鶹Լ

Francis Crick a James Watson
Image caption,
Francis Crick a James Watson gyda model o foleciwl DNA

Am hanner dydd ar 28 Chwefror, 1953, cerddodd Francis Crick a James Watson mewn i dafarn The Eagle yng Nghaergrawnt a chyhoeddi, “Rydyn ni wedi darganfod cyfrinach bywyd.”

Yn gynharach y bore hwnnw, yn labordy Cavendish gerllaw, roedd y ddau wyddonydd wedi canfod strwythur asid deocsiriboniwcleïg neu DNA.

Newidiodd y darganfyddiad hwn fyd gwyddoniaeth a meddygaeth am byth a rhannodd Crick, Watson a Maurice Wilkins wobr Nobel am eu gwaith yn 1962.

Darganfyddiad Crick a Watson

Ffotograff diffreithiant pelydr X o DNA.
Image caption,
Ffotograff 51- y ffotograff diffreithiant pelydr X enwog o DNA a dynnwyd gan Rosalind Franklin

Cafodd DNA ei ddarganfod yn 1869 ond fe gymerodd hi tan 1943 i wyddonwyr sylweddoli mai DNA oedd y deunydd genetig mewn celloedd a’i fod yn cynnwys côd bywyd. Y cam nesaf oedd canfod ei strwythur er mwyn deall sut mae’r gennyn, uned sylfaenol etifeddiad, yn gweithio a sut mae’n cael ei basio o un genhedlaeth i’r nesaf.

Roedd Crick a Watson yn ceisio adeiladu model 3D o foleciwl DNA. Ond nid nhw oedd yr unig rai oedd yn gweithio ar ganfod ei strwythur. Roedden nhw’n cystadlu gyda thîm yn King’s College Llundain a oedd yn defnyddio techneg newydd grisialograffaeth i astudio DNA.

Llwyddodd un ohonyn nhw, Rosalind Franklin, i dynnu patrwm diffreithiant pelydr X oedd yn dangos siap helics, sef Ffotograff 51. Heb yn wybod iddi hi, dangosodd un o’i chydweithwyr y llun i James Watson. Pan welodd e’r llun roedd e’n gwybod bod ei ddamcaniaeth e a Francis Crick am strwythur DNA yn gywir.

Strwythur DNA

Model o foleciwl DNA
Image caption,
Y model gwreiddiol o strwythur DNA a gafodd ei greu gan Crick a Watson

Camp Crick a Watson oedd sylweddoli bod yna ddau edefyn sy’n torchi o gwmpas ei gilydd i ffurfio helics dwbl. Mae’r ddau edefyn wedi ei dal at ei gilydd gan fondiau rhwng parau o fasau. Mae pedwar math o fas - adenin, thymin, cytosin a gwanin.

Mae DNA ym mhob cell ddynol. Mae’r 3 biliwn pâr o fasau ym mhob cell i ffitio mewn i ofod sy’n 6 micron ar draws. Pe byddai’r DNA mewn un gell yn cael ei ymestyn byddai’n 2m o hyd. Byddai’r holl DNA mewn corff dynol yn ymestyn i Plwton ac yn ôl.

Mae’r genom dynol - yr holl ddeunydd genynnol sydd yn ein DNA - fel y rysáit i wneud bod dynol. Byddai un copi ohono yn llenwi mwy na chant o lyfrau. Mae’n cynnwys 700MB o ddata (dim ond 130MB sydd yn yr Encyclopedia Britannica).

DNA ac esblygiad

Crwban enfawr
Image caption,
Astudiodd Charles Darwin greaduriaid Ynysoedd y Galapagos megis y crwban enfawr cyn datblygu ei ddamcaniaeth o esblygiad trwy ddetholiad naturiol

Drwy DNA mae gwybodaeth genetig yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, felly mae'n chwarae rhan allweddol mewn esblygiad. Dyma'r broses sy’n galluogi pethau byw i newid dros amser. Mae’r newidiadau hyn yn digwydd achos bod y genom yn newid.

Alfred Russel Wallace
Image caption,
Ganwyd Alfred Russel Wallace yn Llanbadog Fawr, Sir Fynwy yn 1823

Mae darganfod strwythur DNA a dechrau deall y rhan mae’n ei chwarae mewn etifeddiad wedi profi bod damcaniaethiau esblygiad Alfred Russel Wallace a Charles Darwin yn gywir. Fe ddywedon nhw bod rhywogaethau yn hanu o gyd-hynafiad. Pan gyhoeddodd Darwin ei lyfr On the Origin of Species yn 1859, roedd llawer yn gwrthod credu bod bodau dynol, epaod a mwnciod yn perthyn i’w gilydd.

Mae’n anhygoel bod y pedwar bas mewn DNA yn gyfrifol am holl amrywiaeth bywyd ar y Ddaear. Yr un system DNA sydd gan fodau dynol, bacteria a mamothiaid. Rydyn ni’n rhannu 99% o’n DNA gyda tsimpansîs a tua 50% o’n DNA gyda bananas.

DNA ac etifeddiad

Sut mae strwythur DNA yn gyfrifol am ei swyddogaeth, a sut mae gwyddonwyr yn defnyddio’u gwybodaeth am DNA i greu a defnyddio proffiliau genynnol

DNA ac etifeddiad

Esblygiad

Dysga am Darwin a Wallace a’u syniadau am ddetholiad naturiol, ac am y dystiolaeth bod rhywogaethau’n esblygu trwy’r dull hwn heddiw

Esblygiad

Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol

Darllena am sut mae triniaeth feddygol wedi newid dros amser ac am dechnegau modern fel addasu DNA ac ymchwil genetig

Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol