Â鶹ԼÅÄ

Her cyfieithu bwydlen

01 Awst 2010

Bethan Jones Parry

Allwch chi stumogi cyfieithu bwydlen i'r Gymraeg?

Mae Canolfan TÅ· Newydd ac awdur blaenllaw sy'n sgrifennu am fwyd wedi dod at ei gilydd i gynnal cystadleuaeth cyfieithu bwydlen i'r Gymraeg.

Gall cyfieithu bwydlen ymddangos yn hawdd iawn ar yr olwg gyntaf," meddai Bethan Jones Parry o safle'r ganolfan ysgrifennu genedlaethol ar faes yr Eisteddfod.

"Ond mewn gwirionedd mae'n rhywbeth anodd iawn i'w wneud. Yr ydym ni wedi cael John Rowlands i lunio'r fwydlen ac ef hefyd fydd yn beirniadu'r ymgeision," meddai.

Mae'r Athro John Rowlands y beirniad bwytai gyda'r gorau yn y Gymraeg ac yn cyfrannu'n gyson i'r cylchgrawn Barn.

Bydd hefyd yn cynnal cwrs 'Barn a Bwyd' yn NhÅ· Newydd Tachwedd 6 a 7.

"Y bwriad ydi ysgogi ysgrifenwyr i gyhoeddi deunydd am amrywiaeth o fwyd a bwytai," meddai Bethan.

Yn rhan o'r cwrs bydd y mynychwyr yn mynd allan am bryd nos Sadwrn ac yn dychwelyd i Dy Newydd i sgrifennu am y pryd fore Sul gyda'r adolygiadau hynny yn cael eu trafod wedyn gan John Rowlands.

Yn sgil y cwrs hwnnw y cododd y syniad o drefnu cystadleuaeth cyfieithu bwydlen a gellir cael manylion ym mhabell TÅ· Newydd ar faes yr Eisteddfod.

Cyhoeddir enw'r enillydd yn Y Pantri ar y maes am bump ddydd Iau lle bydd Behan yn holi John Rowlands.

Os ydych chi'n awyddus i roi cynnig arni dyma'r fwydlen i'w chyfieithu a gellir ei Ebostio i post@tynewydd.org.

Starters
Spanish meatballs in tomato sauce
Warm Scottish smoked salmon and watercress salad
Baked egg with organic Nantmor shiitake mushrooms, thyme, shallots, cream and grated cheese
Piedmontese red pepper with anchovies, garlic, tomato, rocket and feta

Mains
Fish pie with leeks and prawns
Rack of Welsh saltmarsh lamb with samphire, served with braised fennel
Pheasant casserole with winter vegetables and colcannon
Steamed bream with ginger and spring onions

Desserts
Strawberry jus soup with cracked black pepper
Exotic fruit salad with fresh coconut
Mascarpone and vanilla hearts
Orange flower water ice cream
Fairtrade coffee or tea (traditional or herbal) with petits fours

Mwynhewch.


Blogiau Â鶹ԼÅÄ Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.