Â鶹ԼÅÄ

Archifau Mehefin 2012

Yr Archdderwyddes gyntaf?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 11:55, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Felly, mae'n debyg y bydd 'na ferch yn cael ei phenodi'n Archdderwydd am y tro cyntaf erioed yn hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Dr Christine James yw'r unig enwebiad ddaeth i law ar gyfer y swydd am y cyfnod 2013-16 a bydd yn rhaid i Orsedd y Beirdd gadarnhau yr enwebiad yn eu cyfarfod blynyddol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Archdderwydd presennol yn ystod seremoni groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Ddinbych ddydd Sadwrn 23 Mehefin.

Meddai Jim Parc Nest: "Yn unol â threfniannau Gorsedd y Beirdd, gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer swydd yr Archdderwydd, ac erbyn y dyddiad cau, roedd y Cofiadur wedi derbyn un enwebiad. Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau'r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny'n hapus iawn, mai enw Christine James o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg."

Mae'r Dr James, enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005, yn Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac wedi dysgu'r Gymraeg tra roedd hi yn yr ysgol yn y Porth, Cwm Rhondda.

Ai cyd-ddigwyddiad yw hi mai merch yw'r unig enwebiad am y swydd aruchel y tro hwn wedi dipyn o hŵ ha dair blynedd yn ôl pan dynnodd Mererid Hopwood yn ôl o'r ras?

I weld rhestr o'r dynion sydd wedi bod yn Archdderwyddon ers 1888 . Mae 'na ferched ymhlith y deunaw o Swyddogion yr Orsedd; dwy ohonyn nhw - un yn Swyddog Cysylltiadau Celtaidd a'r llall yn gyfrifol am y gwisgoedd.

Pigion Prifwyl yr Urdd 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Elin Meredith Elin Meredith | 13:33, Dydd Llun, 11 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Mae Eisteddfod yr Urdd drosodd am flwyddyn arall; y canu, cystadlu, canmol a'r cwyno wedi tewi.

Mae'n anffodus y bydd llawer yn cofio gŵyl 2012 am dagfeydd traffig ar ddechrau'r wythnos a thywydd erchyll ar ddiwedd yr wythnos. Efallai fod y ffigyrau ymweld wedi dioddef o'i herwydd, ond "di glaw ddim yn mynd i stopio'r Steddfod nachdi?" fel y dywedodd un cystadleuydd ar Radio Cymru ddydd Sadwrn, ac mi aeth y cystadlu yn ei flaen fel arfer.

Felly ar wahân i mwd, beth sy'n aros yn y cof? Oddi ar y llwyfan mawr, lle mae'r safon yn ddigwestiwn ac wedi cyrraedd uchelfannau eto eleni mae'n debyg - gwrandewch ar raglen pigion Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru i glywed yr uchafbwyntiau (ar gael tan ddydd Sul, 17 Meh 2012) - dyma ddetholiad o rai o'r pethau eraill a wnaeth argraff, nid mewn unrhyw drefn arbennig:

  • Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, yn dweud bod ei harhosiad yn nhref Caernarfon dros yr wythnos wedi ei hargyhoeddi pam y dylai'r Eisteddfod aros yn ŵyl deithiol: "Rwy'n argyhoeddedig," meddai "y dylai pob plentyn yng Nghymru dreulio amser yng Nghaernarfon i glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol ar y strydoedd."
  • Llywydd y Dydd ddydd Mercher, Gari Wyn, yn dweud nad oedd ei genhedlaeth o, "y rhai sy'n 50 a throsodd", wedi gwerthfawrogi na gwneud digon i feithrin arweinwyr ymysg pobl ifanc: "Rydw i'n teimlo bod fy nho i yn cael gormod o sylw fel arweinwyr ym myd gwleidyddiaeth a'r cyfryngau a bod angen inni sylweddoli mai nhw [pobl ifanc] ydi ein dyfodol ni," meddai gan fynd ymlaen i ddweud ei fod eisiau gweld pobl ifanc yn arwain pob achlysur yn Eisteddfod yr Urdd.
  • Anerchiad teimladwy Malcolm Allen fel Llywydd y Dydd dydd Iau yn dweud ei fod yn "derbyn yr anrhydedd ar ran pobl gyffredin y fro." Yn hogyn ifanc yn Neiniolen, doedd o ddim yn llenor nac yn llefarwr, ac yn fawr o gantor, meddai, ond â'r bêl gron wrth ei draed, roedd "yn dod yn fyw", ac mi gafodd o gyfle, meddai. "Mae 'na rywbeth arbennig ym mhob plentyn, dim ond iddyn nhw gael y cyfle," ychwanegodd.
  • Stiwardiaid arwrol y meysydd parcio b'nawn Gwener, yn fwd o'u coron i'w sawdl ac yn wlyb at eu crwyn ynghanol y dilyw, yn helpu pobl i adael y maes drwy alw am dractor neu wthio'r ceir o'r mwd eu hunain, ac yn dal i lwyddo i wenu a sgwrsio'n glên.
  • Huodledd y bobl ifanc a enillodd y prif wobrau llenyddol a chyfansoddi yn siarad mor ffres a difyr am eu gwaith a'u syniadau.
  • Y pwyslais ar yr Urdd fel mudiad iaith gan wahanol sefydliadau ac unigolion oedd yn siarad â'r wasg oedd yn dweud dro ar ôl dro pa mor bwysig ydi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc, dim ots ym mha faes, "trwy gyfrwng y Gymraeg" - boed yn chwaraeon, coginio, canu, rapio, canŵio ... neu rowlio mewn mwd (sy'n un o weithgareddau swyddogol gwersyll yr Urdd, Llangrannog, mae'n debyg).
  • Sylweddoli, yn sgîl ymweliad Leighton Andrews â'r maes ddydd Iau i hyrwyddo menter i daclo tlodi diwylliannol, mai canran fechan iawn o blant Cymru sydd yn cael cyfleoedd o'r fath, mewn unrhyw iaith, a bod pawb oedd yno yr wythnos hon mewn lleiafrif lwcus iawn.
  • Afiaith a hiwmor dau ddisgybl o Lambed a Chrymych yn sôn am eu taith gyda 19 o ddisgyblion eraill i Batagonia - roedd pawb oedd yn gwrando yn y gynhadledd i'r wasg eisiau mynd efo nhw!
  • Y gwneuthurwr clocsiau Trefor Owen yn dangos y coed, oedd i'w gweld o'r maes yng Nglynllifon, y mae'n eu defnyddio i greu clocsiau Cymru. Mae 'na gynnydd yn y diddordeb mewn dawnsio clocsen yng Nghymru ond prinder pobl i wneud clocsiau. Mae Trefor a'r mudiad Trac eisiau cynnal amnesti clocsiau er mwyn mynd ati i greu Llyfrgell Glocsiau i gynnig dull fforddiadwy i bobl fenthyg clocsiau.
  • Yn ôl adroddiadau'r bobl aeth i'w gweld, roedd y sioe ieuenctid Glee-esque, Sbri!, yn werth chweil a dywedodd Efa Gruffudd Jones ar fore cynta'r ŵyl, ei bod yn teimlo ei bod eisoes wedi gweld un o uchafbwyntiau'r eisteddfod wedi perfformiadau'r penwythnos.

Yn Sir Benfro mae Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesa': dechreuwch weddïo am dywydd braf.

Dyfal donc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý,Ìý,Ìý

Elin Meredith Elin Meredith | 11:55, Dydd Sadwrn, 9 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Wrth i wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon dynnu i'w therfyn a chystadlaethau'r prif seremonïau ddod i ben gyda choroni Prif Lenor yr ŵyl ddydd Gwener, mae'n werth nodi faint o'r prif enillwyr sydd wedi dod yn ail a thrydydd yn eu cystadlaethau o'r blaen cyn cyrraedd y brig.

Eleni, fel pob blwyddyn, mae 'na ganmol ar safon uchel y cystadlu ar lwyfan prifwyl yr Urdd, ac ar y cystadlaethau offerynnol yn enwedig, sydd i'w gweld yn codi a chodi bob blwyddyn a'r perfformiadau yn cyrraedd safon broffesiynol, yn ôl gwybodusion.

Ond tra mae'n cael ei dderbyn fod angen ymarfer caled a chyson i ddod â llwyddiant mewn chwarae offeryn cerdd, ac mewn datblygu'r llais, mae 'na ryw syniad rhamantus weithiau fod barddoni, 'sgwennu a chyfansoddi yn ryw ddawn gynhenid sy'n dod o unlle, ac mai'r 'awen' sy'n gyfrifol am gampweithiau llenyddol.

Efallai fod 'na wirionedd yn hynny, ond mae pob un o'r bobl ifanc sydd wedi ennill bri yn y pif seremonïau eleni wedi dangos eu bod nhw'n bobl sydd wedi gweithio'n galed i fireinio eu crefft a dyfalbarhau nes cyrraedd eu nod.

Tri chynnig i Gymro oedd hi i Aled Wyn Clark ddydd Llun oedd wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr yn 2010 a 2011 cyn dod yn gyntaf eleni. Soniodd sut roedd y feirniadaeth a gafodd yn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ei ysgogi i ddal i drïo a soniodd sut roedd am barhau i astudio ei grefft er mwyn "cael gwared â'r gwallau ...".

Ddydd Mawrth, Nia Haf Jones oedd yn dweud bod ennill y Fedal i Ddysgwyr wedi bod yn uchelgais ganddi ers pum mlynedd ac, yn 15 oed, mae wedi ei gwireddu.

Roedd LlÅ·r Titus ddydd Mercher yn drydydd yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn 2011 (ac yn gyntaf yng ngystadleuaeth y Goron y flwyddyn honno hefyd) a dywedodd ei fod wedi gwrando ar y feirniadaeth a datblygu. Cafodd y cyngor i fod yn fwy uchelgeisiol meddai, a dyna a wnaeth.

Yna Gruffudd Antur a'r Gadair ddydd Iau: yn ail yn Llanerchaeron ddwy flynedd yn ôl ac yn "gwingo", meddai, wrth edrych yn ôl ar ei hen gerddi. Ac er ei fod yn ddim ond yn 20 oed, dywed ei fod wedi bod yn cynganeddu ers bron i ddeng mlynedd, ac yn darllen popeth all o er mwyn dysgu mwy am ei grefft.

A ddydd Gwener, cyflwynydd teledu a chantores adnabyddus, Anni Llŷn, yn wên o glust i glust wrth gael ei choroni'n Brif Lenor wedi iddi ddod yn drydydd y llynedd.

Dydy'r rhain ddim yn bobl sy'n rhoi i fyny a ddim chwaith yn bobl sy'n cymryd eu dawn yn ganiataol - maen nhw'n fodlon gweithio'n galed, yn fodlon trïo, ac yn fodlon 'methu' (er nad dyna'r gair mwyaf addas am lwyddo i ddod yn ail a thrydydd efallai), cyn trïo eto - a chyrraedd y nod.

Mae'n atgoffa rhywun o eiriau Samuel Beckett: Ever tried. Ever failed. No matter. Try again. Fail again. Fail better.

Neu yn Gymraeg, dyfal donc a dyrr y garreg.


'T' am Tymhorau (a TÅ· bach ... a Traffig)

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 12:18, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

"Plis ewch â'r plant i'r tŷ bach cyn mynd i gefn y pafiliwn!"

Dyna'r rhybudd ar y darn o bapur ddaeth o'r practis ola yn yr ysgol feithrin cyn Y DIWRNOD MAWR. Gyda 300 o blant rhwng 2 a 4 oed ar lwyfan prifwyl yr Urdd ar gyfer y sioe feithrin, y cyflwyniad sydd heb os yn haeddu'r wobr gyntaf am y ciwt-ffactor, roedd y rhybudd yn cynrychioli'r potential oedd 'na am anhrefn llwyr ar y llwyfan fore Llun.

Ond, ychydig a wyddem, wrth gychwyn o'r tÅ· mewn da bryd fore Llun, mai hynny fyddai'r lleiaf o'n pryderon y bore hwnnw.

Roedd popeth yn mynd yn iawn, nes cyrraedd Llanwnda, yna, bang! Traffig solet.

Ar ôl awr o fod heb symud ryw lawer, ac amser y perfformiad yn agosáu, dechreuodd y panic. Yn raddol, roedd drysau'r ceir yn agor a mam neu dad yn dod allan i redeg i faes y frwydr gyda'u gwynt yn eu dwrn a'u plentyn yn eu breichiau.

Ac yn sydyn, ro'n i'n ymuno â nhw. Fel ryw ras gyfnewid wallgo efo plant bach; rhieni yn brasgamu o bob cyfeiriad tuag at y maes. I ffwrdd â fi, yn symud yn gyflymach nag mae neb wedi fy ngweld yn ei wneud ers sawl blwyddyn, â merch fach binc yn giglo'n gynhyrfus wrth inni garlamu tuag at y terfyn - y babell ymgynnull, jyst mewn pryd.

Oes, rhaid imi ddatgan diddordeb personol eleni: wedi 20 mlynedd a mwy heb fod ar gyfyl llwyfan unrhyw eisteddfod, dwi'n cymryd y cam cyntaf at fod yn un o'r miloedd o rieni mewn welis sy'n llusgo i Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn.

Wnes i erioed feddwl y buaswn i fyth nôl fan hyn: yn rhuthro i'r maes, yn mynd dros y geiriau, yn brwsio gwallt munud ola'. Ond mae CD y Brodyr Gregory wedi bod ar lŵp yn y car (ac yn ein pennau) ers wythnosau a fy merch fach yn cynrychioli yr Haf yn sioe y Tywydd a'r Tymhorau ar ddiwrnod cynta'r ŵyl.

Mae'n ddiwedd cyfnod, yn ddechrau cyfnod, yn ystrydeb ddosbarth canol, yn gylch bywyd yn troi.

Ac wrth inni gymryd ein seddau yn y Pafiliwn, yn llawn balchder (ac ychydig allan o wynt) mae'n fy nharo mai dyma fy lle bellach.

Ar y llwyfan mae fy nheirblwydd fach a'i chyfoedion yn sgleinio fel sylltau ac yn sbloets o liw dan y llifoleuadau. Amrywiol yw eu hymroddiad i'r perfformiad: rhai yn bloeddio canu, rhai ar streic canu, y mwyafrif yn edrych yn syn ar y môr o wynebau yn eu gwylio, neu, fel fy etifeddes i a'i ffrindiau, yn rhedeg o gwmpas yn y cefn lle doedd neb yn gallu eu gweld nhw. Ac yn cael modd i fyw.

Mae'r gymhariaeth efo'r profiad o fod yn rhiant yn reit amlwg yr wythnos hon.

Blantos, eich sioe chi ydy hon - ewch amdani!

[Rhaid nodi, fod traffig Eisteddfod yr Urdd erbyn bore 'ma i'w weld yn llifo'n rhwydd a chyflym at faes Glynllifon!]

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.