Â鶹ԼÅÄ

Ar 15 Mehefin 1910 hwyliodd llong y Terra Nova a'i chriw o Fae Caerdydd ar daith beryglus i un o ardaloedd mwyaf digroeso'r byd – Antarctica. Dyma gyfandir oer o eira a rhew. Roedd capten y llong, Robert F Scott, ar antur i wireddu ei freuddwyd fawr o fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Ond doedd e ddim yn ymwybodol am y trasiedi o’i flaen.

Image caption,
Ym Mhegwn y De, Antarctica, 17 Ionawr 1912 - (o'r chwith i'r dde) Wilson, Scott, Evans, Oates, Bowers gyda phabell Roald Amundsen (o Norwy) y tu ôl iddyn nhw

Trefniadau’r daith

Roedd gan Scott brofiad o fod yn Antarctica eisoes ar ôl arwain taith yno o'r blaen, rhwng 1901 a 1904. Roedden nhw’n gwybod pa mor anodd oedd amodau yno a bod angen cynllunio yn ofalus ar gyfer teithio mewn cynefin mor anghysbell. Byddai'n rhaid gwisgo'n gynnes a dogni bwyd yn ofalus. Bwriad Scott oedd defnyddio moduron, merlod a chŵn i dynnu slediau gyda'r cyflenwadau am 400 milltir gyntaf y daith. Yna, byddai'r tîm yn tynnu'r slediau â llaw dros rewlif i begwn y De, a oedd dros 400 o filltiroedd ychwanegol. Byddai'n waith caled ond roedd Scott yn ffyddiog y byddai'n llwyddiannus.

Y gystadleuaeth

Ond nid tîm Scott oedd yr unig rai a'u bryd ar gyrraedd Pegwn y De. Roedd Roald Amundsen o Norwy hefyd yn ceisio cyrraedd yno yn gyntaf. Yn wahanol i griw Scott, roedd criw Amundsen yn sgiwyr arbennig ac yn brofiadol yn defnyddio cŵn i dynnu slediau. Roedden nhw hefyd wedi dewis llwybr ychydig yn fyrrach i'r pegwn. Serch hynny, doedd neb wedi bod ar y llwybr o'r blaen a byddai dod ar draws rhwystr annisgwyl, fel crevasse (twll mawr yn yr ia), yn gallu arafu eu taith neu hyd yn oed ddod â hi i ben.

Roedd tîm Scott a thîm Amundsen wedi trefnu eu halldeithiau i Antartica ar yr un pryd. Roedd hi'n ras am y pegwn!

Rhwystredigaethau tîm Scott

Dechreuodd trafferthion Scott yn gynnar yn y daith. Cafodd broblemau gyda'r moduron oedd yn tynnu'r slediau a doedd y merlod ddim yn gallu dygymod â’r oerfel chwaith. Roedd y cŵn yn gwneud gwaith da o dynnu'r cyflenwadau ond bu rhaid iddyn nhw droi yn ôl pan aeth hi'n rhy oer! Pump dyn oedd ar ran ola'r daith i'r pegwn - Robert F Scott, Lawrence Oates, Edward Adrian Wilson, Henry Bowers a'r Cymro, Edgar Evans. Roedd tynnu'r slediau yn waith araf a chaled, yr oerfel yn brathu a stormydd eira yn ei gwneud hi'n anodd gweld. Serch hynny, brwydrodd y pump yn erbyn yr elfennau a llwyddo i gyrraedd y pegwn ar 17 Ionawr, 1912.

Cyntaf i’r felin gaiff falu

Ond am siom! Yno yn chwifio oedd baner Norwy. Roedd Roald Amundsen a’i griw wedi cyrraedd yno'n barod! Roedd hyn yn dorcalonnus i'r tîm. Roedd Amundsen wedi cyrraedd yno dros fis ynghynt. Tynnodd yr anturiaethwyr lun o'u hunain wrth y pegwn gyda baner Norwy yn chwifio - yn cydnabod bod Amundsen wedi eu curo.

Image caption,
Y Fforiwr Norwyaidd Capten Roald Amundsen ym Mhegwn y De, wrth ymyl baner Norwy

Y daith yn ôl

Yn awr, roedd yn rhaid i griw Scott gwblhau taith o 800 milltir yn ôl i ddiogelwch a hynny gan wybod eu bod wedi methu yn eu hymgyrch i fod y bobl gyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Roedd nifer o ffactorau yn erbyn y criw, gan gynnwys y tywydd.

Roedd y gaeaf hwnnw yn un eithriadol o oer yn Antarctica. Dioddefodd y tîm ddiwrnodau ble roedd y tymheredd yn plymio i -40˚F ac roedden nhw'n dioddef yn enbyd. Roedd gan Edgar Evans ewinrhew (frostbite) ar ei fysedd, ei drwyn, a'i fochau. Cwympodd sawl gwaith gan anafu ei hun yn waeth a bu farw ym mis Chwefror, 1912. Mis yn ddiweddarach doedd Capten Oates prin yn gallu cerdded oherwydd ewinrhew ar ei draed. Yn ymwybodol fod ei gyflwr yn arafu'r gweddill, fe aberthodd ei hun drwy gerdded o'r babell a diflannu i ganol storm eira.

Brwydrodd y tri oedd ar ôl yn erbyn yr elfennau i gyrraedd yn ôl yn saff. Ar 20 Mawrth, ar ôl teithio cannoedd o filltiroedd ar draws yr iâ, roedden nhw o fewn 11 milltir i stôr o gyflenwadau. Ond chyrhaeddon nhw fyth. Bu farw'r tri yn eu pabell.

Cofio’r arwyr

Goleudy ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd
Image caption,
Mae goleudy ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd yn coffáu Scott a'i griw yn ogystal â cherflun ym Mae Caerdydd

Blwyddyn yn ddiweddarach daethpwyd o hyd i'r babell gan griw achub. Ynddo roedd cyrff y tri dyn, eu dyddiaduron a ffotograffau. Tystiolaeth o'r alldaith anhygoel ac angheuol.

Mae Scott a'i dîm bellach yn enwog am y siwrnai honno lle collwyd y ras a chollasant eu bywydau.

Goleudy ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd
Image caption,
Mae goleudy ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd yn coffáu Scott a'i griw yn ogystal â cherflun ym Mae Caerdydd

Mae plac glas ar gartref genedigol Edgar Evans ger Rhosili i gofio amdano.

Cafodd Scott ei gyfri'n arwr am flynyddoedd lawer. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, serch hynny, roedd ei gynllunio a'i reoli yn cael ei gwestiynu a thybia nifer ei fod yn gyfrifol am farwolaethau diangen oherwydd y penderfyniadau a wnaeth.

Mae rhai yn ei gyfri'n arwr a rhai yn ei gyfri'n ffŵl ond mae Capten Scott a'i daith i Begwn y De yn stori sy'n parhau i ennyn diddordeb hyd heddiw.

Cofeb Y Terra Nova

Cofeb Y Terra Nova

A wyddost ti?

  • Cafodd Capten Scott ei eni ar 6 Mehefin, 1868 yn Devonport, Plymouth.
  • Gwirfoddolodd fwy na 8,000 mil o ddynion ar gyfer y daith i Begwn y De.
  • Dechreuodd Scott ei yrfa fel cadÄ—t yn y Llynges Frenhinol yn 1881. Dim ond 13 oed oedd e.
  • Adeiladwyd llong y Terra Nova fel llong morfilod.
  • Mae Capten Scott yn cael ei adnabod fel, Scott of the Antarctic.

Ble nesaf?

Dyniaethau - Daearyddiaeth

Casgliad o gynnwys Daearyddiaeth ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3

Dyniaethau - Daearyddiaeth

Deg ffaith ffantastig am gysawd yr haul

Os wyt ti'n meddwl dy fod yn gwybod popeth am gysawd yr haul, meddylia eto.

Deg ffaith ffantastig am gysawd yr haul

Erthyglau a chwisiau

Chwilio am erthyglau diddorol a chwisiau heriol? Edrycha fan hyn!

Erthyglau a chwisiau