Â鶹ԼÅÄ

Gwasanaeth meddygol a gofal iechyd am ddim sy’n cael ei ariannu gan y mae pobl yn eu talu, yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Fideo - Y GIG

Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Adroddiad Beveridge

Yn 1941, comisiynodd y Syr William Beveridge i edrych ar ffyrdd o ailadeiladu Prydain yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1942, cyhoeddodd Beveridge ei adroddiad, ac roedd yn cynnwys cyfres o argymhellion. Nododd ei adroddiad fod angen curo ‘pum cawr’ er mwyn ailadeiladu’r wlad yn dilyn y rhyfel, sef:

  • angen – incwm digonol i bawb
  • afiechyd – mynediad i ofal iechyd
  • anwybodaeth – addysg dda
  • aflendid – tai digonol
  • segurdod – gwaith â chyflog

Un o’i argymhellion i fynd i’r afael â’r rhain oedd sefydlu gwladwriaeth les.

Syniadau o Adroddiad Beveridge ynglŷn â sut i daclo y pum ‘cawr’ mewn cymdeithas – gofal meddygol am ddim, addysg am ddim, gwell tai, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth llawn.

Aneurin Bevan

Y blaid Lafur enillodd yr etholiad yn 1945, a chafodd y Cymro, Aneurin Bevan, ei benodi’n Weinidog Iechyd – ac ef fu’n gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

Roedd Aneurin Bevan wedi ei ysbrydoli gan system iechyd a oedd eisoes yn bodoli yn Nhredegar, sef ei dref enedigol.

Ffotograff du a gwyn o’r Gweinidog Iechyd, Aneurin Bevan.
Image caption,
Y Gweinidog Iechyd – Aneurin Bevan

Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar wedi sefydlu gwasanaeth gofal meddygol am ddim yn gyfnewid am gyfraniadau ariannol gan ei aelodau.

Gwelodd Aneurin Bevan lwyddiant y cynllun yma, gan fod y gymdeithas yn mynd i’r afael ag anghenion meddygol 95% o’r boblogaeth leol yn Nhredegar erbyn 1933. Dyma’r model y gwnaeth ei ddefnyddio er mwyn sefydlu’r Gwasnaeth Iechyd Gwladol.

Roedd y llywodraeth wedi creu 1,000 o theatrau llawdriniaeth newydd a degau o filoedd o welyau ychwanegol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd pobl a oedd wedi’u hanafu yn y rhyfel driniaeth ysbyty am ddim, hefyd. Profodd hyn felly ei bod hi’n bosib rhedeg gwasanaeth iechyd gwladol. Cafodd y Ddeddf Iechyd Gwladol ei phasio yn 1946 a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu yn 1948. Roedd yn rhan o gyfres o newidiadau a gafodd eu rhoi ar waith a oedd yn defnyddio arian i ddarparu cymorth .

Beth oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei gynnwys?

  • Triniaeth feddygol am ddim i’r cyhoedd.
  • Presgripsiwn ar gyfer cyffuriau, gofal deintyddol a gofal optegol.
  • Un system wladol a oedd yn cydlynu ysbytai gwirfoddol a lleol dan reolaeth byrddau iechyd.

Pam oedd rhai yn gwrthwynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol?

Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, sef corff proffesiynol y meddygon, o’r farn y bydden nhw’n colli arian o ganlyniad i’r gwasanaeth.

Doedden nhw ddim eisiau i’w haelodau weithio i’r llywodraeth yn unig ac ymladdon nhw i gadw eu hannibyniaeth.

Ym mis Ionawr 1948, cynhaliodd y gymdeithas bleidlais i weld os oedd y meddygon yn cytuno gyda’r penderfyniad i ymuno â’r GIG neu beidio.

Pleidleisiodd 40,814 yn erbyn ymuno, a 4,735 o blaid ymuno.

Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau pellach, penderfynodd Bevan y byddai rhai meddygon ymgynghorol yn cael gweithio yn y gwasanaeth iechyd a pharhau i drin cleifion preifat ar yr un pryd, gan ennill ffioedd uchel.

Dywedodd Bevan ei fod wedi sicrhau dechrau'r gwasanaeth drwy ‘stwffio cegau’r meddygon ag aur’.

Beth oedd llwyddiannau’r GIG?

  • Erbyn 5 Gorffennaf 1948, roedd tri chwarter y boblogaeth wedi cofrestru gyda meddygon o dan y cynllun iechyd newydd.

  • Ddeufis yn ddiweddarach, roedd 39,500,000 o bobl, neu 93% o’r boblogaeth, wedi’u cofrestru gyda’r gwasanaeth ac roedd dros 20,000 o feddygon teulu yn rhan ohono.

  • Sicrhaodd fod gan bawb fynediad at ofal iechyd am ddim.

Pa heriau wynebodd y GIG?

  • Yn y flwyddyn gyntaf, costiodd y GIG £248 miliwn i’w redeg, bron i £140 miliwn yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol.

  • Cafodd swm o £2 filiwn ei neilltuo i dalu am sbectolau am ddim dros naw mis cyntaf y GIG, ond cafodd y swm ei wario mewn mater o wythnosau.

  • Roedd y llywodraeth wedi amcangyfrif y byddai’r GIG yn costio £140 miliwn y flwyddyn i’w redeg erbyn 1950, ond erbyn dechrau 1949, cyrhaeddodd y gost tua £400 miliwn.

  • Yn 1951, cyflwynodd y llywodraeth Lafur ffi am rai triniaethau deintyddol ac am bresgripsiynau ac ymddiswyddodd Aneurin Bevan oherwydd hyn.

Y GIG yng Nghymru heddiw

Gwasanaethau’r GIG: Arbenigwyr, Trallwysiad gwaed, Ysbytai, Mamolaeth a lles plant, Brechiadau, Ymwelwyr Iechyd, nyrsio yn y cartref ac ôl-ofal bobl sâl, Ambiwlansys, Meddygon Teulu, Canolfan Iechyd.

Yn 1969, cafodd y cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru ei roi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ers yn 1997, mae’r pwerau bellach dan reolaeth Llywodraeth Cymru a Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dros y blynyddoedd, mae’r gost o ddarparu gofal wedi cynyddu gan roi pwysau ar y gwasanaeth, ac nid yw pob elfen o’r GIG am ddim erbyn hyn, ee profion llygaid. Mae’r boblogaeth hefyd yn heneiddio yn sgil y gofal ac sydd felly’n rhoi fwy o straen ar y gwasanaeth.

Ers pandemig Covid-19, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, mae’r GIG wedi wynebu pwysau aruthrol. Mae adrannau megis gwasanaethau iechyd meddwl a meddygon teulu dan straen ers y pandemig yn sgil diffyg staff, galw uwch a rhestrau aros hir, er enghraifft.

Fodd bynnag, mae gofal iechyd yn dal i fod am ddim i bob aelod o’r gymdeithas ac mae twf yn nisgwyliad oes pobl yn y DU.

Cwis - Y GIG

More on Newid a symud

Find out more by working through a topic