Dysgwch sut i chwarae boccia gyda’r cyflwynydd Blue Peter, Abby Cook, a’r hyfforddwyr Rafael (Rafa) Young a Natasha Critchley.
Sgiliau
Mae’r gweithgareddau’n datblygu’r sgiliau hyn: dilyn cyfarwyddiadau, sut i daflu/rhowlio’r bêl ac ymarfer anelu gan ddefnyddio targedau.
Gweithgareddau
Dilyn yr Arweinydd
Mae’r gweithgaredd hwn yn ymarfer gwrando ar gyfarwyddiadau a’u dilyn. Mae Rafa a Natasha yn rhoi cyfarwyddiadau ac mae’r plant yn eu dilyn.
Pêl yn y Neuadd
Mae Rafa yn dangos sut mae’n gallu defnyddio ramp i yrru’r bêl. Mae Natasha yn dangos sut gallwch chi daflu’r bêl dros y fraich neu daflu’r bêl o dan y fraich a’i rhowlio ar y cwrt. Maen nhw’n ymarfer taflu a rhowlio'r bêl i reoli cyflymder y bêl er mwyn sicrhau cywirdeb.
Ymarfer Targed
Mae'r gweithgaredd hwn yn galluogi’r plant i ymarfer anelu gan ddefnyddio targedau o wahanol faint. Gallwch wneud hyn yn anoddach drwy ddefnyddio targed llai.
Cerdyn gweithgaredd
Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer boccia 5-7
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae chwarae boccia, ewch i: .
Sylwch y bydd y ddolen hon yn mynd â chi o wefan y Â鶹ԼÅÄ.