Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Camp gyfieithu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:34, Dydd Llun, 23 Awst 2010

Cystadleuaeth a dynnodd ddŵr o'r dannedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yr un a drefnwyd gan y yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth.

Fel y tynnwyd sylw ar ein gwefan Eisteddfod Genedlaethol y dasg oedd cyfieithu bwydlen i'r Gymraeg. Bu bron imi â dweud o'r Saesneg i'r Gymraeg ond fel byddech chi'n disgwyl mewn bwydlen nid |Saesneg oedd yr unig iaith.

Penderfynu beth i'w wneud ag ymadroddion oedd un cur pen i'r cyfieithwyr.

Ymgais ³§¾±Ã¢²Ô Roberts, Trefor, Gwynedd, ddyfarnwyd yn orau gan y beirniad, John Rowlands, a chyn cael gweld sut y bu iddi hi ddygymod â'r fwydlen dyma sylw neu ddau gan John:

Sylwadau John Rowlands
"Roedd y goreuon yn agos iawn at ei gilydd ac roedd rhyw fân wendidau yn perthyn i bob un ohonynt. Mi fuaswn i'n newid 'eog mwg' i 'eog wedi'i gochi' (a la Portmeirion).

"Rhaid cadw dwy 'i' yn 'shiitake' neu mae'r ynganiad yn mynd braidd yn fras.

"Rwy'n defnyddio 'nionod dodwy' am 'sialots', a 'ffetys' ydi 'feta' yn Gymraeg.

"Rhaid cael treiglad yn 'pastai bysgod'.

"Mae 'jus' a 'sudd' ychydig yn wahanol, felly efallai y dylid cadw'r ffurf Ffrengig.

'Pupur wedi'i gracio' sy'n gywir, nid 'wedi'u cracio'. Tybed a fyddai 'pupur wedi'i falu'n fân' neu 'bupur mâl' yn well?

Gwell cyfieithu 'coconyt' yn 'gneuen goco'.

'Oren' yn yr unigol sy'n addas ar y diwedd, nid 'orenau. (un 'n' beth bynnag) {Er bod Cysill yn galw am ddwy!].

Gellid dadlau am ambell bwynt bach arall - ond dyna ddigon am y tro."

Nawr, dyma fwydlen Grace.

Cyrsiau cyntaf
Peli cig mewn saws tomato fel a gewch yn Sbaen
Eog mwg o'r Alban yn gynnes mewn salad gyda berwr dŵr
Å´y pob gyda madarch shiitake organig Nantmor, teim, sialots, hufen a chaws wedi'i gratio
Pupryn coch Piedmont gyda brwyniaid, garlleg, tomato, berwr a chaws ffeta

Prif gyrsiau
Pastai pysgod gyda chennin a chorgimychiaid
Rag cig oen cartref y glastraeth a chorn carw'r môr gyda ffenigl wedi'i frwysio
Caserol ffesant gyda llysiau'r gaeaf a cholcannon
Gwrachen ddu wedi'i stemio gyda sinsir a shibwns

Pwdinau
Cawl sudd mefus gyda phupur du wedi'u cracio
Salad ffrwythau egsotig gyda choconyt ffres
Calonnau marscapone a fanila
Hufen iâ dŵr blodau orennau

Coffi neu de Masnach Deg (traddodiadol neu berlysieuol)

Ac i'ch atgoffa; dyma'r fwydlen y gofynnwyd am gyfieithiad ohoni:

Starters
Spanish meatballs in tomato sauce
Warm Scottish smoked salmon and watercress salad
Baked egg with organic Nantmor shiitake mushrooms, thyme, shallots, cream and grated cheese
Piedmontese red pepper with anchovies, garlic, tomato, rocket and feta

Mains
Fish pie with leeks and prawns
Rack of Welsh saltmarsh lamb with samphire, served with braised fennel
Pheasant casserole with winter vegetables and colcannon
Steamed bream with ginger and spring onions

Desserts
Strawberry jus soup with cracked black pepper
Exotic fruit salad with fresh coconut
Mascarpone and vanilla hearts
Orange flower water ice cream
Fairtrade coffee or tea (traditional or herbal) with petits fours.

Y cyfan yn codi eisiau bwyd arno chi siwr o fod.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:39 ar 23 Awst 2010, ³§¾±Ã¢²Ô ysgrifennodd:

    Cystadleuaeth ddifyr oedd hon ac mae'n dda cael sylwadau'r beirniad - rhywbeth i'w gadw mewn cof.
    Mae cyfieithu bwydlenni'n anos nag y mae'n edrych oherwydd yr amwysedd:
    e.e. Spanish meatballs in tomato sauce
    Peli cig Sbaenaidd mewn saws tomato - yn swnio fel taw dim ond y peli cig sy'n Sbaenaidd
    Peli cig mewn saws tomato Sbaenaidd - yn swnio fel taw dim ond y saws tomato sy'n Sbaenaidd
    Peli cig mewn saws tomato yn y dull Sbaenaidd - yn swnio braidd yn brenaidd

    Warm Scottish smoked salmon and watercress salad
    Beth sy'n gynnes - yr eog, yr eog a'r berwr dŵr, 'ta'r salad? A oes mwy i'r salad na'r eog a'r berwr dŵr?
    Dwi'n reit hoff o "** mwg" am "smoked **" - mae'n addas ar gyfer pethau fel cig hwyad a chaws hefyd - sy ddim yn "cochi"

    Ro'n i'n amheus o'r "pupur wedi'i gracio" ond yn meddwl bod "wedi'i falu" neu "mâl" yn swnio fel "ground pepper"

    Exotic fruit salad with fresh coconut
    Ro'n i'n meddwl bod "cneuen goco" yn swnio fel pe bai'n cynnwys cneuen goco gyfan; a "chnau coco" yn swnio fel pe bai'n cynnwys mwy nag un.

    Difyr, te? Ro'n i'n sgrifennu'r cyfieithiad ar y bws gwennol i'r maes er mwyn cyrraedd erbyn amser cau'r gystadleuaeth - roedd yn fy atgoffa o ddyddiau ysgol slawer dydd!

  • 2. Am 11:44 ar 23 Awst 2010, Glyn Evans Author Profile Page ysgrifennodd:

    Ie'n wir - yn aml iawn dim ond pan fo gofyn inni gyfieithu rhywbeth y daw yn amlwg y gellir dehongli cymaint o osodiadau mewn mwy nag un ffordd. Be fyddai rhywun yn ei wneud o 'Small children's hospital' er enghraifft o'i weld ar bapur?
    Ysbyty bach i blant? Ynteu Ysbyty i blant bach / bychain? Gall atalnodi fod o help weithiau.
    Ymddiheuriadau am gael enw ³§¾±Ã¢²Ô yn anghywir yn y cofnod gwreiddiol. Cawsom yr wybodaeth anghywir.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.