Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Roedden nhw'n dweud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:48, Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011

Rhai pethau a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg Gymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Tybio roeddwn i fod Sali Mali a Mr Urdd braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn. Y ddau yn 'obese' pan fod gymaint o bwyslais ar hepgor gor-dewdra - Morwena Williams, Pentraeth, mewn llythyr yn .
  • Ein tywysoges ni yw hon, a bendith ar y sianel (S4C) am wneud y mwyaf ohoni. Efallai mai Kate Roberts yw brenhines ein llên, ond Kate Middleton fydd brenhines y bobl - Edwin Jones, llythyrwr arall yn 'Y Cymro' heddiw.
  • Mewn un ffordd mae'n gompliment pan mae gwaith artist yn cael ei gopïo - David Rogers-Jones, arwerthwr o Fae Colwyn, yn ymateb i'r peryg fod twyllwr yn copïo a gwerthu gwaith Kyffin Williams.
  • Da chi'n byw mewn gwlad drydydd byd - cefnogwyr Leeds yn llafarganu yn ystod y gêm bêl-droed yn erbyn Abertawe.
  • O ran y rhaglen artistig, . . . mi fydd partneriaethau gydag artistiaid amrywiol a gyda chwmnïau theatr a sefydliadau creadigol eraill Cymru yn chwarae rhan allweddol ynddi i'r dyfodol, ac mae cynrychioli a rhoi llwyfan i gymunedau amrywiol Cymru cyn bwysiced i mi ac ydyw adlewyrchu dyhead a chynnig mynegiant cenedlaethol. Yn y pen draw, ac yn rhyfedd ddigon, yr hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol fel pobol yw'r hyn sy'n ein gwneud yn genedl ac yn ein gwneud yn genedl unigryw - Arwel Gruffydd yn dilyn y cyhoeddiad mai ef yw cyfarwyddwr newydd cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Teithio'r byd rhyw ddydd - Catrin Edwards, capten tîm rygbi merched Cymru yn ateb cwestiwn ''; "Beth ydych yn anobeithiol am ei wneud?"
  • Roedd yn benderfyniad trist iawn i mi - Mike Whitley, yn dilyn gorfod ar ystâd Efyrnwy ger Llanwddyn. "Ac wrth gwrs mae'r chwilio nawr yn dechrau am goeden dalaf nesa' Cymru!" ychwanegodd.
  • Roedd y cyfieithiadau'n ddiawledig. Roedd y cyfan yn ddiog ac yn warthus, a deud y gwir - David Lloyd Williams, un o drefnwyr Tiathlon Pwllheli yn cwyno am oedd ar gael. Pethau fel: Cofestru Hil - Race Registration - Diodydd Flaen - Drinks Ahead, Gadw ar yr ochr chwith - Keep on the left hand side a Hil Rhybudd ar y gweill - Caution Race in progress.
  • Mae alcohol yn rhatach nawr nag ar unrhyw adeg ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae hyn yn achosi problemau iechyd allai fod yn anferth - o Brifysgol Glyndŵr.
  • Beirdd cadeiriol Cwmsgwt a Llanbidinodyn . . . [yn] rhaffu cynganeddion rhwng pelawdau - Derec Llwyd Morgan, gohebydd chwaraeon '', yn dal yn flin oherwydd defnydd S4C o feirdd yn ystod gemau criced yr haf ar S4C. "Os dewiswch ddarlledu eleni eto . . . parchwch eich cynulleidfa, pa mor fychan bynnag fydd. Neu sefwch draw," yw ei gyngor i'r Sianel.
  • Mae'r boi yna wedi bod drwyddi, fuaswn i ddim yn pigo ffeit efo'r boi yna - Y Prifardd Tudur Dylan Jones yn ymateb i'r llun o wyneb Owain Glyndwr a grewyd ar gyfer y rhaglen 'Wyneb Glyndŵr ' ar Mawrth 1.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.