Hysbysiad preifatrwydd – Cronfa Ddata Cyfranwyr 50:50
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi, yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Yr wybodaeth bersonol yw eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a rhywedd. Rydyn ni hefyd yn eich gwahodd i roi eich ethnigrwydd a nodi a oes gennych chi unrhyw anabledd – gelwir hyn yn ddata categori arbennig. Bydd y Â鶹ԼÅÄ yn cadw eich data personol yn ddiogel mewn cronfa ddata o arbenigwyr a chyfranwyr sydd ar gael yn fewnol i ymgynghori â nhw wrth ddewis cyfranwyr ar gyfer cynnwys y Â鶹ԼÅÄ. Does dim sicrwydd y bydd rhywun yn cysylltu â chi nac yn gofyn i chi ymddangos yng nghynnwys y Â鶹ԼÅÄ.
Y Â鶹ԼÅÄ yw “rheolydd data” eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu mai’r Â鶹ԼÅÄ fydd yn penderfynu ar gyfer beth fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, a sut bydd yn cael ei phrosesu. Bydd y Â鶹ԼÅÄ yn dibynnu ar eich caniatâd penodol chi i gasglu a defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion dewis cyfranwyr ar gyfer cynnwys y Â鶹ԼÅÄ, a gofynnir i chi dicio’r blwch caniatâd wrth lenwi’r ffurflen hon cyn cyflwyno eich gwybodaeth. Gallwch dynnu’r caniatâd hwn yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni yn 5050project@bbc.co.uk. Efallai y bydd y Â鶹ԼÅÄ hefyd yn rhannu gwybodaeth am y gronfa ddata â chwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n creu cynnwys ar gyfer y Â鶹ԼÅÄ. Rydyn ni’n defnyddio cwmnïau eraill i’n helpu i gyflwyno’r gronfa ddata ac efallai y byddwn yn gofyn iddyn nhw brosesu gwybodaeth amdanoch chi ar ein rhan.
Bydd y Â鶹ԼÅÄ yn cadw'ch gwybodaeth am dair blynedd. Yna, bydd y wybodaeth yn cael ei hadolygu i sicrhau cywirdeb a’ch bod yn dymuno aros ar y gronfa ddata. Os hoffech i’r Â鶹ԼÅÄ ddileu eich data, neu os hoffech ddiwygio neu ddiweddaru eich data personol, cysylltwch â ni yn 5050project@bbc.co.uk.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut mae'r Â鶹ԼÅÄ yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, neu os ydych yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y Â鶹ԼÅÄ. Yno hefyd, cewch ragor o wybodaeth am sut mae’r Â鶹ԼÅÄ yn prosesu’ch gwybodaeth a sut gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Â鶹ԼÅÄ. Os bydd anghysondeb rhwng y Polisi a'r hysbysiad hwn, yr hysbysiad hwn fydd drechaf.
Os byddwch yn mynegi cwyn i’r Â鶹ԼÅÄ am y ffordd y gwnaeth drin eich gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i gwyno wrth awdurdod goruchwylio. Yn y Deyrnas Unedig, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).