Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau i'w hosgoi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:59, Dydd Sul, 17 Hydref 2010

Coeliwch neu beidio ond mae dros ddeuddeng mlynedd ers cychwyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg.

Un o'r prif ymgyrchwyr dros y cyfnod hwnnw fu Dafydd Glyn Jones ac yn y rhifyn cyfredol o em>Barn - Hydref 2010 - mae o'n pwyso a mesur sut mae pethau'n edrych erbyn hyn.

Ac ymhlith y pethau sy'n cael ei sylw mae'r geiriau y dylid eu hosgoi - eu llwyr osgoi, yn wir - wrth drafod y fenter.

Mae'n rhestr o eiriau y gwnâi les i bob un ohonom, yn enwedig ein darlledwyr, beidio a'i gadael o'n golwg.

Fel hyn mae Dafydd Glyn Jiones yn ei dweud hi:
"Arwydd o ddiffuantrwydd hefyd fyddai llwyr osgoi ym mhob cyswllt y geiriau:

  • strwythur
  • strategaethau
  • opsiynau
  • cynaladwyedd
  • datganiad cenhadaeth
  • asesu
  • monitro
  • gwerthuso
  • adborth
  • meincnodi
  • mewnbwn
  • datblygu sgiliau
  • sgiliau dwyieithog
  • arfer da
  • dulliau blaengar
  • prif-ffrydio
  • deinamig
  • cyffrous ac
  • arloesol

Pob un yn un o hylleiriau hagr a ffasiynol y Gymraeg ddiweddar o'r un stabl â °ùô±ô, negydu, allbynnuac argaeledd - ac fe ellir ychwanegu at restr Dafydd Glyn Jones o'r hyn mae'n ei disgrifio fel:

" . . . holl ffiloreg cynffonwyr ac ymgreinwyr a chrafwyr byd addysg y dwthwn hwn."

"Lladder biwrocratiaeth, a than un lladder iaith biwrocratiaeth," meddai.

Awgrymu enw
Yn yr un erthygl mae o'n holi hefyd tybed beth ddylai enw'r coleg ffederal Cymraeg fod gan awgrymu y gellid cofio rhywun gyda'r enw o blith y rhai a wnaeth gyfraniad i'n diwylliant dros y blynyddoedd.

Wedi ystyried "ymgeleddwyr" fel William Morgan, O M Edwards, Iolo Morganwg, Lewis Morris ac eraill mae o'n mynd am "arwr diwylliannol mwyaf y Cymry" sef William Salesbury.

"Heb Salesbury, ni buasai dim. Ac o fabwysiadu ei enw ceid hefyd yr arwyddair ardderchog hwnnw sy'n dweud y cyfan mewn pum gair: Mynnwch ddysg yn ych iaith," meddai.

Coleg William Salesbury amdani felly?

Ond a ydw i'n ormod o sinig tybed yn holi faint o'r ymgeiswyr, pe byddai'r coleg nawr yn bod, allai lunio pum brawddeg am yr arwr diwylliannol mwyaf hwn.

Byddwch onest rŵan - pum brawddeg heb orfod troi at y Cydymaith neu'r Gwyddoniadur . . .

Beth bynnag, roeddwn i'n hoff iawn o enw Dafydd Glyn Jones ei hun ar y coleg ffederal pan ddechreuodd sgrifennu amdano yn y Nawdegau. Fel Coleg Tatws Llaeth yr oedd yn ei ddisgrifio yr adeg honno.

Ond dyna fo, tebyg bod gan fyfyrwyr heddiw fwy o syniad pwy oedd William Salesbury na beth oedd tatws llaeth!

Be da chi'n feddwl?

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.