Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rwdlan efo'r flwyddyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 20:20, Dydd Mawrth, 19 Hydref 2010

Maen nhw'n siŵr o fod yr ateb hawdd cyntaf i'r rhai hynny sy'n ei chael yn anodd i feddwl beth i'w roi yn anrheg Nadolig.
Neu'n rhy ddiog.!

Calendr. Mae siopau yn berwi ohonyn nhw yr adeg hon o'r flwyddyn - ond eleni bydd un Cymraeg ychydig yn wahanol i'r arfer.

!


Clawr y calendr


Na, nid un efo wyth diwrnod mewn wythnos ond calendr un o gyfresi llyfrau plant mwyaf poblogaidd y Gymraeg - Cyfrwes Rwdlan.

Yn cael ei gyhoeddi gan mae'r calendr yn cynnwys un o luniau Angharad Tomos, awdur ac arlunydd y gyfres, ar gyfer pob mis.

Ei bris yw £4.95 ac mae o faint A4 - ar ei ochr - ac fel pob calendr gwerth ei halen yn dangos digwyddiadau pwysig y flwyddyn, fel Sul y Pasg, Calan Gaeaf, Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Santes Dwynwen.

Mae lle bob dydd hefyd i nodi pen-blwyddi neu ddigwyddiadau eraill.

Erbyn hyn mae cyfres Rwdlan wedi difyrru sawl cenhedlaethj o blant ers cyhoeddi'r gyfrol gyntaf, Rala Rwdins, yn 1983.

Gwerthodd honno ei hun ymhell dros 15,000 o gopïau erbyn hyn a gwnaed rhaglenni teledu a chynhyrchwyd CD-ROMs yn seiliedig ar y gyfres. Mae'r llyfrau hefyd yn sail i gyfres o lyfrau darllen ar gyfer ysgolion cynradd, Darllen Mewn Dim.

Mae'r awdur, Angharad Tomos yn llenor o fri wedi ennill Medal Lenyddiaeth yr Urdd ddwywaith a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn 1991 yn yr Wyddgrug am y nofel Si Hei Lwli ac yn y Bala yn 1997 am y nofel Wele'n Gwawrio.

Enillodd hefyd wobrau Cyngor y Celfyddydau a'r Academi.

Hefyd, enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith, yn 1986 am Y Llipryn Llwyd (Cyfres Rwdlan) ac yn 1994 am Sothach a Sglyfath (Cyfres Cled). Enillodd hefyd Dlws Mary Vaughan Jones yn 2009.

Awdur yn amlwg a sawl diwrnod i'w nodi ar ei chalendr

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.