Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gweld 'Patagonia'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:21, Dydd Mercher, 20 Ebrill 2011

Dyma wybodaeth fuddiol lle bydd y ffilm Patagonia efo Matthew Rhys i'w gweld yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yr oedd rhywun yn cwyno yn y wasg y dydd o'r blaen nad ydi'r ffilm wedi bod yn cael ei dangos yn y prif sinemâu yng Nghymru hyd yn oed. Ond dyna anffawd ffilmiau ' bychain' fel hyn wrth gwrs er bod y sinemâu yn gwbwl barod i ddangos unrhyw hen stwnsh o'r America.

Beth bynnag; dyma'r rhestr o ddangosiadau anfonwyd gan Gymdeithas Cymru Ariannin - ac os ychwanegir ati mi wnai adael ichi wybod.

  • Caernarfon - Galeri Ebrill 26
  • Aberteifi - Theatr Mwldan Ebrill 27
  • Pwllheli - Neuadd Dwyfor Ebrill 29
  • Prestatyn - Scala Ebrill 29
  • Tywyn - Magic Lantern Theatre Ebrill 29
  • Dumfries - Robert Burns Centre Mai 1 /
  • Y Bala - Nueadd Buddug Mai 13
  • Plymouth Arts Centre - Mai 20
  • Caergybi - Canolfan Ucheldre Mai 22
  • Llwyudlo - Assembly Rooms Mai 29
  • Brighton - Duke Of Yorks Mai 31
  • Tunbridge Wells - Trinity Theatre Mehefin 01
  • Street - Strode Theatre Mehefin 10

Syndod gweld hefyd fod sinemâu bychain yn Lloegr a'r Alban yn dangos hon tra bo'r rhai mwyaf yng Nghymru ddim.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.