Yng Nghymru, mae gwahanol benderfyniadau’n cael eu gwneud gan wahanol bobl. Mae rhai o’n cyfreithiau’n cael eu gwneud gan Senedd y Deyrnas Unedig a rhai yn cael eu gwneud gan Senedd Cymru. Mae cynghorau lleol hefyd yn gwneud penderfyniadau am faterion lleol.
Gwylio: Pwy sy'n gwneud penderfyniadau dros Gymru?
Rheolau
Yn aml, mae’n rhaid i ni ddilyn rheolau. Maen nhw’n dweud wrthon ni beth rydyn ni’n cael ei wneud a beth dydyn ni ddim yn cael ei wneud. Maen nhw’n ein cadw ni’n ddiogel ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg.
Mae gan ysgolion reolau am wisg ysgol, ac am fod yn deg a pharchu pobl eraill. Mae’n debyg mai’r Pennaeth a llywodraethwyr yr ysgol sydd yn gwneud y rhan fwyaf o’r rheolau hyn.
Mae rheolau’r ysgol yn helpu i wneud yn siŵr bod:
- pawb yn teimlo’n ddiogel
- yr ysgol yn rhywle lle mae pobl yn cael llonydd i ddysgu
Pwy sy’n gwneud cyfreithiau?
Nid dim ond yr ysgol sydd â rheolau. Mae gan Gymru lawer o reolau sy’n cael eu galw’n cyfraithRheol sy'n effeithio ar y wlad i gyd ac y dylai pawb gadw ati. Rwyt ti'n gallu cael dy gosbi am dorri'r gyfraith.. Mae cyfreithiau’n rheolau y mae’n rhaid i bawb eu dilyn. Ond pwy sy’n cael penderfynu ar gyfreithiau?
Mae llawer o gyfreithiau'n cael eu gwneud yn seneddY grŵp o bobl sy'n gweithio ar ran dinasyddion i wneud yn siŵr bod y llywodraeth yn rhedeg y wlad yn iawn. y Deyrnas Unedig yn Llundain. ²Ñ²¹±ð’r rhain yn gyfreithiau ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae rhai cyfreithiau ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud yn Senedd Cymru. ²Ñ²¹±ð’r cyfreithiau hyn ar gyfer Cymru yn unig.
²Ñ²¹±ð’r cyngorY corff sy'n gyfrifol am edrych ar ôl trefi ac ardaloedd llai eraill. Weithiau mae hwn yn cael ei ddisgrifio fel llywodraeth leol.lleol hefyd yn gwneud penderfyniadau. Dydyn nhw ddim yn gwneud cyfreithiau, ond maen nhw’n cael penderfynu ar lawer o faterion lleol. Mae aelodau’r cyngor wedi cael eu dewis mewn etholiadau lleol.
Haenau llywodraeth  
¶Ù²¹³Ù²µ²¹²Ô´Ç±ô¾±â€¯
Ystyr datganoli’n yw symud pŵer o’r canol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu symud rhywfaint o bŵer o Senedd y Deyrnas Unedig yn Llundain i Senedd Cymru yng Nghaerdydd.
Cyn 1999, roedd pob cyfraith yn cael ei gwneud yn Senedd y DU.  Nid oedd gan Gymru’r Senedd.
Yn 1997, cafwyd pleidlais arbennig, o’r enw refferendwmPan fydd dinasyddion yn cael pleidleisio i benderfynu ar un mater. . Gofynnwyd i bobl Cymru a oedden nhw eisiau mwy o rym i benderfynu ar gyfreithiau i Gymru. Roedd y bleidlais yn agos iawn, ond enillodd yr ochr ‘ie’. Cafodd y pŵer i wneud cyfreithiau ar rai pethau ei symud o Senedd y DU i Gymru.
Sut gallwn ni ddylanwadu ar benderfyniadau?
More on Ein hawliau
Find out more by working through a topic
- count3 of 3
- count1 of 3