鶹Լ

Beth ydy π?

Diagram onglau mewnol ac allanol polygon

I ganfod cylchedd ac arwynebedd cylch, bydd angen i ti ddefnyddio \(\pi\), rhif arbennig sy'n werth tua \({3.141592}\).

Portread o'r mathemategydd William Jones, gan William Hogarth, 1740
Figure caption,
Portread o’r Mathemategydd Cymreig, Syr William Jones (1675 - 1749) gan yr arlunydd William Hogarth.

Y mathemategydd cyntaf i ddefnyddio'r symbol \(\pi\) (sy'n llythyren Roegaidd) oedd William Jones – mathemategydd o Gymru a fu'n ddisgybl yn ysgol Llanfechell ar Ynys Môn. Roedd yn ffrind agos i Syr Isaac Newton a Syr Edmund Halley. Ym mis Tachwedd \({1711}\) daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, ac yn ddiweddarach bu'n is-lywydd arni.

Ar gyfer unrhyw gylch, mae \({cylchedd}\div{diamedr} = {3.141592.......}\)

Mae’r rhif hwn mor arbennig fel ei fod wedi cael ei symbol ei hun, sef \(\pi\).

Mae’n amhosibl canfod union werth \(\pi\) fel degolyn neu ffracsiwn, felly defnyddir brasamcanion, megis \({3.14}\), \({3.142}\) a \(\frac{22}{7}\).

Mae gan bob cyfrifiannell wyddonol fotwm \(\pi\). Gelli di ddefnyddio hwn i wneud dy gyfrifiadau’n fwy cywir.

Os nad oes cyfrifiannell ar gael, neu os oes angen rhoi ateb bras i gyfrifiad sy’n cynnwys \(\pi\), yna talgrynna \(\pi\) i \({3}\) (neu beth bynnag sy’n cael ei awgrymu).

More guides on this topic