Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Galw am gymorth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:49, Dydd Mercher, 4 Awst 2010

Mewn beth rydw i'n i alw yn 'gwt metal' yr ydw i'n byw yr wythnos hon a hynny o fewn ffiniau'r Â鶹ԼÅÄ ar y Maes ei hun. Yr ydw i'n llythrennol yn byw, bwyta a chysgu Eisteddfod ac yn teimlo gymaint rhan o'r lle a phe byddwn wedi cael fy mheintio'n binc.

Byncar moethus fyddwn i'n galw'r cwt pe byddwn i'n trio'i werthu a mwriad i oed eich syrffedu'n ystod yr wythnos gyda disgrifiadau o amgylchiadau byw dan drefn o'r fath.

Yna, dyma fi'n ymweld â phabell Cymorth Cristnogol ar y maes a gweld sut mae teulu o bump yn byw mewn lle llawer iawn mwy cyfyng yn Nairobi, Kenya - dim ond arwynebedd o naw troedfedd efo chwech sydd ganddyn nhw i fyw a bod ynddynt heb na dŵr glan na charffosaeth. Dyna gartref Jeremiah 12 oed.

Erbyn hyn daeth argyfwng arall sydynach ei ymosodiad i darfu ar Eisteddfod mudiadau fel Cymorth Cristnogol - y llifogydd ym Mhacistan.

Ac am y tro cyntaf erioed yn hanes yr Eisteddfod cyhoeddodd DEC Cymru apêl arbennig Llifogydd Pacistan ym mhabell Cymorth Cristnogol.

Jeff Wiliams ar y Maes
"Mae aelodau'r DEC yng Nghymru eisoes yn ymateb i'r argyfwng er bod rhwystrau ac amodau anodd sy'n eu hwynebu. Ond mae dirfawr angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn i ni allu parhau i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl gyda hanfodion fel dŵr glan, meddyginiaeth, lloches dros dro a bwyd," meddai Jeff Williams, Cadeirydd DEC - Disasters and Emergency Committee - Cymru.

"Rydym yn ffyddiog y bydd pobol Cymru yn barod i gyfrannu arian a gall y rhai sy'n ymweld â'r Eisteddfod gyfrannu drwy ymweld â stondinau rhai o aelodau DEC Cymru ar y maes sy'n cynnwys Cymorth Cristnogol, Achub y Plant, Oxfam Cymru, Tearfund, Y Groes Goch Brydeinig a Cafod."

Bydd galwad ar y teledu a'r radio yfory, Iau, i gyfrannu trwy wefan y neu dros y ffôn ac o ddydd Iau ymlaen gellir defnyddio SMS, drwy'r post neu mewn unrhyw Swyddfa Bost neu fanciau'r Stryd Fawr.

Rhif ffôn cyfrannu yw 0370 60 60 900

A dyna sy'n cyfrif pam na fyddwch yn clywed rhagor amdanaf i yn methu dod o hyd i bar o sanau glân mewn cwt metel digon cysurus efo dŵr poeth cawod a thŷ bach ar faes steddfod..

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.