Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Casglu'r Sgymraeg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 06:56, Dydd Iau, 24 Tachwedd 2011

I nifer y gwn i amdanyn nhw, dyma'r lle cyntaf i droi iddo yn Golwg bob wythnos.

Cornel y Sgymraeg dan ofal Jac Codi Baw.

Ac ar gyfer y Nadolig bydd llyfr o'r gorau o'r gwaethaf o arwyddion Sgymraeg yn y siopau gan wasg y Lolfa.

Clawr y llyfr

Arwyddion Cymraeg sâl o bob rhan o Gymru gyda sylwadau gan Euron Griffith, a gyhoeddodd ei nofel gyntaf Dyn Pob Un yn gynharach eleni.

I ddarllenwyr a fu'n bwydo Golwg â'r arwyddion y mae'r diolch fod yr arwyddion ar gof a chadw.

Bellach maen nhw i'w gweld ar y we hefyd wrth i bobl fynd ati i rannu enghreifftiau ar Flickr a Twitter.

By rhai'n ddigon echrydus i gael sylw ar raglenni newyddion a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru gan gynnwys apurau Llundain, y News at Ten a'r rhaglen Have I Got News For You.

Fel y dywed Golygydd Golwg, Sian Sutton, mae sawl ffordd o ymateb i'r arwyddion sy'n codi gwên neu'n gwneud inni ryfeddu neu wingo.

"Weithiau mae angen bod yn drugarog, pan fydd unigolyn yn gwneud ymdrech arbennig - ond aflwyddiannus - i ddefnyddio'r Gymraeg," meddai gan ychwanegu ei bod yn anos maddau i gyrff cyhoeddus sy'n difrïo'r Gymraeg "trwy anwybodaeth neu fethiant i'w thrin â pharch".

Wrth gwrs mae'r bai yn aml ar or ddibyniaeth ar beiriannau cyfieithu sy'n gallu troi rhywbeth cwbl gall mewn un iaith i gawlach gwirion mewn un arall.

Heb os - ac mae yn y llyfr - gyda'r enwocaf o arwyddion yw'r 'cyfieithiad' o No entry for heavy goods vehicles. Residential site only fel Nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd. Anfonwch unrhyw waith i'w gyfieithu.

Fel rhan o golofn ddychanol Jac Codi Baw y gwelwyd yr enghreifftiau 'Rhybudd - Gweithwyr yn ffrwydro', 'Cyclists Dismount - Llid y bledren dymchwelyd' neu'r arwydd oedd yn tynnu sylw at benwythnos arbennig i ddathlu adar drycin - 'Shear Madness'. Cafodd ei droi'n ddigwyddiad gwahanol iawn yn Gymraeg, sef 'Cneifio Gwallgof'.

Jyst y peth i hosan Dolig - am ddim ond £4.95

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.