Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Theatrau llawn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:08, Dydd Llun, 7 Mawrth 2011

Yr wythnos hon mae dau gwmni yn cychwyn ar daith o amgylch theatrau Cymru - ac mae'r argoelion yn dda gyda'r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu'n barod ar gyfer rhai perfformiadau.

Taith gyda Deffro'r Gwanwyn sy'n cychwyn nos Fercher yng Nghaerfyrddin gan symud ymlaen am dridiau i Gaerdydd lle dywed y cwmni bod pob tocyn wedi ei werthu.

"Gyda'r tocynnau i'r tri perfformiad yng Nghaerdydd eisoes wedi eu gwerthu i gyd, mae'r Cwmni annog pobl i archebu eu tocynnau ar unwaith i berfformiadau eraill y sioe gerdd yn y de," meddai'r cwmni ar ei wefan.

Pob tocyn wedi mynd yw hi yn hanes cynhyrchiad Theatr Bara caws o Un o Nos Ola Leuadhefyd.

"Mae'r tocynnau i gyd wedi mynd ar gyfer y noson gyntaf yn Neuadd Ogwen, Bethesda," meddai Linda Brown dros wythnos cyn y noson.

Gyda Dyffryn Ogwen yn gefnogol bob amser i gynyrchiadau'r cwmni go brin y gallai fethu gyda'r addasiad hwn o nofel Caradog Prichard sydd yn gymaint rhan o etifeddiaeth yr ardal ond mae'r gobeithion yn uchel ar gyfer gweddill y daith hefyd gan fod Un Nos Ola Leuad yn un o'r neofelau Cymraeg mwyaf poblogaidd ers ei chyhoeddi yn 1961.

I'r Theatr Genedlaethol, wrth gwrs, mae hwn yn gyfnod pwysig - yn groesffordd yn ei hanes gydag Arwel Gruffydd newydd ei benodi yn gyfarwyddwr artistig newydd i ddilyn Cefin Roberts adawodd y swydd y llynedd gan adael y swydd yn wag am gyfnod hir tra'r oedd y cwmni yn pwyso a'i fesur ei hun.

Bydd ef yn dechrau ar ei waith Mai 3.

Yn dod o Danysgrisiau, Blaenau Ffestiniog, mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru yng Nghaerdydd lle cafodd gryn lwyddiant gyda sawl cynhyrchiad - yn enwedig Llwyth a gyfarwyddodd ac a blesiodd yr adolygwyr yn fawr.

Mae o eisoes wedi dweud nad swydd tŵr ifori fydd ei un ef ac mae wedi gwahodd syniadau gan y bobl.

"Mae llywio'r Theatr Genedlaethol wrth iddi ailddiffinio'i hun ac ailystyried ei pherthynas ag aml gymunedau Cymru, yn her ac yn fraint aruthrol," meddai.

A go brin y bydd neb yn dadlau â hynny.

Yr oedd Arwel yn cael ei holi ar y rhaglen Stwidio ddydd Iau diwethaf a'i sylwadau i'w clywed ar yr iPlayer nes darlledir y rhaglen nesaf y nos Iau hwn.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.