Gwasanaeth meddygol a gofal iechyd am ddim sy’n cael ei ariannu gan trethiCyfraniad ariannol gorfodol i’r llywodraeth sy’n cael ei wario ar gynnal gwasanaethau. y mae pobl yn eu talu, yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Fideo - Y GIG
Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Adroddiad Beveridge
Yn 1941, comisiynodd y llywodraeth glymblaidLlywodraeth sydd wedi ei ffurfio o fwy nag un plaid wleidyddol. Syr William Beveridge i edrych ar ffyrdd o ailadeiladu Prydain yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1942, cyhoeddodd Beveridge ei adroddiad, ac roedd yn cynnwys cyfres o argymhellion. Nododd ei adroddiad fod angen curo ‘pum cawr’ er mwyn ailadeiladu’r wlad yn dilyn y rhyfel, sef:
- angen – incwm digonol i bawb
- afiechyd – mynediad i ofal iechyd
- anwybodaeth – addysg dda
- aflendid – tai digonol
- segurdod – gwaith â chyflog
Un o’i argymhellion i fynd i’r afael â’r rhain oedd sefydlu gwladwriaeth les.
Aneurin Bevan
Y blaid Lafur enillodd yr etholiad yn 1945, a chafodd y Cymro, Aneurin Bevan, ei benodi’n Weinidog Iechyd – ac ef fu’n gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.
Roedd Aneurin Bevan wedi ei ysbrydoli gan system iechyd a oedd eisoes yn bodoli yn Nhredegar, sef ei dref enedigol.
Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar wedi sefydlu gwasanaeth gofal meddygol am ddim yn gyfnewid am gyfraniadau ariannol gan ei aelodau.
Gwelodd Aneurin Bevan lwyddiant y cynllun yma, gan fod y gymdeithas yn mynd i’r afael ag anghenion meddygol 95% o’r boblogaeth leol yn Nhredegar erbyn 1933. Dyma’r model y gwnaeth ei ddefnyddio er mwyn sefydlu’r Gwasnaeth Iechyd Gwladol.
Roedd y llywodraeth wedi creu 1,000 o theatrau llawdriniaeth newydd a degau o filoedd o welyau ychwanegol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd pobl a oedd wedi’u hanafu yn y rhyfel driniaeth ysbyty am ddim, hefyd. Profodd hyn felly ei bod hi’n bosib rhedeg gwasanaeth iechyd gwladol. Cafodd y Ddeddf Iechyd Gwladol ei phasio yn 1946 a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu yn 1948. Roedd yn rhan o gyfres o newidiadau a gafodd eu rhoi ar waith a oedd yn defnyddio arian i ddarparu cymorth ‘o’r crud i’r bedd’Cymorth i berson o’i enedigaeth tan ei farwolaeth..
Beth oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei gynnwys?
- Triniaeth feddygol am ddim i’r cyhoedd.
- Presgripsiwn ar gyfer cyffuriau, gofal deintyddol a gofal optegol.
- Un system wladol a oedd yn cydlynu ysbytai gwirfoddol a lleol dan reolaeth byrddau iechyd.
Pam oedd rhai yn gwrthwynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, sef corff proffesiynol y meddygon, o’r farn y bydden nhw’n colli arian o ganlyniad i’r gwasanaeth.
Doedden nhw ddim eisiau i’w haelodau weithio i’r llywodraeth yn unig ac ymladdon nhw i gadw eu hannibyniaeth.
Ym mis Ionawr 1948, cynhaliodd y gymdeithas bleidlais i weld os oedd y meddygon yn cytuno gyda’r penderfyniad i ymuno â’r GIG neu beidio.
Pleidleisiodd 40,814 yn erbyn ymuno, a 4,735 o blaid ymuno.
Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau pellach, penderfynodd Bevan y byddai rhai meddygon ymgynghorol yn cael gweithio yn y gwasanaeth iechyd a pharhau i drin cleifion preifat ar yr un pryd, gan ennill ffioedd uchel.
Dywedodd Bevan ei fod wedi sicrhau dechrau'r gwasanaeth drwy ‘stwffio cegau’r meddygon ag aur’.
Beth oedd llwyddiannau’r GIG?
Erbyn 5 Gorffennaf 1948, roedd tri chwarter y boblogaeth wedi cofrestru gyda meddygon o dan y cynllun iechyd newydd.
Ddeufis yn ddiweddarach, roedd 39,500,000 o bobl, neu 93% o’r boblogaeth, wedi’u cofrestru gyda’r gwasanaeth ac roedd dros 20,000 o feddygon teulu yn rhan ohono.
Sicrhaodd fod gan bawb fynediad at ofal iechyd am ddim.
Pa heriau wynebodd y GIG?
Yn y flwyddyn gyntaf, costiodd y GIG £248 miliwn i’w redeg, bron i £140 miliwn yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol.
Cafodd swm o £2 filiwn ei neilltuo i dalu am sbectolau am ddim dros naw mis cyntaf y GIG, ond cafodd y swm ei wario mewn mater o wythnosau.
Roedd y llywodraeth wedi amcangyfrif y byddai’r GIG yn costio £140 miliwn y flwyddyn i’w redeg erbyn 1950, ond erbyn dechrau 1949, cyrhaeddodd y gost tua £400 miliwn.
Yn 1951, cyflwynodd y llywodraeth Lafur ffi am rai triniaethau deintyddol ac am bresgripsiynau ac ymddiswyddodd Aneurin Bevan oherwydd hyn.
Y GIG yng Nghymru heddiw
Yn 1969, cafodd y cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru ei roi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ers datganoliY broses o drosglwyddo rhai pwerau o lywodraeth ganolog i lefel fwy leol, ee o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. yn 1997, mae’r pwerau bellach dan reolaeth Llywodraeth Cymru a Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dros y blynyddoedd, mae’r gost o ddarparu gofal wedi cynyddu gan roi pwysau ar y gwasanaeth, ac nid yw pob elfen o’r GIG am ddim erbyn hyn, ee profion llygaid. Mae’r boblogaeth hefyd yn heneiddio yn sgil y gofal ac sydd felly’n rhoi fwy o straen ar y gwasanaeth.
Ers pandemig Covid-19, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, mae’r GIG wedi wynebu pwysau aruthrol. Mae adrannau megis gwasanaethau iechyd meddwl a meddygon teulu dan straen ers y pandemig yn sgil diffyg staff, galw uwch a rhestrau aros hir, er enghraifft.
Fodd bynnag, mae gofal iechyd yn dal i fod am ddim i bob aelod o’r gymdeithas ac mae twf yn nisgwyliad oes pobl yn y DU.
Cwis - Y GIG
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count3 of 3
- count1 of 3