Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - dydd Sadwrn Awst 11

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 17:29, Dydd Llun, 13 Awst 2012

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar y llwyfan oedd Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis i rai dos 21 oed. Roedd hon yn chwip o gystadleuaeth gyda Dafydd Jones ac Edryd Williams - dau eisteddfodwr profiadol iawn - a Mair Tomos Ifans ar y llwyfan. Tydy Mair ddim wedi cystadlu ers blynyddoedd ond fe gafodd hi andros o hwyl dda ar y llwyfan - a hi enillodd heddiw. Edrych ymlaen i dy weld ti yn Ninbych flwyddyn nesa rwan Mair.



Llongyfarchiadau mawr i Esyllt Tudur ar ennill yr Unawd Cerdd Dant agored. Mae Esyllt eisoes wedi ennill y Llwyd o'r Bryn, a gwobr Lady Herbert Lewis, felly dyma hatrick go iawn.

Dw i ddim isio i chi feddwl fod gen i rhyw obsesiwn hefo JPR Williams, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod hi'n braf ei weld o unwaith eto gefn llwyfan, a'r tro yma doedd o ddim yno yn rhinwedd ei swydd fel stiward. Cystadleuydd oedd o y tro hwn - gan ei fod o yn aelod o Gôr Meibion y Machlud - ac yn canu dan arweiniad un o'r Dyniadon Hirfelyn Tesog sef Eric Dafydd.



Y penwythnos diwethaf roedd Mike Williams ar y llwyfan yn arwain côr o ferched o Lundain, a heddiw roedd ganddo gôr meibion sef Eschoir. Ro'n i'n amau mai gwerthu teis oedd Gareth, un o'r aelodau, wrth y drws yng nghefn y llwyfan, ond erbyn gweld aros i weddill yr aelodau gyrraedd oedd o!

Diwrnod y corau meibion ydy dydd Sadwrn, a llongyfarchiadau mawr i Gôr Llangwm ar ennill y gystadleuaeth i Gorau Meibion hyd at 45 mewn nifer. Ond druan ag un o'r aelodau - sef Alun. Roedd Alun wedi dod i lawr yn y car a'r garafan yn eu dilyn ond fe wnaeth 'na gar arall ddreifio i mewn i'r garafan, nes ei bod hi'n llanast. O gofio bod Alun yn bwriadu mynd yn syth o'r Eisteddfod ar ei wyliau i Ffrainc doedd ond un peth amdani - prynu pabell! Gobeithio caiff o amser gwych yn honno.



Roedd hi'n andros o boeth gefn llwyfan heddiw ac un oedd yn teimlo'r gwres oedd Rhian James. Mae Rhian yn aelod o Ddawnswyr Caerdydd ac o dan y wisg frethyn roedd ganddi bais a theits hefyd!!



Os oes 'na un perfformiad yn aros yn y cof heddiw - perfformiad Côr Meibion Rhosllanerchrugog o 'Rondes' gan Folke Rabe ydy hwnnw. Darn heb eiriau ydy hwn - lle mae'r côr yn gwneud pob math o synnau gwahanol - gan gynnwys sibrwd eu rhif ffôn a newid lleoliad hefo'r person drws nesa! Wir i chi - welais i erioed unrhyw beth tebyg i hyn o'r blaen ond fe gawson nhw hwyl arbennig o dda ar y llwyfan heddiw - a chipio'r wobr gyntaf am yr ail flwyddyn yn olynnol.


A dyna ni - Eisteddfod arall wedi dod i ben, a finna wedi cyfarfod llu o gystadleuwyr newydd a nifer o hen stejars hefyd. Diolch o galon i bawb am fod mor barod i sgwrsio, ac os byw ac iach, fe fyddwn ni gyd yn ôl yn Ninbych flwyddyn nesa. Dw i'n edrych ymlaen yn barod!!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.