鶹Լ

Asid sylffwrig – y broses gyffwrdd

Mae’r broses gyffwrdd, sy'n cael ei defnyddio i wneud asid sylffwrig, yn broses sy’n cynnwys .

Y defnyddiau crai sydd eu hangen i wneud asid sylffwrig yw:

  • sylffwr
  • aer
  • ŵ

Cam un – gwneud sylffwr deuocsid

Yng ngham cyntaf y broses gyffwrdd, mae sylffwr yn cael ei losgi mewn aer i wneud sylffwr deuocsid:

sylffwr + ocsigen → sylffwr deuocsid

S(s) + O2(n) → SO2(n)

Dydy’r adwaith hwn ddim yn gildroadwy – mae (s) yn golygu solid ac mae (n) yn golygu nwy.

Mae’n bwysig peidio â rhyddhau sylffwr deuocsid, oherwydd mae’n cyfrannu at .

Cam dau – gwneud sylffwr triocsid

Yn yr ail gam, mae’r sylffwr deuocsid yn adweithio â mwy o ocsigen i wneud sylffwr triocsid:

sylffwr deuocsid + ocsigen ⇌ sylffwr triocsid

2SO2(n) + O2(n) ⇌ 2SO3(n)

Mae’r adwaith hwn yn gildroadwy. Yr amodau sydd eu hangen yw:

  • fanadiwm(V) ocsid, V2O5
  • tymheredd o gwmpas 450°C (mae’r tymheredd yn cael ei ddewis fel cyfaddawd – mae’n rhoi cynnyrch gweddol a chyfradd adwaith dda)
  • gwasgedd o gwmpas 2 (mae’r gwasgedd uwch yn ffafrio ffurfio SO3, ond os yw’r gwasgedd yn rhy uchel mae’r risg o ffrwydrad yn rhy fawr, o ystyried bod SO3 yn nwy asidig iawn)

Cam tri – gwneud asid sylffwrig

Ar y cam olaf, mae sylffwr triocsid yn adweithio â ŵ i wneud asid sylffwrig:

H2O(h) + SO3(n) → H2SO4(dyfr)

Dydy’r adwaith hwn ddim yn gildroadwy, fel y cam cyntaf – mae (dyfr) yn golygu dyfrllyd neu wedi’i hydoddi mewn ŵ.

Mae ychwanegu sylffwr triocsid at dŵ yn uniongyrchol yn ecsothermig iawn ac mae’n arwain at ffurfio cymylau o asid sylffwrig. Mae hyn yn beryglus iawn. Yn niwydiant, mae sylffwr triocsid yn cael ei ychwanegu at asid sylffwrig crynodedig iawn i ffurfio hylif cyrydol iawn o’r enw olewm er mwyn lleihau’r risg:

SO3 + H2SO4 → H2S2O7

Yna, caiff ŵ ei ychwanegu at yr olewm i ffurfio asid sylffwrig eto:

H2S2O7 + H2O → 2H2SO4