Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blas ar eiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 20:31, Dydd Iau, 15 Gorffennaf 2010

Stecan i frecwast, bwydydd y byd mewn gŵyl fwyd yng Nghaerdydd, tarmac ar yr Wyddfa - ail flasu'r wythnos trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr . . .

  • Rydw i'n fwytäwr cig. Pan oeddwn i yn yr America fe fyddwn i'n cael stecen T-bone i frecwast yn rheolaidd. Fe allai fwyta cig unrhyw adeg o'r dydd. Dydw i fawr o fwytwr pwdinau ond rwyf wrth fy modd â chig - cig eidion a chig oen gan fwyaf ond unrhyw gig. Ac rydw i wrth y modd â brasder achos mae'n iro'r cymalau - Dai Jones Llanilar yn y 'Daily Post'.
  • Dyma sioe sydd wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd a'r elfen gartrefol gynt wedi ei thrawsnewid i rywbeth sy'n apelio at y crachach a rhai di-Gymraeg - 'Pigwr' yn Llafar Bro , Blaenau Ffestiniog, am Å´yl y Faenol.
  • Mae na bob math o alar, a do, dwi wedi colli dau frawd a rhieni, ond does na ddim i'w gymharu a cholli cymar - Meic Povey sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, 'Nesa Peth i Ddim'.
  • Gallai fod wedi gwneud ffortiwn o chwarae pocer - Yr Athro Gwyn Thomas yn cofio'r Dr Enid Pierce Roberts ar 'Wythnos Gwilym Owen'.
  • Ai fi yw e, neu ydi'r gair 'brad' wedi dod yn beth ffasiynol yn ystod yr haf yma? - Cwestiwn agoriadol Lefi Gruffudd yn y 'Western Mail'.
  • Gadewais Gymru am nad oedd yna waith imi yma felly rwy'n meddwl, yn ddwfn tu mewn imi yr oedd yna rywfaint o chwerwedd . . . ac yna deuthum yn ôl ar gyfer Gavin a Stacey a beth ganfyddais i oedd fy mod wedi ailddarganfod fy nghariad tuag at fy ngwlad a'm cefndir a'r holl bethau a'm ffurfiodd i - Rob Brydon yn y 'Wales on Sunday'.
  • Yr ydw i eisiau medru troi'r teledu ymlaen a gwylio gêm o rygbi heb deimlo'n chwerw - Mae Richard Parks, y bu'n rhaid iddo roi'r gorau i chwarae rygbi oherwydd anaf, yn awr yn gobeithio bod y cyntaf i ddringo "saith mynydd ar saith cyfandir mewn saith mis" gan gynnwys Everest.
  • Os cyrhaeddwn ni, bydd ein Suzuki yn cael ei gyflwyno i bobl Mongolia i'w werthu i godi arian at achosion da neu i'w ddefnyddio fel cerbyd cyhoeddus - Ben Thomson, twrnai chwe troedfedd wyth modfedd o'r Barri a fydd yn teithio 10,000 o filltiroedd o Gaerdydd i Ulan Bator ym Mongolia mewn Susuki bach 1.2 litr gyda dau gyfaill, un yn chwe troedfedd pedair modfedd a'r llall o daldra arferol.
  • Mae'r haul allan ac mae yma filoedd o bobl yn mwynhau bwydydd gwych o bob rhan o'r byd - Nigel Howells, aelod o gabinet Cyngor Caerdydd wedi ei blesio â Gŵyl Fwyd y Brifddinas.
  • Ar y raddfa yma bydd y Deyrnas Unedig wedi ei choncretio i gyd o St Ives i Ullswater - Janet Street-Porter yn ymateb i'r newyddion am darmacio llwybr ar lethr yr Wyddfa.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.