Â鶹ԼÅÄ

Euron Griffith - Dyn Pob Un

Rhan o glawr y llyfr

04 Gorffennaf 2011

  • Adolygiad Glyn Evans o Dyn Pob Un, nofel gyntaf Euron Griffith. Lolfa. £7.95.

Yr oedd yr holl elfennau i beidio â mwynhau y nofel hon yn bresennol gan ddechrau gyda'r ffaith mai nofel am bobl y cyfryngau Cymraeg yw hi, pobl nad ydyn ydy nhw na'u byd o wir ddiddordeb i neb ond y nhw'u hunain.

Ar ben hynny, ar glawr Dyn Pob Un mae yna ganmol talent newydd, awdur newydd. Ac ar ben hynny, awdur dychanol sy'n sgwennu stwff doniol.

Clawr y llyfr

"Does dim llawer o sgrifenwyr doniol yn y Gymraeg ond dyma un - mae'n siarp fel raser ac yn sur fel lemwn," meddai John Gower tra bo Rhys Mwyn, sy'n prysur ddod yn dipyn o farn pawb ar bopeth, yn sôn am hiwmor ar ei orau.

Wrth gwrs, mae'n rhaid i weisg wneud hyn, ond does yna ddim byd gwaeth na hogi disgwyliadau rhywun gan nad oes yna ond dwy ffordd i fynd wedyn - ac ar i lawr yw un o'r rheini.

Mae'r dalennau agoriadol yn lled gadarnhau mai felly y bydd hi gyda'r cyfryngau unwaith eto yn darged hawdd i ddychan yr ydych yn dychmygu'r dychanedig, a fawr neb arall, yn ei ddarllen yn awchus er mwyn adnabod pwy sy'n i chael hi.

Yn gafael

Mi rydach chi'n gweld yn barod lle dwi'n mynd; ond rhoswch funud mae Dyn Pob Un yn troi allan yn llawer gwell na hynny a buan iawn y mae rhywun yn cael ei dynnu i fyd afreal o ryfeddol y mae ei gynnyrch ar ein sgrins bob nos.

Ydi wir, mae hon yn nofel sy'n gafael mewn ffordd annisgwyl ac er bod yr awdur efallai braidd yn llafurus yn rhoi pen ar y mwdwl yn y penodau olaf mae'n dipyn o hwyl i'w darllen.

Mae yma sgwennu clyfar, hwyliog a chrafog.

Yn wir, mae rhywun yn teimlo'n ddigon hyderus i gydio mewn nofel arall gan y boi hwn. Yn go fuan.

Fy mhroblem nawr yw sut i ddweud rhagor am y nofel heb ei difetha i ddarllenydd. Digon, efallai, yw dweud bod dau brif gymeriad; yn gyntaf, Irfon Thomas, ymchwilydd teledu, awdur nad yw neb eisiau cyhoeddi ei nofel fawr, The Sands of Rillentajara, a gŵr priod sydd mewn trafferthion ariannol, ac, yn ail, DI Kidd, ditectif y mae Irfon yn ei gyfarfod gyntaf mewn golygfa hyfryd o ddoniol.

Swydd israddol

Mae'r stori'n cychwyn yn ddigon ystrydebol am ddyn a'i din yn y dŵr yn gorfod cymryd swydd israddol ar raglen deledu Gymraeg Wedi Seithaidd o'r enw Trwy Lygad Duvka a gyflwynir gan Bwyles brydweddol sydd wedi dysgu Cymraeg ac ennill calon gwylwyr.

Euron Griffith

Yn ystod y penodau agoriadol hyd yn oed mae'r dychan, er yn ddigon ystrydebol a lled gyfarwydd, yn gafael. Yn bennaf oherwydd y ddyfais storïol gydag Irfon yn siarad yn uniongyrchol â'r darllenydd a theitl y penodau yn abwyd effeithiol.

Yna ymhen rhyw 90 dalen cymer y nofel dro cwbl annisgwyl sy'n mynnu ein bod yn aros efo hi i fwynhau dyfeisgarwch yr awdur yn symud yr arwr o un argyfwng i'r llall mewn duull ffilmig iawn gan sicrhau y bydd hon yn bodloni y rhan fwyaf o'r rhai hynny sy'n chwilio am ddeunydd darllen difyr, hwyliog ac ychydig yn annisgwyl ar gyfer gwyliau'r haf neu pan ddaw yn Ddolig, er enghraifft.

Braf gweld rhywbeth a ganmolwyd, nad yw'n siomi.

Bydded i Inspector Kidd alw eto, yn fuan.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.