Diweddarwyd: 31 Mawrth 2022
Rydyn ni'n derbyn nifer fawr o geisiadau gan bobl a sefydliadau sydd eisiau defnyddio cynnwys y Â鶹ԼÅÄ, gan gynnwys rhaglenni cyfan, clipiau, lluniau a chynnwys bbc.co.uk.
Pryd rydych chi angen caniatâd
I ddefnyddio unrhyw un o'r pethau yma...
- Rhaglenni cyfan
- Clipiau
- Lluniau
- Cynnwys
- Ein logo neu fath arall o frandio
- Metadata
- Unrhyw beth sydd wedi’i dynnu o’n gwasanaethau i ddatblygu neu hyfforddi deallusrwydd artiffisial neu i wneud dadansoddiad cyfrifiadurol
- Unrhyw beth arall sy’n cael ei ddiogelu gan hawlfraint
- byddwch chi angen caniatâd.
Er weithiau, ni fyddwn yn gallu rhoi caniatâd i chi
...oherwydd dydyn ni ddim wastad yn berchen ar yr hawlfraint.
Mae ein cynnwys ni yn cynnwys gwaith pobl eraill yn aml. Er enghraifft, efallai bod yna ddelweddau, fideos a cherddoriaeth mewn rhaglenni teledu sy'n perthyn i artistiaid, actorion neu gerddorion. Neu efallai bod gennym drwydded i ddarlledu sioe, ond mai'r cwmni cynhyrchu sydd berchen arno.
Serch hynny, mae gennym beth cynnwys y gallwn roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.
Rydyn ni'n aml yn derbyn ceisiadau am y pynciau isod. Darllenwch i weld beth allwn ni roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.
Alla i chwarae rhaglen deledu neu radio cyfan i gynulleidfa?
Mae hynny’n dibynnu ar ble rydych chi ac ar gyfer beth rydych eisiau ei ddefnyddio.
Os ydych chi yn y DU a’i fod at ddibenion addysgol
Efallai y gallwch ddefnyddio rhaglenni cyfan neu glipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA). i gael rhagor o wybodaeth.
Am wybodaeth ynglÅ·n â thrwyddedu rhaglenni yn eu cyfanrwydd at ddibenion addysgol, cysylltwch â Â鶹ԼÅÄStudiosLearning@bbc.com.
Ar gyfer unrhyw beth arall, cysylltwch â ni yma (dolen Saesneg) i ddweud beth rydych chi eisiau ei wneud, gan gynnwys:
- Pwy ydych chi
- Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.
Alla i ddefnyddio delweddau a sgrin-luniau?
Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd. Dyma sut i wneud...
I ofyn am brynu sgrin-luniau, anfonwch e-bost at dîm Gwerthiant Â鶹ԼÅÄ Motion Gallery.
I holi am ddefnyddio lluniau oddi ar wefan Â鶹ԼÅÄ News, anfonwch e-bost at dîm Caniatâd y Wefan Newyddion.
I holi am ddefnyddio unrhyw luniau rydyn ni’n berchen arnyn nhw, anfonwch e-bost at Lyfrgell Lluniau’r Â鶹ԼÅÄ.
Cofiwch...
Nid ni sydd biau'r rhan fwyaf o'r lluniau a ffotograffau a'r wefan Â鶹ԼÅÄ News. Ond, yn aml, dangosir pwy bynnag sydd biau'r rhain yng nghornel y sgrin. Dyna pam nad ydyn ni’n gadael i chi ddefnyddio lluniau a ffotograffau oddi ar Â鶹ԼÅÄ News at ddibenion masnachol.
Alla i gael trawsgrifiad o raglen deledu?
Dydyn ni ddim yn gwneud trawsgrifiadau o’n rhaglenni, felly allwn ni ddim eu darparu. Ymddiheuriadau am hynny.
Ond, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am raglenni ar .
Alla i ddefnyddio clipiau o raglenni?
Os ydych chi’n byw yn y DU, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA). Ewch i .
Hefyd, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau o dan eithriadau addysgol yr hawlfraint. Ewch i dudalen i gael rhagor o wybodaeth.
Am wybodaeth ynglÅ·n â thrwyddedu rhaglenni yn eu cyfanrwydd at ddibenion addysgol, cysylltwch â Â鶹ԼÅÄStudiosLearning@bbc.com.
Gallwch ofyn am wybodaeth am brynu clipiau at ddibenion masnachol drwy anfon e-bost at dîm Gwerthiant Â鶹ԼÅÄ Motion Gallery yn Â鶹ԼÅÄ.MotionGallerySales@gettyimages.com.
Dal methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cysylltwch â ni yma i ofyn am ganiatâd (dolen Saesneg). Cofiwch ddweud:
- Pwy ydych chi
- Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.
Alla i brynu copi o raglen rydw i wedi ymddangos ynddi?
Efallai bod modd i chi brynu copi. Cewch wybod sut ar ein tudalen Mynediad i Gyfranwyr.
Alla i ddefnyddio logo a brand y Â鶹ԼÅÄ?
Mae’n dibynnu. Mae’n werth mynd i wefan Brandio’r Â鶹ԼÅÄ i gael gwybod yn iawn.
Alla i ailddefnyddio cynnwys oddi ar wefan Â鶹ԼÅÄ?
Fel arfer, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd.
I holi am ddefnyddio cynnwys oddi ar wefan Â鶹ԼÅÄ News anfonwch e-bost at dîm Caniatâd y Wefan Newyddion.
I ofyn am ddefnyddio cynnwys oddi ar safleoedd eraill y Â鶹ԼÅÄ, cysylltwch yma (dolen Saesneg).
Cofiwch gynnwys gwybodaeth am yr hyn rydych chi eisiau e’i wneud â'r cynnwys a ble hoffech ei ddefnyddio.
Cofiwch...
Mae’n bosib bydd angen talu ffi.
Alla i ddefnyddio metadata a ffrydiau RSS y Â鶹ԼÅÄ?
Mae'n dibynnu ar gyfer beth mae ei angen...
Ar gyfer pobl
Nid oes gennych hawl i dynnu metadata o’n cynnwys neu ffrydiau RSS.
Gallwch ychwanegu ffrwd RSS Â鶹ԼÅÄ News at eich gwefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol. Ar yr amod:
- Nad ydych yn newid y ffrwd RSS neu’n tynnu unrhyw un o’n brandiau neu logos
- Eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth i ni drwy ddweud ei fod yn dod o Â鶹ԼÅÄ News, bbc.co.uk/news neu bbc.com/news gan roi’r testun a’r hyperddolen mewn lle amlwg gerllaw
- Nad ydych yn ychwanegu ein brandiau, logos ac ati, ar wahân i unrhyw frandio sydd eisoes wedi’i fewnblannu i’r ffrwd RSS.
Darllenwch sut i greu ffrwd RSS Â鶹ԼÅÄ News fan hyn.
Ar gyfer busnes
Bydd angen trwydded arnoch i ddefnyddio ein metadata (fel delweddau, testun, cyfryngau a’r dolenni iddynt). Gwnewch gais am drwydded metadata.
I ddefnyddio ein ffrydiau RSS at ddibenion busnes, bydd angen i chi gael caniatâd, ac efallai y bydd angen talu ffi
Ydi hi’n iawn darparu dolen i wefannau’r Â鶹ԼÅÄ?
Ydi, mae'n iawn i chi gysylltu ag URL ein gwefan ar yr amod nad ydych chi’n defnyddio logo'r Â鶹ԼÅÄ. Os ydych chi'n dymuno defnyddio logo’r Â鶹ԼÅÄ mae rhagor o wybodaeth yma.
Sylwch hefyd fod allbwn ein gwefan yn newid dros amser, felly gallai'r hyn y byddwch chi’n cysylltu ag ef fod wedi newid neu efallai na fydd ar gael ar ôl cyfnod penodol o amser.
Alla i ailddefnyddio cynnwys y Â鶹ԼÅÄ ar gyfer fy musnes?
Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gael ein caniatâd ar gyfer unrhyw ddefnydd busnes, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Ceir mwy o fanylion fan hyn.