Â鶹ԼÅÄ

Mae’n Ddiwrnod Pi ar 14 Mawrth a bydd pobl ar draws y byd yn dathlu’r rhif rhyfeddol yma mewn amrywiol ffyrdd.

Beth yw Pi?

Mae Pi yn rhif sy’n cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion ysgol, mathemategwyr, gwyddonwyr a pheirianwyr ar draws y byd pan maen nhw’n trafod cylchoedd.

Mae yna berthynas rhwng cylchedd cylch (y pellter o amgylch cylch) a’i ddiamedr (y pellter ar draws canol y cylch).

Mae cylchedd cylch tua thair gwaith yn fwy na’i ddiamedr. I fod yn union gywir, mae cylchedd cylch 'Pi' o weithiau yn fwy na’r diamedr.

Felly, mae cylchedd = π x diamedr neu C =πd

Mae Pi yn 3.141592… ac mae’r nifer o ddigidau ar ôl y pwynt degol yn ddiddiwedd. Ydy, mae Pi yn rhif sydd yn mynd ymlaen am byth!

Why do we celebrate Pi on March 14?

The idea to celebrate Pi on this date came from the United States. In the USA, they write dates in the month/date/year format. So March 14 is 3/14 which is the first numbers of Pi!

Celebrating Pi day is an opportunity to recognise the work of mathematicians throughout the ages, and to hold fun activities such as Pi baking, trying to remember Pi's digits, creating Pi chains, and making Pi formations in fields with crowds of people. What would you do?

Syr William Jones
Image caption,
Syr William Jones

Pi a Chymru

William Jones, mathemategydd o Sir Fôn oedd y cyntaf i ddefnyddio’r symbol π ar gyfer y rhif Pi.

Sylweddolodd fod y rhif yn mynd ymlaen am byth a bod angen symbol arno. Mae plac i gofnodi hyn ar wal Ysgol Llanfechell, ble aeth William i’r ysgol.

A wyddost di…?

  • Fe wnaeth dyn o India lwyddo i gofio 70,000 o ddigidau Pi. Cymrodd bron i ddeg awr iddo adrodd yr holl ddigidau.
  • Mae modd prynu sanau Pi, crysau Pi a hyd yn oed tei Pi.
  • Canodd y gantores Kate Bush gân o’r enw ‘Pi’ gan ganu’r rhif Pi hyd at gant o ddigidau!
  • Cafodd Albert Einstein ei eni ar 14 Mawrth 1879, sef Diwrnod Pi erbyn hyn!
  • Y nifer fwyaf o bobl i wneud siâp Pi wrth sefyll yw 847.
  • Erbyn heddiw mae cyfrifiaduron wedi llwyddo i gyfrifo maint Pi i driliwn o ddigidau ar ôl y pwynt degol.

Cylchoedd - CA3

Sut i ddefnyddio Pi i gyfrifio cylchedd ac arwynebedd cylch

Cylchoedd - CA3

Robert Recorde

Y cyntaf i ddefnyddio’r hafalnod (cynnwys Saesneg)

Robert Recorde

Cylchoedd – TGAU

Dysga am rannau gwahanol o gylch

Cylchoedd – TGAU