Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Criw o rai sâl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:43, Dydd Llun, 18 Ebrill 2011

Ydi adolygwyr Cymraeg werth eu halen? Dyna'r cwestiwn a godwyd gan bennaeth un o weisg mwyaf blaenllaw Cymru.

A'n cael ni yn eisiau.

Yn sgrifennu yn y Western Mail bythefnos yn ôl dywedodd Lefi Gruffudd o'r Lolfa;.

" . . . mae na wendid amlwg o ran adolygwyr . . . mae'n ymddangos fod yna brinder o adolygwyr cymwys," medda fo gan nodi hefyd bod yna brinder lle i gyhoeddi adolygiadau.

"Ges i nodyn gan un awdur yn ddiweddar yn cyfleu'r pryderon 'nad oedd digon ohonyn nhw [adolygwyr] i adlewyrchu'r ystod eang o genres mewn llenyddiaeth Gymraeg gyfoes'.

"Mae prinder adolygwyr yn golygu fod cyhoeddwyr ac awduron yn gorfod dibynnu ar adolygwyr sydd ddim yn darllen, deall na hoffi yr hyn maen nhw'n ei adolygu," meddai.

Ac mae honno'n gwyn mwy difrifol na'r un am brinder. Y gwyn nad ydym i fyny a'r job ac yntau'n dweud; "Mae ambell adolygiad yn ymddangos fel ffrwyth prosiect TGAU."

Ac mae'n gofyn, "Onid yw'n rhyfeddol faint o adolygiadau diddrwg-didda sy'n cael eu cyhoeddi am lyfrau Cymraeg?"

Cri o'r galon gan gyhoeddwr sydd a phedwar llyfr ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn eleni.

Dyma un o'r pynciau gafodd eu trafod ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, heddiw am chwarer wedi un ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, gyda Sioned Williams, Catrin Beard a Bethan Mair yn cymryd rhan - tair yn adolygwyr blaenllaw.

Gellir clywed beth oedd ganddyn nhw i'w ddweudar wefan y rhaglen - trafodaeth ddifyr iawn yn cael ei dilyn gan eitem gyda Meirion Prys Jones am swyddogaeth Bardd Plant Cymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.