwcus yr wythnos yma - dyna chi JeremyÌýsydd wedi colli ei ddau ddant blaen ar ôl bwyta hufen iâÌýhefo fflêc ar y maes, a Meurig wedynÌýsydd a'i fraich mewn sling. Ond tydy mân broblemau felly yn effeithio dim ar y côr a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar ennill y côr alaw werin, dan arweiniad Pat Jones.


Braf iawn oedd gweld côr newydd o Ynys Mô²Ô ar y llwyfan hefyd - sef Harmoni. Dyma eu ymddangosiad cyntaf nhw a dw i'n sicr y gwelwn ni lawer mwy ohonyn nhw yn eisteddfodau'r dyfodol.

Y corau cymysg oedd yn cloi y cystadlu neithiwr. Un o'r corau ar y llwyfan oedd Cymdeithas Gorawl Llanuwchllyn - yn canu dan arweiniad Mary Lloyd Davies. Dw i'n siwr mod i wedi enwi Mary o leiaf bump gwaith bob diwrnod - gan ei bod hi wedi hyfforddi tua 30 o gystadleuwyr yn ystod yr wythnos. Roedd ganddi naw cystadleuyddÌýyn yrÌýun gystadleuaeth nos Fercher - sef yr Unawd Sioe Gerdd!


Ond Cordydd oedd yn fuddugol unwaith eto eleni - dan arweiniad Sioned James, ac un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod i mi oedd eu perfformiad o Gwawr y Bore - sef trefniant o un o ganeuon Dolly Parton, Light of a Clear Blue Morning.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Nia Lloyd Jones - dydd Gwener Awst 10

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 18:44, Dydd Gwener, 10 Awst 2012

Sylwadau (0)

Urddo Carwyn, Iwan a John
Dechrau'r dydd hefo'r Prif Weinidog bore 'ma - wrth i Carwyn Jones baratoi i fynd at y Maen Llog i gael ei urddo. Roedd o'n ymhyfrydu yn yr anrhydedd a gan nad oes 'na wisg goch yn yr Orsedd - roedd yn rhaid iddo fodloni ar wisgo gwisg las heddiw.

Un arall oedd yn cael ei urddo oedd Iwan Roberts - neu Iwan Gwynedd - fel y'i gelwir yn yr Orsedd. Mae o wedi gwisgo kit glas gydag ambell i dim pêl-droed yn ystod ei yrfa, felly roedd o'n ddigon bodlon ei fyd. Roedd John Hartson yn cael ei urddo hefyd, ac mae'n debyg nad oedd o'n or awyddus i wisgo'r lliw glas - gan mai dyna liw kit pêl-droed Rangers, ac wrth gwrs fe fu John yn chwarae i Celtic!

Y cerdd dantwyr yn cofio'u taid
Un o'r cystadlaethau gorau yn yr Eisteddfodd yr wythnos yma oedd yr un i'r triawdau neu bedwarawdau Cerdd Dant. Lois, Annest, Enlli ac Alaw enillodd heddiw, ac mi roedden nhw yn cystadlu dan amgylchiadau digon anodd. Mae Lois ac Annest yn chwiroydd ac yn gyfnitherod cyntaf i Enlli ac Alaw - sydd hefyd yn chwiorydd. Dyma chi genhedlaeth iau teulu Hendre Cennin, a fis yn ôl fe fu farw taid y genod, ac fe benderfynon nhw gystadlu - er cof amdano. Yn naturiol ddigon roedd 'na ddagrau gefn llwyfan ar ôl i'r teulu glywed y canlyniad.



Ffarmwrs Aberhosan yn cyrraedd y brig
Mae hi wedi bod yn ddiwrnod mawr i bentref bach Aberhosan heddiw - wrth i ddau ffermwr o'r pentref gystadlu ar y llwyfan. Erfyl Tomos Jones enillodd yr unawd bariton, ac yntau yn cystadlu am y tro cyntaf, felly mae o'n mynd i fod yn cystadlu am y Rhuban Glas yfory, ac efallai y bydd o yn efelychu camp ei frawd - enillydd Rhuban Glas 2008 - sef Meirion Wynn Jones.

Y ffarmwr arall oedd Meilir Wyn Jones, ac ar un llaw mae'n beth da nad ydy o wedi mynd drwodd i'r gystadleuaeth fory - gan ei fod o yn was priodas i un o'i ffrindiau yfory ... yn Llanelwedd!

Priodasau lodesi Bro Ddyfi
I aros ym Mro Ddyfi - mae'n gyfnod priodasau ar barti Lodesi Dyfi - mae Elinor newydd briodi ac fe fydd Lowri yn priodi dydd Sadwrn nesa! Mae'r gweddill i gyd wedi gadael eu gwÅ·r adref yn y gwair!

Sô²Ô am y Rhuban Glas - llongyfarchiadau mawr i Nest Jenkins ar ennill y Rhuban Glas Offerynnol, a dymuniadau gorau iddi yn yr Å´yl Delyn yn Bangkok.

Diolch am yr het!
Roedd hi'n boeth iawn gefn llwyfan heddiw - a diolch i Dan Puw am gael menthyg yr het wellt. Roedd Dan ar y llwyfan yn arwain parti alaw werin Meibion Llywarch - a ngwaith i yn ystod y pum munud hwnnw oedd gwarchod yr het!


Sô²Ô am Feibion Llywarch - r'on i wedi sylwi ar yr hogyn ifanc yma gefn llwyfan - yn gwylio'r sgrin tra roedd y parti ar y llwyfan. Ar ôl dechrau sgwrsio - dyma ddallt mai Llywarch oedd ei enw - a'i fod o wedi cael ei enwi ar ôl y parti!

Dw i'n gweithio'n hwyr heno - felly gewch chi hanes cystadlu'r nos gen i fore Sadwrn.

Mwy am Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, clipiau, canlyniadau, newyddion ac i wylio'r Pafiliwn yn fyw ewch i'n gwefan bbc.co.uk/eisteddfod

Rhun ap Iorwerth - dydd Iau Awst 9

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 19:43, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Sylwadau (0)

Ble’r aeth haf 2012? Ble’r aeth y glaw a’r gwynt a’r oerfel?

Rydan ni wedi cael ein gwibio i fyd a thymor arall. Byd yr haul a’r hufen iâ. Byd y ‘sgwyddau cochion a’r fflipiau fflop. Yr ymbarél wedi arallgyfeirio a’i throi’n barasol.

A wnaethoch chi amau? A broffwydoch chi wae y caeau mwdlyd a’r wellingtons? Wel, llyncwch eich geiriau cyn gyflymed a’ch peint oer yn y Bar Gwyrdd ar y maes, achos mae’r haul wedi tywynnu efo’i holl enaid ar Fro Morgannwg heddiw.

Gyda’r rhagolygon yn addo mwy o’r un peth, dwi’n siwr y byddwn yn ffeilio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 yn yr un ffeil ag Aberteifi 1976 a Meifod 2003 – dan ‘P’ am ‘Poeth’. Ond byddÌý ambell unigolyn yn ei ffeilio dan ‘C’ am ‘Carreg Filltir’.

Bu Steffan Rhys Hughes o Sir Ddinbych yn enillydd eisteddfodol cyson ers yn blentyn bach. Dyn a wyr sawl gwobr gyntaf sydd ganddo i’w enw, yma yn y Genedlaethol ac yn yr Urdd, heb sô²Ô am eisteddfodau bychain dirifedi. Ond eleni, mae’n troi’n ddyn, a gyda 6 gwobr gyntaf yn ei boced, bydd yn ei throi hi am Gaerdydd a’r Coleg Cerdd a Drama fis nesaf gyda’r teitl ‘Canwr Proffesiynol’ yn dod yn nes.

Fe ddaeth Steffan Harri â gwen i wynebau pawb yn y pafiliwn a’r gynulleidfa deledu gyda’i berfformiad gwych, doniol, cyflawn a hyderus yn yr Unawd Sioe Gerdd dros 19 oed. Mi fydd ei enw mewn sêr yn y West End cyn hir, heb os.

Nid fo enillodd y gystadleuaeth honno hyd yn oed (er iddo dderbyn Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts am ei berfformiad). Fe aeth y wobr gyntaf i Elgan Llyr Hughes o Landudno. Rwyf wedi cael y pleser o arwain ambell i gyngerdd lle mae Llyr wedi bod yn canu. Mae’n ŵr ifanc, bonheddig, ond dyma i ni dalent. Drannoeth yr Unawd Sioe Gerdd fe enillodd un o gystadlaethau mawr yr Unawdwyr Clasurol – Gwobr Goffa Osborne RobertsÌý – ar ôl dod i’r brig mewn dwy o’r cystadleuthau rhagbrofol – yr Unawd Gymraeg a’r Unawd Operatig.

Llundain yw’r stop nesaf iddo fo. Mae o newydd dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf o Fanceinion a’r cam nesaf yw’r Guildhall yn Llundain. Paratowch i glywed llawer, llawer mwy amdano.

Byddwn yn dathlu llwyddiannau’r tri yna mewn blynyddoedd i ddod, heb os. Ond tra y gwnawn ni hynny, gadewch i ni gofio mor bwysig fu’r Eisteddfod wrth gynnig llwyfan iddyn nhw ar ddechrau eu gyrfaoedd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y ddau Steffan a Llyr wastad yn trysori’r cyfle unigryw Gymreig yma ddaeth i’w rhan.

Ymddiheuriadau, gyda llaw, am beidio blogio am y deuddydd diwethaf. Y gwir ydi bod Eisteddfod yn ddi-stop - yn fwrlwm o sgwrsio, o wylio, o wrando, o fwyta ac o fwynhau. Maddeuwch i fi!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Iolo ap Dafydd yn crwydro'r Maes dydd Iau Awst 9

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

IoloapDafydd IoloapDafydd | 19:31, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Sylwadau (0)

Dwi wedi penderfynu nad ydy Olympiad Llundain yn ddim i'w gymharu â marathon y Steddfod. Mi allai athletwyr yn ne Lloegr ddysgu llawer o allu perfformwyr a chystadleuwyr Eisteddfod Bro Morgannwg.

Mi ges i brofiad newydd neithiwr yn gwylio campweithia unawdwyr y Sioe Gerdd dros 19 oed, Gwobr Goffa Richard Burton a Towyn Roberts. Sô²Ô am dechneg. Tonyddiaeth a llefaru llawn angerdd. Dyma sy'n digwydd ichi pan 'da chi yn aros yn y Steddfod am sawl diwrnod, ond ma' gwrando ar feirniadaethau a'r arbenigwyr sy'n cael eu holi yn help hefyd.

Ynghanol y perfformwyr yma, mae to nesaf a chenhedlaeth broffesiynol newydd Cymru. Nifer eisoes yn byw a gweithio ymhell o Landŵ, ac o Gymru, yn gwneud eu marc. Cymerwch y tenor Elgan Llyr Thomas - mae e wedi ennill pedair cystadleuaeth hyd yn hyn, ac wedi denu mwy o edmygwyr a chefnogwyr.

Yn ystod darllediad prynhawn heddiw ar S4C, mi wnaeth Elgan gymaint o argraff wrth gystadlu am wobr ac Ysgoloriaeth Osborne Roberts fel bod dagrau yn llygaid y beirniad a'r tiwtor canu Leah Marian Jones a oedd yn cadw cwmni i'r cantor mwyn Rhys Meirion ar y soffa wrth fy ochr. Doedd fawr o bwynt holi pwy roddodd y perfformiad mwyaf cyflawn na phwy oedd y mwyaf angerddol na chwaith y mwyaf meistrolgar yn dechnegol ... ia, y boi Thomas yna oedd o ac mi fyddwch chi'n clywed a gweld llawer mwy o'r llanc o Landudno.

A sô²Ô am Rhys Meirion, gall o ddim colli cyfle y dyddiau yma i gyfeirio at ei ymdrech o ag eraill i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mi wisgodd grys i'n hatgoffa ni o'i daith gerdded ar ôl y Steddfod. Fedra i ddim cymeryd rhan gan y byddai ar fy ngwyliau, ond mi fydd llawer yn cyd-gerdded ac yn bwysicach yn codi arian ar gyfer achos teilwng.

Mi gawson ni hwyl hefyd yn atgoffa'n hunain o pan fu'r ddau ohonom un haf gwlyb (arall) ym 1987 yn labro a gweithio gyda chwmni codi pebyll ar y Maes cyn ac ar ôl Eisteddfod Porthmadog - yn agos iawn i gartref Rhys ar y pryd.

Siwr gen i fod cenhedlaethau o Gymry wedi slafio ar faes y Steddfod er mwyn clirio dyledion coleg ac mae'n hwyl hel atgofion. Y diweddar Barry Sawyer oedd y fforman. Dyn caled, ond teg yn ôl Rhys, ac allai ond cytuno. Mi fu'n gyfrifol i gael sawl Stedddfod yn barod yng ngwyneb trafferthion mawr ar adegau. Mi weithiais i gyda 'nghefnder Sion yn Steddfod stormus a mwdlyd Abergwaun hefyd - ond stori arall ydy honno!

Mae'r haul o'r diwedd wedi cyrraedd Bro Morgannwg a mwd eleni yn sychu'n lyfli. Felly, mae'r cwrw a'r hufen iâ yn gwerthu'n dda a gobeithio hefyd y bydd y cryno ddisgiau a'r llyfrau, y cardiau a'r crysau-t yn gwneud yr un modd. Wedi'r cyfan mae pawb yn chwilio am elw, ond hyd yma elw gorau'r wythnos imi ydy treulio cymaint o amser yn siarad am bopeth dan haul - i gyd yn y Gymraeg.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Nia Lloyd Jones - dydd Iau Awst 9

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 18:37, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Sylwadau (0)

I'r Eisteddfod o bedwar ban byd.

O'n i wedi bod yn chwilio amdano fo drwy'r wythnos, a bore 'ma mi welais i o yng nghefn y llwyfan. Shay Siwoku ydy o - a mae o'n stiwardio yn yr Eisteddfod ers 2008. Mae Shay wedi dysgu'r Gymraeg yn arbennig o dda ac wrth ei fodd yn gwirfoddoli yn yr Eisteddfod, ac mae'r Wyl fel aduniad bach i'r ddau ohonom ni bellach - braf iawn oedd rhoi'r byd yn ei le eto bore ma.

Ìý

Yn sicr roedd 'na naws ryngwladol gefn llwyfan heddiw. Un o Wlad Pwyl ydy Lukasz Biela yn wreiddiol er ei fod o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae o'n siarad wyth iaith - Pwyleg, Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Portiwgieg, Saesneg, iaith Siec a'r iaith Serbiaidd ... a dipyn bach o Gymraeg erbyn hyn. Mi welais i o eto cyn cinio - yr adeg hynny roedd o wrthi'n rhoi sesiwn Reikki i droed y gyfeilyddes Eirian Owen - gan ei bod hi wedi brifo ei throed yr wythnos yma. Dyn amryddawn iawn mae'n amlwg. Isaías Grandis o Batagonia ydy enillydd Tlws y Dysgwyr eleni, ac yn sicr roedd cael sgwrs hefo fo yn un o uchafbwyntiau'r dydd i mi. Dyma chi siaradwr gwych, a thinc Sbaeneg yn y llais hefyd. Fe symudodd o'r Ariannin i Batagonia pan oedd o'n bedair oed, ac erbyn hyn mae o'n gweithio fel tiwtor iaith yno ac yn awyddus i hyrwyddo'r Gymraeg i bob cyfeiriad o'r Wladfa. Doniol iawn oedd clywed ei stori am ei ymweliad â McDonald's yn ddiweddar - ac yntau ddim yn siarad Saesneg. Diolch byth roedd na Gymro wrth law i weini'r byrgyr iddo. Mi wnes i gwrdd ag Ian Samways o Pittsburgh yn yr Eisteddfod yn Wrecsam llynedd. Roedd o wedi dod draw i gystadlu ar y Llefaru Unigol Agored i'r Dysgwyr, ac wedi mwynhauei hun gymaint nes ei fod o nôl eto eleni. Mae o'n mwynhau canu carioci hefyd - a'i hoff gân ydy'r berl Sinatraidd - My way. Llongyfarchiadau mawr i Gôr y Wiber - dan arweiniad Angharad Thomas am ennill y gystadleuaeth Côr Merched heddiw. Dw i wrth fy modd yn sgwrsio hefo Angharad - gan ei bod hi'n un o'r bobl mwyaf egnïol dw i erioed wedi cyfarfod. Roedd y wên ar ei wyneb heddiw yn werth ei gweld.

Ìý

Os oedd ddoe yn ddiwrnod mawr i Elgan Llyr Thomas - roedd heddiw yn well byth. Elgan enillodd Wobr Goffa Osborne Roberts - sef y Rhuban Glas. Pan ofynodd gohebydd papur newydd iddo wedyn os mai dyma binacl ei yrfa - fe atebodd mai dyma'r pinacl hyd yma - ond bod mwy i ddod! Cofiwch yr enw...

Prynhawn y sopranos, contraltos a'r mezzo sopranos oedd hi wedyn. Sut wnaeth Helen Gibbon - y soprano - fwynhau tybed? 'Ych a fi' oedd ei ymateb heddiw! Mae Iona Stephen Williams wedi ennill yr Unawd Contralto wyth gwaith, ac roedd hi nôl ar y llwyfan unwaith eto. Fe ddaeth Catrin Rowena Davies - y mezzo soprano i'r llwyfan ddiwedd y prynhawn - i gloi'r naws ryngwladol. Mae hi'n byw yn Baltimore, ond bod ei rhieni yn hannu o Gymru yn wreiddiol, ac wrth gwrs - roedden nhw yn ogystal â'i chariad yn y pafiliwn i'w chefnogi heddiw.

A dyna derfyn ar ddiwrnod prysur iawn arall... dw i angen mynd i orwedd lawr mewn cornel dywyll!

Molawd i'r mwd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 14:08, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Sylwadau (0)

Fel merch o gefn gwlad Meirionnydd mae gen i gywilydd cyfadde' hyn, ond y tro diwethaf imi fod yn berchen ar bâr o welingtons, mam oedd wedi eu prynu nhw imi. Tan 'leni.

Ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri a'r Cylch 2012 fis yn ôl - gŵyl oedd yn morio mewn mwd - y prynais i fy mhâr cyntaf o welingtons erioed efo fy mhres fy hun, ac mae hynny'n dweud lot o ystyried faint o Steddfodau dwi wedi bod iddyn nhw dros y blynyddoedd.

A diolch byth eu bod nhw gen i ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg achos fe wnes i eu gwisgo nhw bob dydd tan dydd Gwener. Wedi hynny daeth yr haul tanbaid mewn pryd i sychu'r pyllau mwdlyd i sicrhau dyddiau olaf gogoneddus o hafaidd yn Llandŵ.

Ond pam felly ein bod ni'n mynnu cynnal Prifwyl ddiwylliannol Cymru, y ffenest siop ar gyfer uchelfannau'r celfyddydau Cymreig, mewn pebyll ar gae mwdlyd bob blwyddyn?

Wel, fe gefais i'r ateb o amgylch y tân yn y maes carafanau un noson yr wythnos hon gan Carys Hedd, un o'r rhai sydd wedi trefnu'r Maes Gwyrdd newydd eleni. Fe wnaeth hi fy atgoffa o'r cysylltiad agos rhwng yr iaith a'r tir.

Carys Hedd ar faes Prifwyl 2012 - "daw'r iaith o'r tir a'r tir o'r iaith"

Er ei bod yn cyfaddef mai prin, at ei gilydd, ydy'r rhai sy'n gallu siarad am faterion amgylcheddol yn Gymraeg, soniodd Carys am frwdfrydedd nifer o'r amgylcheddwyr sy'n symud i mewn i Gymru dros yr iaith. Fe deimlai hi fod cadwraeth y naill beth a'r llall yn mynd law yn llaw a'u bod nhw'n perthyn i'w gilydd.

Y cysylltiad efo'r tir sydd wedi cadw'r iaith yn fyw dros y canrifoedd, atgoffodd, ac mae hynny mor berthnasol yn yr oes yma o gyni ag oedd yn oes ein cyndeidiau oedd yn byw ar y tir ac yn gofalu amdano.

Dim syndod deall felly mai bywyd a gwaith Iolo Morganwg, dyfeisydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ac, fel rydyn ni wedi ei glywed sawl tro yr wythnos yma, cymwynaswr bro a gwlad oedd yn gymaint mwy 'na breuddwydiwr oedd yn gaeth i laudanum, oedd yr ysbrydoliaeth i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed i sefydlu'r gornel werdd yma o'r maes eleni.

Ymdrybaeddwn, felly, ym mwd Morgannwg! Ai greddf sy'n ein tynnu i gae bob blwyddyn?

Holl fanylion yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg ar wefan bbc.co.uk/eisteddfod

Nia Lloyd Jones: Cefn llwyfan nos Fercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 10:21, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Sylwadau (0)

'Dwi bob amser yn mwynhau bod gefn llwyfan nos Fercher - a doedd neithiwr ddim gwahanol.

Ceri Wyn enillodd Wobr Richard Burton, ac roedd 'na hen ddathlu gefn llwyfan wedyn gyda'i rhieni a'i ffrindiau. Mae Ceri yn actores ddawnus iawn - newydd raddio o Goleg Academi Mountview yn Llundain, ac roedd ennill y wobr hon yn goron ar y cyfan iddi.

Fe gafodd Elgan LlÅ·r Thomas ddiwrnod ffantastig ddoe - gan ennill yr unawd Gymraeg a'r unawd operatig. Wedyn neithiwr, fe enillodd yr unawd o sioe gerdd. Roedd o eisoes wedi ennill yr unawd o sioe gerdd dan 19 oed. Hon oedd ei flwyddyn olaf o dan 25 oed, ac mi ddywedodd o gefn llwyfan bod rhaid iddo rwan ystyried canu llai o ganeuon sioe gerdd - er mwyn canolbwyntio ar fod yn ganwr opera proffesiynol.

Llongyfarchiadau mawr i Steffan Harri am ennill Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts neithiwr. Fe swynodd o'r gynulleidfa gyda'i berfformiad o Tu Hwnt i Sbri - allan o sioe gerdd weddol newydd sef Â鶹ԼÅÄ Made Fusion, Kooman a Diamond. Yn y gân roedd o'n erfyn am sylw Claire ac yn sicr fe hawliodd o sylw pawb yn y Pafiliwn neithiwr.

Roedd 'na ddawnsio ar y llwyfan neithiwr hefyd wrth i ddawnswyr Penrhyd, Talog a Bro Taf gystadlu yn y parti dawns dan 25 oed ac un o gyfeilyddion ffyddlonaf Dawnswyr Penrhyd ydy'r ffidlwr, Eifion Price. Roedd o wedi cael diwrnod prysur iawn ddoe - gan ei fod o hefyd yn aelod o gwmni drama'r Gwter Fawr ac mi roedden nhw yn perfformio drama Mel Williams, Claddu'r Ceiliog, yn Theatr y Maes amser cinio.

Fe benderfynodd y beirniaid rannu Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts rhwng dwy, sef Menna Cazel Davies ac Elin Pritchard. Mae Menna newydd raddio ac ar ei ffordd i astudio cwrs meistr yn yr Almaen. Mae hi hefyd yn hoff iawn o weu, ac wedi addo gweu sgarff i mi! Hogan o Rhyl ydy Elin yn wreiddiol, ond ar hyn o bryd yn byw yn Surbiton yn Surrey. Mae hi wrthi'n perfformio hefo Cwmni Opera yr Alban ac yn mynd i astudio yng Nghanolfan Opera Genedlaethol Llundain ym mis Medi.

Yn naturiol roedd y ddwy wedi gwirioni'n lân gefn llwyfan ac yn falch iawn o'r hwb ariannol.

Y côr olaf ar y llwyfan neithiwr oedd Côr Meibion Glantaf - criw o ddisgyblion a chyn ddisgyblion Ysgol Glantaf; a chwarae teg iddyn nhw, fe dalon nhw deyrnged i'w hyfforddwraig Delyth Medi am geisio cael trefn gerddorol arnyn nhw. Doedd hynny ddim yn hawdd chwaith gan fod nifer ohonyn nhw wedi bod ar wyliau yn Ibiza a Zante ar ôl gwneud eu Lefel A, a beryg nad oedd 'na fawr o ymarfer canu wedi bod yn y fan honno!

Nôl i gefn llwyfan rŵan am ddiwrnod prysur arall ...

Nia Lloyd Jones - bore Mercher Awst 8

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 23:18, Dydd Mercher, 8 Awst 2012

Sylwadau (0)

Wel sa Mam wedi bod wrth ei bodd yng nghefn y llwyfan bore ma. Mae hi'n ffan rygbi go iawn a phwy feddyliech chi oedd yn stiwardio gefn llwyfan? Neb llai na un o gewri'r gorffennol - JPR Williams. Oedd - roedd rhaid cael sgwrs yn doedd a llun hefyd!

Ìý

Roedd hi'n andros o boeth ar y llwyfan bore ma ac roedd hyn yn achosi trafferthion mawr i rai o'r offerynwyr. Un ohonyn nhw oedd Sion Rhys Jones. Roedd o'n cystadlu am y Rhuban Glas Offerynnol dan 19 oed ac mae o'n defnyddio techneg gwefus sych wrth chwythu'r ewffoniwm. Dallt?! Felly y peth olaf mae o isio ei wneud ydy chwysu ac roedd hi'n bum munud go chwyslyd iddo ar y llwyfan na! Ond roedd o mewn dipyn o sioc pan ddaeth y dyfarniad ac yn edrych yn smart iawn hefo'r fedal yn hongian rownd ei wddw wedyn! Da iawn Sion.

Wyneb newydd i mi oedd William Branston. Roedd o'n un o'r cystadleuwyr ar yr Unawd Oratorio. Mae o bellach yn byw yn Reading - ond hogyn o Benboer, Sir Gâr ydy o'n wreiddiol. Dyma'r tro cyntaf iddo gael llwyfan fel unigolyn. Diddordeb mawr arall ganddo ydy hwylio 'laser' - sef cwch un dyn.

Tydy un siwt ddim yn ddigon i ambell gystadleuydd! Mae gan Elgan Llyr Thomas siwt rhagbrawf a siwt llwyfan! Roedd o'n smart iawn yn y ddwy ohonyn nhw - ond yn gorfod newid gryn dipyn wrth fynd nôl a mlaen o'r llwyfan i ragbrawf!

Un o'r cystadleuwyr mwyaf siaradus heddiw oedd Mared Fflur Harries. Roedd hi'n cystadlu ar y Llefaru Unigol o'r Ysgrythur ac yn edrych ymlaen yn arw at gael mynd i Maes B ddiwedd yr wythnos.

Merched y Wawr oedd ar y llwyfan amser cinio a braf iawn oedd cael sgwrs hefo Mererid Jones - y Llywydd - wrth iddi hi drosglwyddo'r awenau i'r Llywydd newydd Gill Griffiths. Roedd Mererid wedi mwynhau y ddwy flynedd ddiwethaf yn y swydd, ac yn rhybuddio Gill y bydd y ddwy flynedd nesa' ma yn siwr o hedfan.

Wel mae p'nawn ma wedi hedfan go iawn. Mi ges i gyfle i grwydro ychydig o'r Maes hefo'r plant - a threulio oriau yn y babell Wyddoniaeth ac yn ciwio am ginio - pawb isio bwyta rhywbeth gwahanol! Dw i'n gweithio eto heno - cewch chi'r hanes 'fory!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Nia Lloyd Jones - Dydd Mawrth Awst 7

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 18:03, Dydd Mawrth, 7 Awst 2012

Sylwadau (0)

Celyn Llwyd oedd un o'r cystadleuwyr cyntaf welais i bore ma, yn canu alaw werin am 'y baw a'r llaca', ac mae hi wedi bod yng nghanol y baw, yn gwersylla yn y maes pebyll! Ac er gwaethaf cawod oer bore 'ma doedd hi ddim gwaeth, a llongyfarchiadau mawr iddi ar ennill y wobr gyntaf.

Roedd Joseff Glyn Clwyd Owen nôl ar y llwyfan heddiw - a fo enillodd gystadleuaeth y monolog dan 16 oed, gan gyflwyno gwaith ei dad. Mi gafodd o gyntaf ddoe hefyd - felly mae hi wedi bod yn Steddfod dda iawn iddo hyd yma - a bellach mae o'n troi ei orwelion am Maes B. Braf iawn!

Un o'r rhai ar y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth y ddawns arbenigol oedd Ioan Wyn Williams. Roedd gan Ioan wisg aur lachar iawn amdano heddiw. Mae o'n gwneud pob math o ddawnsio - jazz, ballet, hip hop, a ddiwedd yr wythnos fe fydd o nôl yma yn clocsio!

Un gafodd lwyddiant mawr heddiw ydy Steffan Rhys Hughes, gan ennill tair gwobr gyntaf. 'Da ni wedi hen arfer sgwrsio gefn llwyfan ac mae bob amser yn braf cael gair hefo fo, ond rargol, mae o'n ymddangos yn dalach bob blwyddyn!

Rhwng deuddeg a dau p'nawn ma - roedd cefn llwyfan yn llawn wrth i bedwar côr pensiynwyr ymgynnull. Mae 'na edrych ymlaen mawr at y gystadleuaeth hon yn flynyddol, ac fe gawson ni ganu bendigedig eto heddiw. Côr y Mochyn Du dan arweiniad Sioned James enillodd y wobr gyntaf a dw i'n siwr y bydd na dipyn o barti yn nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd heno. Roedd hi'n ddiwrnod mawr i Eirlys Britton heddiw - wrth iddi hi dderbyn Medal Syr TH Parry-Williams am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd ac ym myd y ddawns werin, ac yn naturiol roedd hi dan deimlad ar y llwyfan. Ond mi roeddwn i yn y cefn yng nghanol dawnswyr Nantgarw a Bro Taf a phob un ohonyn nhw wedi gwirioni ei gweld hi yn serenu ar ganol y llwyfan. Llongyfarchiadau i griw Nantgarw am ennill y wobr gyntaf am y cyflwyniad ar lafar, dawns a chân hefyd.

Cystadlu ar yr Unawd Cerdd Dant dan 21 oedd Mirain Fflur heddiw, ac mae'n syndod ei bod hi ar y llwyfan o gwbl, gan ei bod hi'n meddwl mai fory oedd y gystadleuaeth ar y llwyfan! Diolch i aelod o'r teulu am fynd i chwilio amdani - cyn iddi gyrraedd y bar! Dwy sydd wedi hen arfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ydy Ceri Wyn ac Elen Gwenllian, ac unwaith eto roedd y ddwy yn cystadlu ar y ddeialog. Mae pawb a'i ddull arbennig o ymarfer ymlaen llaw, ac o gofio bod Ceri yn byw yn Llundain a bod Elen yng Nghaerdydd - yr unig ffordd y gallen nhw ymarfer oedd dros y ffô²Ô! Wela i chi fory!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Rhun ap Iorwerth: Y gymhariaeth rhwng Cerys Matthews a'r Prifardd newydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 18:52, Dydd Llun, 6 Awst 2012

Sylwadau (0)

Mae Cerys Matthews newydd gyrraedd! Mae'n sefyll draw fan acw yn ein swyddfa yn trafod beth i'w gynnwys yn ei rhaglen hi o uchafbwyntiau'r Brifwyl fydd yn cael ei ddarlledu ar deledu rhwydwaith y Â鶹ԼÅÄ y penwythnos nesaf.

Nid ymffrostio ydi hyn ond, fel y dwedodd Neil Rosser yn ei gân, dwi'n adnabod Cerys Matthews hefyd - roedd hi yn y coleg efo fi (flwyddyn neu ddwy yn ôl, bellach!) ac rydw i'n falch iawn o'r llwyddiant rhyngwladol mae hi wedi ei brofi fel cantores.

Mae'n wych felly bod cynulleidfa deledu trwy Brydain am allu profi'r Brifwyl drwy lygaid un mor adnabyddus.

Fe ddylem fod yn falch iawn o'n hallforion Cymreig - yn gantorion, actorion, darlledwyr, pobl fusnes ac ati - ac heb os mae'n rhoi statws ychwanegol i'r Eisteddfod a'r diwylliant Cymreig yn ehangach pan mae'r bobl hynny yn dangos i'r byd mor bwysig iddyn nhw yw'r diwylliant hwnnw.

Rwyf am ddwyn cymhariaeth rhwng Cerys a'r Prifardd newydd os y caf i.

Roedd rhoi coron ar ben Gwyneth Lewis heddiw yn ddatganiad rhyngwladol o safon barddoniaeth Cymru. Dyma fardd byd-eang sydd â pharch byd-eang. Pan glyw y byd barddonol bod Gwyneth wedi ennill y wobr hon, bydd yn brawf iddyn nhw o bwysigrwydd y gystadleuaeth.

Os y barnodd y beirniaid bod Gwyneth Lewis yn wirioneddol deilwng o Goron yr Eisteddfod Genedlaethol, fe hoffwn innau ddatgan fy malchder bod ein traddodiad barddol Eisteddfodol cyn gryfed ag erioed a bod cystadleuaeth y Goron yn deilwng o gais gan Gwyneth Lewis.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Yn Llandŵ mae llain o dir

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 18:16, Dydd Llun, 6 Awst 2012

Sylwadau (0)

Helo? Oes 'na rhywun yno? Achos hyd y gwela' i mae pawb fan hyn, yn Llandŵ, yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.

Mae'n swyddogol. Mae Cymru wedi shrincio yr wythnos hon i faint llain o dir ar hen faes awyr. Wel, y Gymru Gymraeg. Wel, y Gymru Gymraeg (a di-Gymraeg hefyd) sy'n dod i'r Steddfod. Yr usual suspects.

Yma am wythnos o waith, rydw i wedi cael eiliad o hoe i gerdded o amgylch y maes heddiw a dyma be weles i: gwraig yn canu opera; tutu; dau oedolyn yn eu hoed a'u hamser yn canu "Pen, ysgwyddau, coesau, traed ..."; cornel werdd o'r maes sydd wedi ei throi'n ŵyl fach o fewn gŵyl gan amgylcheddwyr Cymru (fe fyddai Iolo Morgannwg yn rhoi sêl bendith mi gredaf ...); dau baramedig ar gefn beic; awyren arian enfawr a'i pheilot, yr artist Marc Rees, yn nillad mwya' cŵl yr ŵyl - iwnifform, cap pig gloyw ac aviators; criw yn dawnsio gwerin (ail ddillad mwya' cŵl yr ŵyl, ond dim ond ar gownt y clocsiau); criw yn gwneud Zumba; y cymeriad Heini yn diddanu tyrfa o blant a rhieni; Cerys Matthews mewn trilby; Dafydd Iwan yn canu Dau Gi Bach; Tardis Doctor Who; Gio Compare yn prynu crêpe a Martin Geraint yn canu mewn cylch o blant ym mhabell y Mudiad Meithrin.

A dim ond picio allan am ginio wnes i.

Ac ynghanol y cyfan ges i eiliad o lonyddwch wrth weld y lantern hyfryd hon, aeth â fi i'r dwyrain pell, dim ond am ennyd, cyn imi ddychwelyd i'r cae o Gymreictod:

(Dim fia bia teitl y blog yma gyda llaw - llinell gynta' cywydd croeso Islwyn Jones ydi o - dydi'r 'ffwrnais awen' yn y Fro ddim wedi fy nhroi'n fardd eto yn anffodus).

Cefn llwyfan gyda Nia Lloyd Jones - Dydd Llun Awst 6

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 17:51, Dydd Llun, 6 Awst 2012

Sylwadau (0)

Wel diwrnod prysur iawn heddiw!

Mae hi bob amser yn braf gweld cystadleuwyr yn dychwelyd i'r llwyfan yn flynyddol - ac mae hynny'n sicr yn wir am Gwenllian Llyr a Glain Dafydd. Roedd y ddwy yn cystadlu ar y ddeuawd offerynnol agored heddiw ond doedd y broses o ymarfer ddim yn un hawdd.

Ar hyn o bryd mae Gwenllian yn astudio yn Ysgol Juilliard yn Efrog Newydd a Glain yn y L'Ecole Normal ym Mharis.

Roedd Gwenllian nôl ar y llwyfan wedyn yn cystadlu am y Rhuban Glas Offerynnol.

Y ddau arall yn y gystadleuaeth honno oedd Elfair Grug Dyer a Rhodri Taylor. Dw i wedi dilyn gyrfa y ddau yma hefyd ers blynyddoedd bellach ac mae hi bob amser yn braf cael sgwrs hefo nhw. Ond Gwenllian ddaeth i'r brig heddiw.

Teimlo'n lwcus
Un o'r cystadleuwyr dan 12 oed heddiw oedd Erin Meirion ac mae hi'n credu'n gryf mewn 'lucky charms'. Roedd ganddi hi rai arbennig iawn - rhwng y tegan meddal, y freichled a'r fodrwy ar y gadwyn, heb anghofio'r blodyn yn ei phoced.

Fe eglurodd Erin bod rhain i gyd er cof am ei Anti Elen - fu farw'n frawychus o sydyn yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedd Elen yn ffrind coleg i mi a dwi'n siwr y byddai hi wedi bod wrth ei bodd yn gweld Erin yn canu cystal heddiw gan drysori'r atgofion melys ohoni hefyd.

Bangkok
Hogan brysur iawn ydy Nest Jenkins. Mae hi'n delynores o fri yn ogystal â bod yn llefarwraig ddawnus hefyd. Llefaru oedd hi heddiw a dydd Sul nesaf fe fydd hi'n mynd draw i Bangkok - gan ei bod hi wedi derbyn ysgoloriaeth i gystadlu mewn gŵyl i'r delyn yno. A chyn i neb ofyn ... na tydy hi ddim yn gorfod cludo'i thelyn ei hun yno!

Cystadleuydd prysur
Os oedd Nest yn brysur heddiw, roedd 'na un cystadleuydd arall yn brysurach fyth. Y gŵr bonheddig hwnnw oedd Cai Fô²Ô Davies - oedd ar y llwyfan bedair gwaith bore 'ma. Ac yn syth ar ôl gorffen cystadlu, roedd o ar ei ffordd i ragbrawf arall! Mae un peth yn sicr - mae o'n gadael y maes heddiw yn ddyn cyfoethog iawn!

Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Rhydian Jenkins hefyd. Yn ogystal â bod yn ganwr o fri mae Rhydian hefyd yn chwaraewr rygbi addawol iawn, ac yn aelod o dim dan 16 oed y Gweilch. Ond er hynny roedd o'n awyddus i bwysleisio ei fod yn parhau i gefnogi'r Scarlets.

Traed neu Iwerddon?
Wyneb newydd i mi oedd Steffan Evans oedd yn cystadlu ar y gystadleuaeth i'r delyn Geltaidd. Mae Steffan mewn dipyn o bicil ar hyn o bryd gan ei fod o yn aros am ei ganlyniadau lefel A ac angen penderfynu wedyn os ydy o am fynd i astudio podiatreg yng Nghaerdydd neu mynd draw i Limerick yn Iwerddon i astudio cerddoriaeth Wyddelig. Roedd o'n cyfaddef ei fod yn hoff iawn o gerddoriaeth y wlad honno ond bod ei dad yn falch iawn ei fod yn chwarae alawon Cymreig ar y llwyfan heddiw.

Nerfau
Llefaru dan 16 oedd Joseff Glyn Clwyd Owen a fo enillodd heddiw. Doedd o ddim yn nerfus chwaith ond roedd o'n cyfaddef fod ei fam yn swp sâl gefn llwyfan!

Hen stejar
Un sydd wedi hen arfer bod ar lwyfan y Genedlaethol ydy Mared Elin Williams a llongyfarchiadau mawr iddi ar ennill dwy wobr gyntaf heddiw. Ac roedd Mared yn gwisgo dwy ffrog wahanol ar y llwyfan ond erbyn gweld roedd 'na reswm da dros hynny - gan ei bod hi hefyd yn aelod o barti llwyddiannus Dyffryn Clwyd ac angen ymuno hefo nhw yn syth ar ôl cystadlu.

Un o'r 'boys'
Un o'r rhai ddaeth draw i 'ngweld i gefn llwyfan heddiw oedd Ifan Jenkin. Doedd o ddim yn cystadlu ond roedd o'n awyddus i ddweud helo - gan nad oedden ni wedi gweld ein gilydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae Ifan yn unawdydd piano talentog iawn ac mae o hefyd yn aelod o 'Only Boys Aloud'. Maen nhw newydd arwyddo cytundeb hefo Sony ac mae Ifan wrth ei fodd gan ei fod o hefyd yn aelod o'r academi sydd gan y bois. Braf iawn oedd cael sgwrs hefo fo heddiw.

Cystadleuaeth deuluol
Roedd 'na ddwy chwaer yn cystadlu yn erbyn ei gilydd heddiw yng nghystadleuaeth y dawnsio creadigol unigol - sef Eurgain Sara Lloyd a Naomi Melangell Lloyd. Cari Lloyd oedd yn gyfrifol am eu hyfforddi nhw - sef chwaer arall!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Iolo ap Dafydd: Prysurdeb ar Sul y Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

IoloapDafydd IoloapDafydd | 19:17, Dydd Sul, 5 Awst 2012

Sylwadau (0)

Mi ddechreuodd 'y niwrnod i yng nghefn y Pafiliwn - lle anghyfarwydd i hogyn o Lanrwst.

Wel, i'r hogyn dre yma o leiaf. Mi roedd hi fel ffair yna - plantos meithrin Bro Morgannwg fel chwain lliwgar yn cerdded i fewn i Ffau Llewod llwyfan y Pafiliwn. Rhieni yn ffarwelio gyda'u trysorau a merched y Mudiad Meithrin yn arwain un twr ar ôl y llall at yr ystafelloedd newid. Rhai yn gwenu, rhai yn syn a rhai yn beichio crio.

Ynghanol y terfysg a'r twrw yna, mi wnes i drïo clywed Nia Roberts yn cysylltu'n fyw â'n criw ffilmio ni yn fyw o'r stiwdio a rhaglen S4C o'r Eisteddfod.

Wrth lwc, mi roedd Rita Jones a Vanessa Powell o'r Mudiad Meithrin wrth law i sô²Ô am ddyfodol unedau meithrin Cymru a Vanessa yn cyfarwyddo pawb i'w lle eiliadau cyn ateb - gyda phwyll ag amynedd gwerth ei edmygu - fy nghwestiynau i am Sioe "Cadw'n Heini Yn y Fro".

Mae Suliau'r Steddfod wedi prysuro achos erbyn i mi gerdded ar draws y Maes at y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg, roedd heidiau yn gadael yr Oedfa ac yn cerdded linc-di-lonc am goffi neu fymryn o siopa.

Ma'r Brifwyl yn adlewyrchiad mwy cyflawn o wahanol agweddau o fywyd Cymru'r dyddiau hyn.

Braf oedd clywed gwahanol acenion amgylcheddwyr Cymraeg yn y Maes Gwyrdd. A Jill Bach - Jill Davies o Wrecsam sy'n dysgu Cymraeg - yn sô²Ô am y profiad gwahanol y mae hi ac eraill am ei gynnig i Eisteddfodwyr yr wythnos hon. Pobl sydd, be ddywedai, yn fwy traddodiadol?

Cofiwch, efallai bod gan lawer o aelodau corau, y bandiau pres ac ambell i unawdydd cerdd dant datŵs go drawiadol hefyd.

Lle arall gwahanol i'r arfer ydy'r pafiliwn pensaernïaeth. Mae trawstiau pren wedi'u gosod fel coedwig o amgylch y pafiliwn sy'n agos i leoliad Y Lle Celf. Cwt, sied, caban - ok adeilad gyda thô sinc - ydio i adlewyrchu tir a thriwedd Cymru yn ôl y pensaer o'r Bala, Rhys Llwyd Davies.

Ymysg y criwiau dewraf heb os yr wythnos hon ydy cynhyrchydd ac actorion cynhyrchiad 'Ma Bili'n Bwrw Bronco'. Cornel cae gwag ydy lleoliad y perfformiad ar hyn o bryd ond mi fydd 'na set awyr agored a lle i'r gynulleidfa eistedd o amgylch pan fydd y perfformiadau yn dechrau.

Dewr achos pan ges i air gyda Gareth Lloyd Roberts, roedd cymylau enfawr duon yn rowlio fewn o'r môr. Gwell dod ag ymbarel o bosib...

Micro cleimet - hwnna ydio. Achos mae'r haul wedi tywynu yn ddigon aml, er mi fyswn i'n dweud celwydd nad oes mwd, cawodydd glaw trofannol a digonedd o Eisteddfodwyr mewn wellingtons a 'sgidiau dal dŵr lliwgar ymhobman.

Nôl a fi wedyn i gefn y llwyfan. Siarad gyda thri oedd yn cystadlu yn yr unawd dan 12 - tri hyderus, parod i gystadlu - a thad un ohonyn nhw o Ddyffryn Conwy. Mi roedd o yn llawer mwy nerfus na'i blentyn, yn hopian yn anniddig o un goes i'r llall, gyda thensiwn yr aros am y gystadleuaeth yn llenwi 'i lygaid. Y petha' y mae rhai rhieni yn ei wneud i'w plant!

Mwy o'r Eisteddfod: canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes ar bbc.co.uk/eisteddfod

Nia Lloyd Jones - Dydd Sadwrn 5 Awst

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 19:01, Dydd Sul, 5 Awst 2012

Sylwadau (0)

Pan gyrhaeddais i gefn y llwyfan jyst cyn cinio, roedd hi fel bod mewn clamp o ysgol feithrin fawr yno, gan fod holl aelodau cylchoedd meithrin y sir yn dod oddi ar y llwyfan. Ac wir i chi, roedd hi'n werth gweld ymateb y rhieni, neiniau, teidiau ac ati wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau nôl i'w gofal! Pawb wedi dotio!!

Un o brif gystadlaethau'r p'nawn oedd un y côr hyd at 35 o leisiau - a thri chôr yn cystadlu heddiw - CF1, Bechgyn Bro Taf a Chôr Merched Cymry Llundain.

Mae Côr CF1 wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon yn y gorffennol ac yn ôl eu harweinydd, Eilir Owen Griffiths, os nad oedden nhw yn ennill eleni - wel dyna ddiwedd arni!

Fe gawson ni dipyn bach o'r 'Beach Boys' gan Fechgyn Bro Taf a Tina Turner wedyn gan Ferched Cymry Llundain, ac un oedd wrth ei fodd hefo'u perfformiad nhw oedd Cledwyn Ashford.

Mae Cledwyn yn aelod o dîm y prif stiward, ac roedd o'n digwydd bod gefn llwyfan pan glywodd y merched yn canu ac mi roedd o wedi gwirioni'n lân!

Ond nid Cledwyn oedd yn beirniadu heddiw, ac CF1 enillodd, felly llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.

Wedyn fe gawson ni'r criw ifanc, y rhai dan 12 oed, ar y llwyfan.

Canu oedd Nansi Rhys Adams heddiw, ac roedd hi wrth ei bodd ar y llwyfan mawr. Mae hi'n dipyn o actores hefyd a newydd fod yn actio rhan Annie mewn cynhyrchiad yn Neuadd Dewi Sant.

Mae gwobr Pishyn y Dydd yn mynd i Deio Llŷr. Roedd o'n cystadlu ar yr unawd cerdd dant heddiw ac yn edrych yn smart iawn yn ei grys siec a'r 'chinos'. Mae Nain a Taid Deio yn Eisteddfodwyr ffyddlon iawn ond yn ôl Deio maen nhw wedi aros adre eleni oherwydd bod Taid isio gweld y Gemau Olympaidd. Ond dwi'n siwr eu bod nhw wedi bod yn gwylio ac yn gwrando ar yr Eisteddfod heddiw!

Roedd Hanna Medi Davies yn ferch lwcus iawn heddiw - gan ei bod hi ar y llwyfan mewn dwy gystadleuaeth ac mae hi'n grediniol mai'r hyn sydd yn gyfrifol am ei llwyddiant ydy ei sanau lwcus! Mae hi'n aelod o glwb rhedeg a da o beth oedd hynny hefyd - gan ei bod hi'n gorfod rhedeg o gwmpas cefn y llwyfan - yn mynd o un gystadleuaeth i'r llall.

A dyna'i diwedd hi am heddiw - mwy o unigolion a mwy o sgwrsio fory!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes ar wefab bbc.co.uk/eisteddfod

Rhun ap Iorwerth: Braf a bwrw bob yn ail ar y trydydd dydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 17:49, Dydd Sul, 5 Awst 2012

Sylwadau (0)

Dydd Sul. Diwrnod 3. Ie, 3. Yn barod.

Mae'n braf. Mae'n bwrw. Am yn ail. A weithiau yr un pryd. Ond dwi ddim yn cwyno - mae eisiau amrywiaeth yn yr Eisteddfod, a pham eithrio'r tywydd o hynny!

Mae hwn yn faes mawr, ac mi fydd yn ganol yr wythnos erbyn i mi gael cyfle i ymweld â phob rhan ohono, ond mae digon wedi dal fy sylw'n barod.

Arwydd o'r oes yn gyntaf - cyfrwch bolion y Pafiliwn. Chwech eleni, nid wyth. Mae'r pafiliwn 25% yn llai. Arbed costau yw'r rheswm dwi'n siwr, ond mi fyddai'n drueni gweld y Paf yn colli ei statws mawreddog ymhellach.

Yn y Lle Celf, mae'r 'traeth' polisteirin yn drawiadol tu hwnt. Fe sefais yn syllu ato am sbel cyn sylwi nad cerrig go iawn oedd o fy mlaen fel taen nhw'n diflannu'n bell i orwel y babell.

Mae'r bar wedi ei godi, fel petae, o ran safon y bwyd ar y maes. Dau ginio hyd yma. Dau fyrgyr gourmet gwahanol, a dwi'n hapus. Mae 'na gynnyrch safonol yma - a hwnnw'n gynnyrch lleol. Da iawn, Eisteddfod.

Ac mae sioe Cyw mor boblogaidd ag erioed. Y plant yn chwerthin lond eu boliau wrth wylio Huw Stomp. Digwydd cerdded heibio oeddwn i, gyda llaw. Doedd gen i ddim tocyn i fynd mewn, ac mae'n debyg fy mod yn rhy hen beth bynnag.

Gyda llaw, mi ysgrifennais ar y dechrau mai dyma drydydd diwrnod yr Eisteddfod. Pam mai dyddiadau 'swyddogol' yr Eisteddfod yw Awst 4-11? Sadwrn i Sadwrn? Roedd y seremoni agoriadol a chyngerdd agoriadol ar y nos Wener. Y pafiliwn dan ei sang, ond ddim yn swyddogol yn rhan o'r Eisteddfod ei hun? D'wedwch hynny wrth y plant lleol oedd yn cymryd rhan!

Ie, yn fy ngolwg bersonol i, beth bynnag - dydd Sul, diwrnod TRI. Ar y mesur hwnnw rydan ni draean o'r ffordd drwodd yn barod.

Mwy o'r Eisteddfod: canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes - bbc.co.uk/eisteddfod

Nia Lloyd Jones - Dydd Sadwrn 4 Awst

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 19:03, Dydd Sadwrn, 4 Awst 2012

Sylwadau (0)

Wel dyma ni unwaith eto!

Mae'n anodd credu bod deuddeg mis wedi mynd ers Eisteddfod Wrecsam, a gan nad oeddwn i yn gweithio yn Eisteddfod yr Urdd eleni, roedd hi'n braf iawn cyrraedd y maes bore 'ma a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd!

Yng nghefn y llwyfan fydda i unwaith eto eleni a chyn belled ag ydw i yn y cwestiwn - fanno 'di'r lle i fod - ynghanol y cystadleuwyr, hyfforddwyr a'r cefnogwyr.

Sioe deuluol
Diwrnod y bandiau pres a'r corau ydy dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod a'r band cyntaf welais i ar y llwyfan oedd Band Crwbin. Julian Jones sy'n arwain y band, ac mae ei ddau fab yn aelodau - Trystan yn chwarae'r trombô²Ô a Meredydd ar yr offerynnau pres.

Nia Lloyd Jones gefn llwyfan gyda Jonathan Thomas

Ìý

Aelod arall o'r band, ac un o'r unawdwyr heddiw, oedd Jonathan Thomas. Mae o wrth ei fodd yn perfformio hefo nhw - ac wedi cael tatŵ o'r 'treble clef' ar ei law fel prawf o hynny. Tybed fydd y 'base clef' yn ymddangos cyn hir - ac yn lle?!

Y corau
Roedd na gystadleuaeth dda ymysg y corau cymysg heddiw - gyda chwe côr ar y llwyfan.

Côr Godre'r Garth oedd yn agor y gystadleuaeth - ac mae hi'n mynd i fod yn wythnos brysur iawn i'w arweinydd nhw - sef Eilir Owen Griffiths - gan ei fod o hefyd yn arwain Côr CF1.

Diolch o galon i Robat Arwyn am sgwrsio hefo fi - er ei fod o dan deimlad mawr ar ôl arwain Côr Rhuthun heddiw.

Côr sydd yn mynd o nerth i nerth ydy Côr Bro Meirion - dan arweiniad y milfeddyg - Iwan Wyn Parry, ac fe gawson nhw glamp o gymeradwyaeth gan y gynulleidfa heddiw.

Côr Llanddarog oedd y côr i'w guro - gan eu bod nhw yn mynd am yr 'hatrick' eleni. Doedd un o'r altos ddim yno heddiw - sef Ceri Rees - gan ei bod hi newydd roi genedigaeth i Cai - felly llongyfarchiadau mawr iddi hi , a phwy â ŵyr - ella bydd Cai yn canu hefo'r côr rhyw ddiwrnod.

Gemau Olympaidd
Tasech chi'n cael dewis dod i'r Eisteddfod neu fynd i'r Gemau Olympaidd - lle fyddech chi'n mynd?

Nia Lloyd Jones gefn llwyfan gyda Rhian Jones

Ìý

Wel dyna benbleth Rhian Jones - aelod o Gôr Caerdydd. Mae hi wedi llwyddo i gyfuno'r ddau ddigwyddiad - drwy wirfoddoli yn y Gemau - yn Greenwich, a chanu hefo'r côr hefyd! Ac ar ôl y canlyniad heno - fe fydd hi'n dychwelyd i Lundain. Mae Côr Crymych a'r Cylch - fel Côr Rhuthun wedi cael dillad newydd, a smart iawn oedden nhw hefyd. Mae'n debyg bod 'na ddwy feistres y gwisgoedd yn gyfrifol am y gwaith o ddewis a dethol gwisg addas a diolch byth roedd pawb yn gytûn hefo'r dewis terfynol. Ambell i gynnig Mae hi bob amser yn braf gweld wynebau cyfarwydd o un flwyddyn i'r llall - ac un o'r rhai hynny oedd Eifion o Fand Drenewydd. Nid yn unig roedd o'n falch o ngweld i - ond fe ges i gynnig ymaelodi hefo'r band hefyd! Gyda llaw mae Band Drenewydd yn chwilio am aelodau newydd, felly os oes gennych chi ddiddordeb, mi gewch chi groeso mawr yno. Mae 'na sawl offeryn wrth gwrs mewn band pres, ond mae'n gwbl amlwg i mi mai'r corned ydy'r offeryn mwyaf poblogaidd ac oherwydd hynny - weithiau mai na brinder ymhlith adrannau eraill y band. Diolch felly am offerynwyr dawnus fel Nadine - o Fand Llwydcoed ym Merthyr - sy'n chwarae'r corned, corn tenor a'r corn ffliwgal! A dyna ni - y diwrnod cynta wedi dod i ben. Dw i am fynd adra rwan i socian fy nhraed!!

Iolo ap Dafydd: E-day i 'Steddfod Bro Morgannwg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

IoloapDafydd IoloapDafydd | 14:24, Dydd Sadwrn, 4 Awst 2012

Sylwadau (0)

D-day - wel, E-day i Steddfod Bro Morgannwg, achos i'r cannoedd sydd wedi gweithio, gwirfoddoli a threfnu, a'r miloedd sydd wedi bod yn codi arian yn lleol, mae'n siwr fod yr oriau cyntaf wedi hedfan gydag ochenaid o ryddhad.

Llongyfarchiadau ichi, achos yn yr oriau agoriadol yna dwi wedi gweld sawl cornel o'r maes wrth imi sgwrsio a siarad gyda stwiardiaid, amgylcheddwyr, lobïwyr a phobl ar ambell stondin.

Gyda'r haul allan - er bygthiad y cymylau - mi all y pwyllgor gwaith lleol fod yn falch o'u hymdrechion.

Welis i waith lliwgar plant Ysgol Feithrin Cogan, Penarth, yn olrhain hanes y Steddfod o gyfnod yr hen Iolo Morgannwg ei hun bron, hyd y sioe gyfoes a'r cystadlu yn y pafiliwn pinc sy'n digwydd eleni.

Be sy'n newydd? Eithaf tipyn. Mae'r Maes Gwyrdd yn haeddu ymweliad - a siaradwch gyda Nathan Williams a Donal Whelan. Ma'r naill yn un o'r rhai gafodd y syniad am y Maes gyda phobl eraill fel Jill Bach - sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhagorol ers imi siarad â hi ddiwethaf ger Merthyr Tudful ddwy flynedd yn ôl. Jill hynny ydy nid Nathan, mae'i Gymraeg o yn naturiol ddigon. Mae'n gerddor yn ogystal â bod yn amgylcheddwr.

Mi fu Nathan yn dweud wrtha' i am syniadaeth sefydlu canolfan - o'r enw e-coleg - ar y Maes, fydd yn llwyfan i ddarlithoedd a gigs a phweru'r cyfan oddi ar baneli solar. Da felly, bod yr haul yn tywynnu yn Llandŵ! Ar hyn o bryd.

Mi ddywedodd Nathan hefyd nad pregethu na chenhadu ydy'r bwriad - er fod ei daid yn bregethwr, meddai, a bod rhywbeth Beiblaidd am ei farf ddu a'i sandalau yntau hefyd.

Mi fues i draw i babell Cymdeithas yr Iaith hefyd i siarad gyda Bethan Williams - cadeiryddes bresennol y Gymdeithas. Mae'r dathliad hanner canrif yn bwysig iddyn nhw eleni - bwrw golwg nôl ar ymgyrchoedd y gorffennol. Ac mi wnaeth o'n nharo i na fydd gwrthdystiad nag ymgyrch benodol ar eu "brwydr dros yr iaith" eleni yn ôl Bethan, a finna'n cwestiynu os ydy dyddiau protestio uniongyrchol yn dirwyn i ben, a dyddiau lobïo wedi cyrraedd.

Dwi ar fin mynd am babell y Celf a Chrefft nesaf - mae'n un o fy hoff gyrchfannau ar y maes bob blwyddyn - ac rydw i'n cofio sawl arddangosfa drawiadol - yn enwedig Glyn Ebwy ddwy flynedd yn ôl.

Mi fyddai'n cael gair gyda'r artist Iwan Bala hefyd, ac efallai gawn ni sgwrs am ein dyddiau yn labro yn y Steddfod i gwmni Woodhouse Nottingham, a arferai godi pebyll y maes am flynyddoedd maith.

Dwi'n siwr hefyd y byddwn ni'n hel straeon am fforman y cwmni oedd yn ein cyflogi fel glaslanciau flynyddoedd yn ôl - Barry Sawyer. Dyn garw gyda chalon o aur. Mi fyddai sawl Steddfod wedi baglu onibai am y Sais yma a oedd yn gefnogwr ffanatig o Nottingham Forest. Mi regai fel trwper yn aml, ond roedd ganddo falchder enfawr yn ei waith. Heddwch i'w lwch, a rhan o'm mhrofiad Eisteddfodol i lawn cymaint â'r gwaith cyflwyno 'dwi'n ei wneud eleni.

Rhun ap Iorwerth - Blog Sadwrn Cyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 12:06, Dydd Sadwrn, 4 Awst 2012

Sylwadau (0)

Mae cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4 yr Eisteddfod ar un sgrin o fy mlaen, a triathlon y merched yn y gemau Olympaidd ar sgrîn arall. Ydi, mae hon yn mynd i fod yn wythnos o blethu dau ddigwyddiad tra gwahanol.

'Dwi wrth fy modd efo'r gemau Olympaidd. Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn wledd - Michael Phelps yn y pwll, beicwyr Prydain yn y Velodrome, Jessica Ennis yn rhyfeddu pawb yn y stadiwm athletau a - fy ffefryn personol i - tîm dynion boliog, blewog yr Eidal yn trechu tîm o Americanwyr Hollywood-aidd gyda sgôr perffaith o 10 ar y saeth olaf un yng nghystadleuaeth y timau bwa saeth. Mi alla' i wylio a gwylio am oriau, ac mi fues yn ddigon ffodus i gael bod yn Llundain ar y noson agoriadol yn cyflwyno rhaglen arbennig i S4C gyda'r parc Olympaidd yn gefnlen.

Diolch byth, does dim raid aros pedair blynedd rhwng un Eisteddfod Genedlaethol a'r nesaf a bellach - gyda phrifwyl Wrecsam yn ymddangos yn frawychus o ddiweddar - dwi yma ym Mro Morgannwg, yn sŵn y bandiau pres, ac yn edrych ymlaen am wythnos i'w chofio.

Fel yn y gemau Olympaidd yr amrywiaeth yw rhan o apêl yr Eisteddfod i fi. Mi fydd y prif gystadlaethau yn bachu'r penawdau wrth gwrs: y gadair a'r goron, rhuban glas yr unawdwyr, y corau mawr - dyna'r fersiynau Eisteddfodol, am wn i, o'r gwibio 100m Olympaidd. Y Prifardd ifanc newydd Rhys Iorwerth oedd Usain Bolt Eisteddfod Wrecsam y llynedd.

Ond fel yn Llundain, bydd sêr newydd yn dod i'r amlwg yr wythnos yma yn y Fro a hynny, weithiau, o lefydd mwy annisgwyl. Dwi'n edrych mlaen i brofi gwaith ein enillwyr Celf, i weld pwy fydd yn llwyddo - fwy nac unwaith efallai - wrth fentro i'r llwyfan am y tro cyntaf.

Mae mwy i'r Eisteddfod, fodd bynnag, na'r enillwyr a'r cystadlu ei hun. Yn Llundain wythnos yn ôl, cefais fy nharo gan gyffro'r awyrgylch. Pawb yn eu hwyliau. Bechgyn lleol yr East End yn chwarae gêm o 'pa-wlad-fydd-nesaf-i-orymdeithio-o-gwmpas-y-stadiwm' yn y Carpenters Arms yn ystod y seremoni agoriadol. Yr edrych 'mlaen.

Yr awyrgylch sy'n gwneud Eisteddfod hefyd. Dwi wedi dweud hyn o'r blaen, ond mae gan bob Eisteddfod - a phob gemau Olympaidd - ei chymeriad ei hun. 'Sgwn i pa atgofion fydda' i'n mynd adref efo fi ar ôl prifwyl 2012? Dwi'n edrych mlaen i ddarganfod yr ateb.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.