Â鶹ԼÅÄ

Nia Morgan

Uwch Bartner Busnes, Cyllid

Nia Morgan

Fel Uwch Bartner Busnes Cyllid, mae Nia yn gyfrifol am reoli arian yn effeithiol, ac am ddarparu cymorth ymgynghorol i Â鶹ԼÅÄ Cymru Wales. Mae Nia yn gweithio’n agos gyda’r uwch dîm, yn sbarduno newid drwy ddiffinio strategaeth ariannol a chysoni cynlluniau â’r adnoddau ariannol sydd ar gael i sicrhau’r gwerth gorau i’r rhai sy’n talu’r drwydded. 

Mae Nia yn Gyfrifydd Siartredig, a bu’n cael hyfforddiant gyda Deloitte yng Nghaerdydd – cyn symud i swyddfa Bermuda. Cyn ymuno â’r Â鶹ԼÅÄ, roedd Nia yn Gyfarwyddwr Cyllid yn Senedd Cymru rhwng 2016 a 2023, ac roedd yn un o Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Aelodau’r Senedd. Mae hi hefyd bod mewn swyddi cyllid uwch yn y sector tai a’r sector iechyd. 

Yn wreiddiol o Flaendulais, mynychodd Nia Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg ac, yn fwy diweddar, Gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA).  

Mae Nia yn byw yn Abertawe gyda’i theulu.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: