Â鶹ԼÅÄ

Llun o gerflun Betty Campbell yn Sgwar Canolog, Caerdydd

Creda neu beidio, cerflun Betty Campbell a gafodd ei ddadorchuddio ym mis Medi 2021, oedd y cerflun cyntaf cyhoeddus o fenyw benodol yn yr awyr agored yng Nghymru.

Hi oedd prifathrawes ddu gyntaf Cymru, ac hi enillodd bleidlais Merched Mawreddog i ddewis cerflun pwy fyddai'n cael ei godi yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Dwi’n siŵr galli di feddwl am ferched eraill o Gymru sy’n haeddu cerflun hefyd. Dyma saith merch sydd wedi gwneud eu marc - beth am fynd i edrych am fwy o wybodaeth amdanyn nhw?

Llun o gerflun Betty Campbell yn Sgwar Canolog, Caerdydd

Nicole Cooke (1983)

Nicole Cooke ar gefn beic
Image caption,
Nicole Cooke yn dathlu wrth iddi ennill yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002

Y tro nesaf mae rhywun yn dweud wrthot ti mai Geraint Thomas oedd y cyntaf o Gymru i ennill ras y Tour de France, cofia ei cywiro nhw. Enillodd Nicole Cooke fersiwn y merched o’r ras ddwywaith - yn 2006 a 2007.

Yn ogystal ag ennill y Grande Boucle, enillodd fedal aur dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002. Fe wnaeth hi greu hanes yn 2008. Enillodd hi'r fedal aur yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaeth y Byd. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw seiclwr, merch neu ddyn, i wneud hyn yn yr un flwyddyn.

Ers iddi ymddeol o’r gamp yn 2013, mae Nicole Cooke wedi bod yn dweud ei dweud am y byd chwaraeon. Bu’n feirniadol iawn o statws campau merched i gymharu â rhai y dynion. Soniodd hefyd am yr annhegwch o orfod cystadlu yn erbyn seiclwyr oedd yn twyllo drwy gymryd cyffuriau.

Nicole Cooke ar gefn beic
Image caption,
Nicole Cooke yn dathlu wrth iddi ennill yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002

Catrin o Ferain (1534-1591)

Portread o Catrin o Ferain yn dal llyfr gweddi a'i llaw yn gorwedd ar benglog sydd ar fwrdd.
Image caption,
Peintwyd y llun hwn o Catrin yn Antwerp gan Adriaen van Cronenburg yn 1568

Roedd Catrin o Ferain yn foneddiges ddylanwadol a chyfoethog mewn oes pan roedd statws merched yn wahanol iawn i heddiw. Roedd hi’n berson deallus a phwerus.

Roedd hi'n berchen ar blasdai ac ystadau eang. Hefyd fe briododd Catrin bedair gwaith mewn i rai o deuluoedd pwysicaf yr oes. Ar ôl i Maurice Wynn o Wydir, ei thrydydd gŵr farw, daeth Catrin yn un o wragedd cyfoethocaf Prydain.

Catrin oedd un o brif noddwyr y bardd, Wiliam Cynwal - dyma ei gwpled enwog iddi:

Catrin wych, wawr ddistrych wedd,
Cain ei llun, cannwyll Wynedd.

Tessie O’Shea (1913–1995)

Tessie O'Shea gyda The Beatles
Image caption,
Y Beatles gyda Tessie O’Shea a’i banjolele yn Efrog Newydd yn ystod recordio The Ed Sullivan Show yn 1964

I'm Two-Ton Tessie From Tennessee yw'r gân mae’r rhan fwyaf yn ei chysylltu â’r berfformwraig, Tessie O’Shea - ond o ardal Glanyrafon, Caerdydd roedd hi’n dod.

Dechreuodd berfformio yn y theatrau cerdd pan roedd hi’n ifanc iawn. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf pan oedd hi’n 12 oed ac roedd hi’n cael ei hadnabod fel "The Wonder of Wales". Roedd hi'n canu a chwarae’r banjolele fel rhan o'i pherfformiad.

Cafodd lwyddiant yn yr Unol Daleithiau hefyd. Enillodd wobr Tony am ei pherfformiad mewn sioe gerdd ar Broadway ac ymdangosodd yn y ffilm Disney, Bedknobs and Broomsticks. Yn 1964, roedd hi’n westai ar yr un rhifyn o The Ed Sullivan Show â’r Beatles. Ar y pryd dyna oedd y rhaglen gafodd y gynulleidfa fwyaf yn hanes teledu America.

Tessie O'Shea gyda The Beatles
Image caption,
Y Beatles gyda Tessie O’Shea a’i banjolele yn Efrog Newydd yn ystod recordio The Ed Sullivan Show yn 1964

Gwenllian ferch Gruffydd (1100–1136)

Castell Cydweli
Image caption,
Castell Cydweli oedd safle Brwydr Maes Gwenllian yn 1136

Doedd dim y fath beth â chyfle cyfartal i ferched yn yr oesoedd canol ond wnaeth hynny ddim rhwystro Gwenllian ferch Gruffydd rhag arwain byddin yn erbyn y Normaniaid.

Cafodd ei geni yn Aberffraw ar Ynys Môn. Priododd Gruffydd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth ac aeth i fyw yng Nghastell Dinefwr. Weithiau roedd Gruffydd a Gwenllian yn gorfod cilio i’r mynyddoedd a’r coedwigoedd oherwydd y gwrthdaro rhwng y Cymry a’r Normaniaid.

Pan ddechreuodd gwrthryfel 1136, roedd Gruffydd yn y gogledd yn recriwtio milwyr. Cododd Gwenllian fyddin i ymladd y Normaniaid ar ôl iddyn nhw ymosod ar Gymry’r Deheubarth.

Cafodd Gwenllian ei dienyddio ar ôl iddi golli'r frwydr yn ymyl Castell Cydweli. Cododd ffynnon lle digwyddodd hyn, man sy'n cael ei alw yn Faes Gwenllian hyd heddiw.

Castell Cydweli
Image caption,
Castell Cydweli oedd safle Brwydr Maes Gwenllian yn 1136

Iris Williams (1946)

Iris Williams yn canu
Image caption,
Recordiodd Iris Williams sawl cyfres i'r Â鶹ԼÅÄ. Dyma hi yn canu ar y teledu yn 1996

Iris Williams yw’r unig aelod o Orsedd y Beirdd sy’n gallu dweud ei bod hi wedi canu ar y llwyfan gyda’r diddanwr, Bob Hope, ennill Cân i Gymru a pherfformio yn y gyngerdd i ddathlu agoriad y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Magwyd Iris Williams yn Nhonyrefail. Roedd hi’n adnabyddus yng Nghymru am ei recordiad o Pererin Wyf ac fe enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1974 gyda’r gân I gael Cymru'n Gymru Rydd.

Cyrhaeddodd rif 18 yn y siartiau gyda’r gân He Was Beautiful yn 1979. Mae hi bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau lle mae’n dal i berfformio.

Gwen John (1876-1939)

Lllun wedi ei beintio o ferch ifanc yn eistedd
Image caption,
Girl in Profile gan Gwen John

Chafodd yr artist Gwen John ddim o’r clod roedd hi’n ei haeddu yn ystod ei bywyd. Ar y pryd roedd mwy o sylw’n cael ei dalu i’w brawd, yr artist Augustus John. Erbyn hyn mae mwy a mwy yn credu mai Gwen oedd yr un mwyaf talentog.

Pan roedd hi’n blentyn, dechreuodd beintio y pethau roedd hi’n dod o hyd iddyn nhw ar draeth Dinbych y Pysgod. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, yr unig goleg celf oedd yn derbyn merched ar y pryd. Symudodd i Paris pan roedd hi’n hŷn.

Roedd hi’n hoffi peintio lluniau o ferched yn eistedd. Yn aml, mae'r merched yn y lluniau yn darllen. Mae hyn yn dangos ei bod hi’n credu dylai merched fod yn addysgiedig ac yn annibynnol.

Lllun wedi ei beintio o ferch ifanc yn eistedd
Image caption,
Girl in Profile gan Gwen John

Betsi Cadwaladr (1789–1860)

Ganwyd Betsi Cadwaladr yn y Bala ond wnaeth hi ddim aros yna'n hir. Teithiodd hi i Lundain, De America, Affrica ac Awstralia cyn mynd i weithio fel nyrs yn Rhyfel y Crimea pan oedd hi'n 65 oed.

Gadawodd ysbyty Scutari yn Nhwrci am nad oedd hi’n gweld llygad yn llygad â Florence Nightingale a oedd yn rhedeg yr ysbyty. Roedd y ddwy yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn ac roedd Betsi yn fodlon torri'r rheolau os oedd hynny'n helpu ei chleifion.

Symudodd Betsi’n agosach at yr ymladd. Roedd hi’n nyrsio cleifion, glanhau ac yn coginio am ugain awr y dydd gan gysgu ar lawr. Pan welodd Florence Nightingale yr hyn roedd hi’n ei gyflawni, newidiodd ei meddwl am Betsi a bu’n rhaid iddi gydnabod ei chyfraniad.

Dychwelodd Betsi i Lundain yn 1855 yn dioddef o’r colera a bu farw bum mlynedd yn ddiweddarach. Claddwyd hi mewn bedd tlotyn a gosodwyd cofeb newydd ar ei bedd yn 2012.

Pecynnau dysgu Cyfnod Allweddol 2 am bum merch eithriadol o Gymru

Merched Mawreddog

Gwleidyddiaeth a Ffeministiaeth

Sut wnaeth merched brotestio ar ddechrau'r 20fed ganrif er mwyn cael yr hawl i bleidleisio?

Gwleidyddiaeth a Ffeministiaeth

Chwyldro benywaidd

Dysga am Malala Yousafzai a menywod anhygoel eraill a’u llwyddiannau

Chwyldro benywaidd