Â鶹ԼÅÄ

Mae Urdd Gobaith Cymru, un o'r sefydliadau mwyaf yn Ewrop ar gyfer pobl ifanc, bellach dros 100 oed. Mae aelodaeth yr Urdd wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd ond beth yn union yw’r Urdd a pham gafodd ei sefydlu yn y lle cyntaf?

Sefydlu Urdd Gobaith Cymru

Sefydlwyd yr Urdd yn ôl yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Roedd e'n poeni am ddyfodol y Gymraeg gan fod cymaint o ddylanwad Saesneg ar fywyd plant tu allan i'r cartref a'r capel. Roedd e eisiau darparu cyfleoedd i blant ddefnyddio'r Gymraeg a sicrhau bod plant yn gwybod am hanes, diwylliant a thraddodiadau eu gwlad.

Yn y cylchgrawn, Cymry'r Plant, roedd yn annog plant i ymuno â'r mudiad newydd yr oedd wedi ei gychwyn. Agorwyd aelwyd yr Urdd gyntaf yn Nhreuddyn, Sir y Fflint yn 1922 ac yn raddol fe dyfodd y mudiad. O fewn 10 mlynedd roedd ganddi 10,000 o aelodau. Erbyn heddiw mae 55,000 o aelodau gan yr Urdd bob blwyddyn.

Mae logo Mistar Urdd dal yn bodoli, sef triongl o liwiau baner Cymru gyda gwyn ar y pen, wedyn coch ac yn olaf, gwyrdd ar y gwaelod.

Gweithgareddau

  • Roedd yr Urdd yn trefnu gwersylloedd haf oedd yn apelio’n fawr at y Cymry ifanc.
  • Cafodd gwersyll parhaol cyntaf yr Urdd, sef Gwersyll Llangrannog, ei sefydlu yn 1932. Cerdded i'r traeth i nofio oedd yr unig weithgaredd bryd hwnnw.
  • Erbyn heddiw, gallwch gymryd rhan mewn dros 20 o weithgareddau gan gynnwys sgïo, merlota, trampolinio, cwrs rhaffau uchel, beiciau cwad, nofio a llawer mwy.
  • Mae gan yr Urdd wersyll yn y gogledd, Glan-llyn, sy’n cynnig nifer o weithgareddau i'w gwneud ar y llyn yn ogystal â wal ddringo, saethyddiaeth a cherdded afon.
  • Mae gan yr Urdd wersyll ym Mae Caerdydd hefyd sy'n cynnig profiad dinesig i blant.

Torri dau record byd!

Ar 25 Ionawr 2022, dechreuodd dathliadau’r flwyddyn gyda pharti pen-blwydd mwyaf yn hanes y mudiad ar ddiwrnod Cariad @ Urdd. Llwyddodd Yr Urdd yn eu hymgais i dorri dau deitl Guinness World Records™ drwy fideos o bobl yn canu’r gân eiconig, Hei Mistar Urdd. Y ddau record byd oedd:

  • Y mwyaf o fideos o bobl yn canu yr un gân i gael ei uwchlwytho i Twitter o fewn awr. Uwchlwythodd Yr Urdd a’i ffrindiau 1176 o fideos - y record flaenorol oedd 250.
  • Y mwyaf o fideos o bobl yn canu yr un gân i gael ei uwchlwytho i Facebook o fewn awr. Uwchlwythodd Yr Urdd a’i ffrindiau 461 o fideos - y record flaenorol oedd 418.

Darlledwyd parti arbennig yn fyw ar-lein ac ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru a Â鶹ԼÅÄ Radio Wales ar gyfer ysgolion Cymru yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn.

Neges Ewyllys Da

Anfonwyd Neges Ewyllys Da cyntaf yr Urdd yn 1924. Roedd hon yn neges o heddwch i blant ar draws y byd. Mae'r neges yn parhau i gael ei danfon bob blwyddyn ar 18 Mai. Mae'n cael ei llunio gan bobl ifanc ac yn cael ei danfon ar draws y byd. Mae'r dull o'i danfon wedi newid dros y blynyddoedd; mae wedi cael ei phostio, danfon fel Morse code a’i rhannu fel fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Neges Ewyllys Da 2023 yw gwrth-hiliaeth a’r ffaith nad oes lle i hiliaeth yn y byd. I weld y neges yn llawn ac i gael pecyn o adnoddau addysgol am ddim ewch i .

*Nid yw’r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys allanol.

Mistar Urdd

Daeth Mistar Urdd i fodolaeth yn 1976 wedi i staff yr Urdd greu logo’r cymeriad ar ffurf triongl. Cyfansoddwyd cân iddo, Hei Mistar Urdd ac agorwyd siop yn Aberystwyth i werthu nwyddau Mistar Urdd. Roedd pob math o nwyddau i'w cael gan gynnwys crysau-T, mygiau, pyrsiau, crysau nos a hyd yn oed trôns (pants) Mistar Urdd.

Un o'r nwyddau mwyaf poblogaidd oedd gonc (tegan meddal) Mistar Urdd. Mae'r gân wreiddiol yn dal i gael ei chanu heddiw ac mae Mei Gwilym a Rapsgaliwn wedi recordio fersiynau ohoni.

Fideo: Gonc Mistar Urdd yn y Gofod!

Aeth y gofodwr, Dafydd Rhys Williams, â gonc Mistar Urdd gydag e i'r Orsaf Ofod Rhyngwladol yn 1998 [Nid yw'r clip hwn ar gael ar ddyfeisiau symudol]

Yr Eisteddfod

Mae nifer o blant ysgol yn dod i gysylltiad â'r Urdd drwy'r Eisteddfod. Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal mewn llefydd gwahanol bob blwyddyn - yn y gogledd un flwyddyn, ac yn y de'r flwyddyn nesaf gan ddychwelyd i Gaerdydd pob pedair blynedd. Mae plant yn dod o bob cwr o Gymru i gystadlu.

Mae'r prif gystadlaethau yn cael eu cynnal yn y pafiliwn ac mae nifer o bebyll eraill ar y cae ar gyfer cystadlaethau eraill. Mae siopau yn dod â phebyll ar y maes i werthu eu nwyddau. Mae plant dros Gymru gyfan yn cael cyfle i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau. Ceir cystadlaethau canu, adrodd, dawnsio gwerin a dawnsio disgo, cystadlaethau celf, gwyddoniaeth a chystadlaethau coginio.

Fideo: Llangrannog yn 75 Oed

Cyfle i weld dathliadau gwersyll Llangrannog yn 2007.

Effaith Covid-19

Yn 2020, oherwydd cyfyngiadau Covid-19 doedd dim modd cynnal yr Eisteddfod ar gae felly cynhaliwyd hi’n rhithiol. Roedd plant yn gallu cymryd rhan mewn cystadlaethau, recordio eu hunain yn cystadlu a danfon fideo mewn at y beirniaid oedd yn dewis enillwyr.

A wyddost ti?

  • Chwaraeodd pÄ—l-droediwr Cymru, Aaron Ramsey, i dîm yr Urdd pan oedd yn blentyn.
  • Mae bron i 95,000 o bobl yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd.
  • Fe wnaeth nifer o bobl enwog berfformio ar lwyfan am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd gan gynnwys Ioan Gruffudd a Bryn Terfel.
  • Trefna’r Urdd i bobl ifanc fynd i ymweld â'r gymuned Gymraeg ym Mhatagonia, Yr Ariannin.

Hyrwyddo’r Gymraeg

Mae'r Urdd hefyd yn rhoi cyfle i blant Cymru gymryd rhan mewn chwaraeon a siarad Cymraeg wrth wneud hynny. Mae gan yr Urdd dros 150 o glybiau chwaraeon wythnosol gyda thros 11,000 o blant yn cymryd rhan ynddynt. Mae cystadlaethau chwaraeon yr Urdd yn boblogaidd iawn gydag ysgolion dros Gymru gyfan yn cymryd rhan.

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi nifer o gylchgronau gwahanol dros y blynyddoedd. Erbyn heddiw mae'r cylchgronnau Cip, IAW a Bore Da i'w cael ar ddim ar y we.

Ers y cychwyn cyntaf yn 1922 mae'r Urdd yn parhau i fod yn fudiad sy'n rhoi cyfle i blant Cymru fwynhau siarad Cymraeg trwy bob math o weithgareddau. Mae wedi bod yn rhan bwysig iawn o fywydau Cymry ifanc ac wedi sicrhau eu bod yn gwybod am hanes a diwylliant ac iaith eu gwlad.

Cwis: Faint wyt ti’n ei wybod am Urdd Gobaith Cymru?

Ble nesaf?

Mathau o drionglau

Mae Mistar Urdd ar ffurf siâp triongl. Wyt ti eisiau dysgu mwy am drionglau?

Mathau o drionglau

Cymraeg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau cyffrous ar gyfer dysgu Cymraeg

Cymraeg 8-11 oed

Erthyglau a chwisiau

Chwilio am erthyglau diddorol a chwisiau heriol? Edrycha fan hyn!

Erthyglau a chwisiau