Â鶹ԼÅÄ

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)

Mae Shini Muthukrishnan yn ymuno â Julie Pearson, sy’n Hyfforddwr Athletau, wrth iddi fynd drwy rai o’r sgiliau sydd eu hangen mewn Para-athletau.

Sgiliau

Dyma’r sgiliau gafodd eu dysgu yn y gweithgareddau hyn:

Taflu Pwysau
Dysgu sut mae gwthio (ac nid taflu), gan ddefnyddio bag ffa i ymarfer. Yna ymarfer cywirdeb lle mae’r plant yn penderfynu ble i anelu a thaflu.

Rhedeg gyda Thywysydd
Dysgu sut i gadw mewn amser a mynd yn gyflymach ac yn gyflymach, gan weithio mewn parau i fireinio sgiliau amseru. Yna gwisgo gorchudd llygaid mewn ymarfer ymddiried, gan ddilyn a rhoi cyfarwyddiadau.

Gwaywffon
Dysgu sut mae taflu gwaywffon yn wahanol i’r pwysau, gan droi i’r ochr, dal eu braich yn ôl a thaflu gyda swish.

Gweithgareddau

Taflu Pwysau

Pŵer Gwthio
Mae’r disgyblion yn dysgu sut mae rhoi’r bag ffa ar eu gwddf, troi i’r ochr, rhoi eu penelinoedd i fyny a phlygu a gwthio er mwyn iddyn nhw allu taflu’n bwerus.

Craterau Lleuad
Yma, mae’r disgyblion yn ymarfer pa mor gywir maen nhw’n medru taflu drwy anelu at gael eu bagiau ffa i lanio yn y cylchoedd – y ‘craterau lleuad’. Maen nhw wedyn yn ymarfer gwthio’r bêl cyn belled ag y gallan nhw gan ddefnyddio pêl drom.

Rhedeg gyda Thywysydd/Rhedeg gyda Chymorth

Mae’r gamp hon ar gyfer athletwyr sydd â nam ar eu golwg. Er mwyn gwneud y gystadleuaeth yn deg, mae pawb yn gwisgo mwgwd ac mae gan bob athletwr redwr sy’n gallu gweld yn iawn i fod yn dywysydd sy’n rhedeg ochr yn ochr â nhw.

Amseru Tîm
I ymarfer gwaith tîm, mae’r disgyblion yn martsio yn eu hunfan, yna gyda’i gilydd i lawr yr ystafell, ac yna’n ailadrodd hyn ond yn gyflymach.

Ymddiried Ynof Fi
Mae’r plant yn gwisgo gorchudd llygaid neu’n cau eu llygaid os nad ydyn nhw eisiau gwisgo gorchudd llygaid, ac mae eu partner yn eu tywys i lawr yr ystafell.

Gwaywffon

Mae gwaywffon yn gamp maes lle mae athletwyr yn taflu picell metel cyn belled ag y gallant.

Seren Swish
Yn y gweithgaredd hwn, bydd y disgyblion yn ymarfer y symudiad taflu gwaywffon. Gyda’u braich yn ôl, maen nhw’n troi i’r ochr, yn swisho ac yn taflu’r bag ffa ymlaen. Yna, maen nhw’n rhoi cynnig arni gyda gwaywffon sbwng.

Lansio Roced
Gan ddefnyddio'r dechneg taflu hon, mae'r plant yn taflu'r waywffon sbwng dros rwyd cyn belled ag y gallant.

Cardiau gweithgaredd

Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer rhedeg gyda thywysydd 8-11

Cerdyn gweithgaredd: rhedeg gyda thywysydd 8-11

Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer gwaywffon 8-11

Cerdyn gweithgaredd: gwaywffon 8-11

Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer taflu pwysau 8-11

Cerdyn gweithgaredd: taflu pwysau 8-11