Â鶹ԼÅÄ

Titradu asid-alcali

Gallwn ni gyfrifo crynodiad neu drwy gynnal arbrawf o’r enw .

Defnyddiau

Mae’r cyfarpar sydd ei angen yn cynnwys:

  • pibed i fesur penodol o asid neu alcali yn fanwl gywir
  • llanwydd pibed i ddefnyddio’r bibed yn ddiogel
  • fflasg gonigol i ddal yr hylif o’r bibed
  • bwred i ychwanegu symiau bach wedi’u mesur o un adweithydd at yr adweithydd arall yn y fflasg gonigol
Cyfarpar sydd ei angen i ditradu: bwred, pibed, fflasg gonigol a llanwydd pibed.
Figure caption,
Cyfarpar sydd ei angen i gynnal titradiad

Dull

Dyma amlinelliad o’r dull i gynnal titradiad lle caiff asid ei ychwanegu at alcali.

  1. Defnyddio’r bibed a llanwydd pibed i roi 25 cm3 o alcali mewn fflasg gonigol lân.
  2. Ychwanegu rhai diferion o a rhoi’r fflasg gonigol ar deilsen wen.
  3. Llenwi’r fwred ag asid a nodi’r cyfaint cychwynnol.
  4. Ychwanegu’r asid o’r fwred yn araf at yr alcali yn y fflasg gonigol, gan ei chwyrlïo hi i gymysgu’r hydoddiant.
  5. Stopio ychwanegu’r asid ar ôl cyrraedd y diweddbwynt (pan mae’r newid lliw priodol yn digwydd i’r dangosydd). Nodi’r darlleniad cyfaint terfynol.

Mae’r un dull yn gweithio i ychwanegu alcali at asid – dim ond amnewid yr hylifau sy’n mynd i mewn i’r fflasg gonigol a’r fwred.

Y titr [Haen uwch - Cemeg yn unig]

Mae’r gwahaniaeth rhwng y darlleniad ar y dechrau a’r darlleniad terfynol yn rhoi cyfaint yr asid (neu alcali) sydd wedi’i ychwanegu. Y cyfaint hwn yw’r titr.

Er enghraifft, os yw’r darlleniad ar y dechrau yn 1.00 cm3 a’r darlleniad terfynol yn 26.50 cm3, mae’r titr yn 25.50 cm3 (26.50 – 1.00). Bydd y titr yn dibynnu ar gyfaint yr hylif yn y fflasg gonigol, ac ar grynodiadau’r asid a’r alcali sy’n cael eu defnyddio.

Ailadrodd y titradiad nes bod y titrau yn ²µ²â³Ùû²Ô - sef bod gen ti o leiaf ddau ditr o fewn 0.20 cm3 i’w gilydd.

Rydyn ni’n cofnodi canlyniadau titradu mewn tabl fel hyn.

TitradiadBras123
Cyfaint terfynol (cm3)26.8024.6024.5025.00
Cyfaint cychwynnol (cm3)1.000.000.400.20
Titr (cm3)25.8024.6024.1024.80
TitradiadCyfaint terfynol (cm3)
Bras26.80
124.60
224.50
325.00
TitradiadCyfaint cychwynnol (cm3)
Bras1.00
10.00
20.40
30.20
TitradiadTitr (cm3)
Bras25.80
124.60
224.10
324.80

Galli di anwybyddu’r canlyniad titradu cyntaf (bras). Mae canlyniadau titradiadau un a thri o fewn 0.20 cm3 i’w gilydd, ond mae canlyniad titradiad dau yn rhy isel. Byddet ti’n cyfrifo titr cymedrig titradiadau un a thri, ac yn anwybyddu titradiad dau:

Titr cymedrig = (24.60 + 24.80) ÷ 2 = 49.40 ÷ 2 = 24.70 cm3