Βι¶ΉΤΌΕΔ

Telerau ac Amodau Arwerthiant Plant Mewn Angen Gorsafoedd Radio'r Βι¶ΉΤΌΕΔ

1. Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ('y Βι¶ΉΤΌΕΔ')

1.1 Cynhelir yr arwerthiant hwn gan Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru a rhoddir yr elw i gronfa Plant mewn Angen y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Gofynnir i'r bidiwr llwyddiannus dalu'n syth gyda cherdyn credyd neu ddebyd, ond gellir talu gyda siec yn unol ΓΆ Chymal 6.2. Darperir yr holl fanylion i'r bidiwr ar Γ΄l i'r arwerthiant ddod i ben. Gweler cymal 4.4 isod.

2. Capasiti cyfreithiol

2.1 Dim ond unigolion a all ymrwymo'n gyfreithiol a ffurfio contractau dan y gyfraith berthnasol fydd yn cael bidio am eitemau a'u prynu. Rhaid i bob bidiwr fod yn 18 oed o leiaf.

3. Statws cyfreithiol y bidiau

3.1 Mae pob bid a wneir yn gyfystyr ΓΆ chynnig cyfreithiol, ac os bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn derbyn y bid, bydd yn ffurfio cytundeb a fydd yn rhwymo'r bidiwr.

3.2 Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, ac fel y nodir yng nghymal 4.4 isod, bydd pob bid dal yn ddilys hyd nes y derbynnir taliad am yr eitemau.

4. Y broses fidio

4.1 Y bid llwyddiannus yn yr Arwerthiant fydd y bid uchaf sy'n bodloni unrhyw amodau a all fod yn berthnasol ('y Bid Llwyddiannus').

4.2 Os gwneir bid ac yna cyflwynir bid uwch, a bod y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn dileu'r bid uwch hwnnw am ba bynnag reswm, gall y Βι¶ΉΤΌΕΔ dderbyn y bid cynharaf os yw'n dymuno, fel pe na bai bid uwch wedi cael ei wneud.

4.3 Os yw bid yn llwyddiannus, bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn hysbysu'r bidiwr dros y ffΓ΄n er mwyn cadarnhau swm y Bid Llwyddiannus, manylion yr eitemau ac i drefnu talu amdanynt a'u danfon. Er mwyn helpu i gynnal dilysrwydd yr arwerthiant, ceidw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yr hawl hefyd i ffonio bidwyr yn ystod yr arwerthiant er mwyn gwneud gwiriadau safonol.

4.4 Os oes problem yn codi gyda'r bidiwr llwyddiannus o ran talu swm y Bid Llwyddiannus, ceidw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yr hawl i gynnig y Nwyddau i'r bidiwr uchaf nesaf.

4.5 Ceidw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yr hawl i wrthod neu ddileu bidiau yn Γ΄l ei ddisgresiwn llwyr ei hun.

4.6 Ceidw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yr hawl i ddod ΓΆ'r Arwerthiant i ben yn gynnar neu ei ymestyn unrhyw bryd ac yn Γ΄l ei ddisgresiwn. Gall yr Arwerthiant gael ei ganslo neu ei ohirio o ganlyniad i, ymysg pethau eraill, broblemau technegol a wynebir gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ neu faterion yn ymwneud ΓΆ'r Rhoddwyr (megis unrhyw benderfyniad gan y Rhoddwr i dynnu'r eitemau allan o'r Arwerthiant).

4.7 Yn ychwanegol at gymal 4.6 uchod, os caiff yr Arwerthiant ei ganslo am ba bynnag reswm ac yna'n cael ei ail-agor, bydd pob bid blaenorol yn gorffen a bydd y bidio'n ailddechrau.

4.8 Os oes anghydfod rhwng bidwyr, nid oes rheidrwydd ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ i gamu i mewn i anghydfod o'r fath. Drwy hyn, caiff y Βι¶ΉΤΌΕΔ, ei swyddogion, ei weithwyr, ei asiantau a'r Rhoddwyr eu rhyddhau o unrhyw hawliadau, gofynion neu iawndal sy'n codi o unrhyw anghydfodau o'r fath neu mewn cysylltiad ΓΆ nhw.

5. Eitemau

5.1 Ni ellir hawlio ad-daliad na chyfnewid yr eitemau a brynir yn yr Arwerthiant, ac eithrio'r hyn a nodir yng nghymal 9 isod. Ni all y Βι¶ΉΤΌΕΔ warantu cyflwr, cynnwys nac addasrwydd yr eitemau.

5.2 Mae'r bidwyr yn cydnabod y caiff yr holl wybodaeth a ddarperir fel disgrifiad o'r Eitemau ei hatgynhyrchu gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ mewn ewyllys da ac y bydd yn gyson ΓΆ'r wybodaeth a ddarparwyd i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ. O'r herwydd, ni ellir dal y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am ddisgrifiadau anghywir neu gamarweiniol.

5.3 Bydd gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ hawl i gyfnewid Eitemau ΓΆ disgrifiadau tebyg ac o safon debyg am eitemau eraill, os, am ba bynnag reswm, nad yw'r Eitemau perthnasol ar gael neu os oes rheswm digonol arall dros wneud hynny. Yn achos cyfnewid eitem o'r fath cyn i'r Arwerthiant ddod i ben, gall y bidiwr dynnu ei fid yn Γ΄l drwy hysbysu'r Βι¶ΉΤΌΕΔ, ond rhaid derbyn hysbysiad o'r fath cyn y daw'r bidio i ben. Yn achos cyfnewid eitem ar Γ΄l i'r arwerthiant ddod i ben, bydd gan y bidiwr llwyddiannus [7] diwrnod i wrthod derbyn yr eitem a gynigir a, lle bo hynny'n berthnasol, hawl i gael ad-daliad o'r arian a dalwyd. Os nad yw'r bidiwr llwyddiannus am gael yr eitem a gynigir, caiff yr Eitem ei chynnig i'r bidiwr uchaf nesaf.

6. Talu

6.1 Rhaid talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd neu siec yn daladwy i Plant Mewn Angen. Rhoddir yr holl fanylion am y drefn ar gyfer talu i'r bidiwr llwyddiannus.

6.2 Rhaid derbyn sieciau cyn pen 5 niwrnod ar Γ΄l i'r bidiwr llwyddiannus gael cadarnhad mai ef sydd ΓΆ'r bid llwyddiannus. Ni all y Βι¶ΉΤΌΕΔ na Plant Mewn Angen y Βι¶ΉΤΌΕΔ dderbyn unrhyw atebolrwydd am daliadau nas derbyniwyd, o ganlyniad i fethiannau yn y gwasanaeth post neu fel arall.

6.3 Oni chytunwyd fel arall gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ, ni chaiff eitemau eu rhyddhau i chi hyd nes bod y taliad wedi'i dderbyn a'n bod wedi cael cadarnhad bod yr arian wedi'i glirio.

7. Arian

7.1 Cynhelir yr Arwerthiant mewn punnoedd Sterling.

7.2 Er bod y Βι¶ΉΤΌΕΔ a Plant Mewn Angen y Βι¶ΉΤΌΕΔ o'r farn eu bod wedi'u heithrio rhag talu TAW at ddibenion yr Arwerthiannau, petai'r sefyllfa hon yn newid, bydd swm y Bid Llwyddiannus yn cynnwys unrhyw TAW perthnasol.

8. Atebolrwydd

8.1 Mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth a'r deunyddiau eraill ar y wefan hon yn gywir ac yn gyflawn, ond nid yw'n derbyn cyfrifoldeb (ac eithrio'r hyn a nodir isod) am unrhyw wallau neu fylchau yn y wefan hon.

8.2 Bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gwneud pob ymdrech resymol i gywiro gwallau a bylchau cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib ar Γ΄l cael ei hysbysu amdanynt.

8.3 Heblaw'r hyn a nodir yn benodol yn y Cytundeb hwn, nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gwneud unrhyw sylwadau ac mae'n eithrio'n briodol yr holl amodau neu warantau, a fynegwyd neu a awgrymwyd, yn cynnwys (ond heb ei gyfyngu i) argaeledd, ansawdd, prydlondeb, perfformiad neu ffitrwydd at ddiben penodol unrhyw un o'r Eitemau sydd ar gael, i'r holl raddau a ganiateir dan gyfraith Lloegr.

8.4 Ni fydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ, na Plant Mewn Angen y Βι¶ΉΤΌΕΔ, yn atebol am unrhyw hawliadau neu golledion o unrhyw natur sy'n codi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol os nad ydych chi'n gallu cael mynediad i'r wefan, o ganlyniad i, ymysg pethau eraill, broblemau technegol a wynebir gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ, Rhoddwyr neu'r system ffΓ΄n.

8.5 Ni fydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ, na Plant Mewn Angen y Βι¶ΉΤΌΕΔ, dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol boed hynny drwy gontract neu gamwedd (gan gynnwys esgeulustod a thorri dyletswydd statudol) am unrhyw golled anuniongyrchol neu sylweddol, sut bynnag yr achoswyd hynny neu sut bynnag yr oedd hynny'n codi mewn cysylltiad ΓΆ'r Cytundeb hwn, eich defnydd o'r wefan hon, neu eitemau a brynwyd gennych.

8.6 Heb danseilio'r uchod, rydych yn cytuno, os derbynnir bod gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ rywfaint o atebolrwydd cyfreithiol, y bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ ond yn atebol am golled uniongyrchol hyd at gyfanswm y Bid Llwyddiannus mewn perthynas ag unrhyw un digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau a briodolir i'r un achos.

8.7 Nid oes dim yn y Cytundeb hwn sy'n ceisio eithrio atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol pan fo hynny wedi cael ei achosi gan esgeulustod o du'r Βι¶ΉΤΌΕΔ.

9. Defnyddio cynnwys y safle

9.1 Mae'r Safle hwn at ddefnydd personol ac anfasnachol. Ni chewch ddiwygio, copΓ―o, dosbarthu, trawsyrru, arddangos, perfformio, atgynhyrchu, cyhoeddi, trwyddedu, creu gwaith sy'n deillio o'r Safle, trosglwyddo, na gwerthu unrhyw wybodaeth a gafwyd o'r Safle hwn. Cewch lwytho'r Safle i'ch cyfrifiadur personol yn unig at ddibenion gwylio ac argraffu nifer o dudalennau'r Safle i'ch defnydd personol.

10. Dolenni

10.1 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ysgwyddo dim cyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefannau eraill y mae dolenni iddynt o'r wefan hon. Felly, ni ellir dal y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achoswyd, neu yr honnir iddynt gael eu hachosi drwy ddefnyddio neu ddibynnu ar gynnwys, nwyddau neu wasanaethau ar y gwefannau hyn, nad oes gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ reolaeth drostynt. Ni fydd cynnwys unrhyw hyperddolenni i wefannau eraill o'r fath yn golygu bod y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ardystio'r deunydd ar y gwefannau na bod ganddo unrhyw gysylltiad ΓΆ pherchennog y gwefannau hyn.

11. Diogelu Data

11.1 Mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cydymffurfio ΓΆ darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 wrth brosesu gwybodaeth bersonol. Felly, cedwir eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ ac fe'i defnyddir gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ neu ei datgelu i drydydd parti (megis Rhoddwr) dim ond petai gofyn am hynny at ddibenion y Cytundeb hwn neu os ydych chi'n cyfarwyddo hynny.

11.2 Os oes angen, bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cydweithredu ag unrhyw archwiliad gan unrhyw gorff llywodraethol neu unrhyw lys neu dribiwnlys sy'n arfer ei hawliau'n gyfreithlon ac fe allai cydweithredu o'r fath ddigwydd heb rybudd i chi.

12. Arwahanoldeb

12.1 Petai Llys yn gwahardd unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn neu'n dyfarnu ei bod yn anghyfreithlon, yn annilys neu nad oes modd ei gorfodi, caiff darpariaeth o'r fath ei dileu o'r Cytundeb hwn i'r graddau gofynnol a'i gwneud yn aneffeithiol cyn belled ag sy'n bosibl heb ddiwygio'r darpariaethau sy'n weddill yn y Cytundeb hwn ac ni fydd yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar unrhyw amgylchiadau eraill na ddilysrwydd na gorfodaeth y Cytundeb hwn.

13. Hawliau Trydydd Parti

13.1 Nid yw'r Cytundeb hwn yn creu nac yn cyflwyno unrhyw hawl dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd PartΓ―on) 1999, y gellir ei gorfodi gan unrhyw un nad yw'n barti yn y Cytundeb hwn.

14. Cyfyngiad

14.1 Mae pob bidiwr yn cytuno, waeth beth a nodir mewn unrhyw statud neu gyfraith i'r gwrthwyneb, bod rhaid ffeilio unrhyw hawliad neu achos gweithredu sy'n deillio neu'n ymwneud ag Arwerthiant neu'r telerau ac amodau hyn cyn pen (1) mlynedd ar Γ΄l i hawliad o'r fath neu achos gweithredu godi, oherwydd ni cheir gwneud dim byd wedyn.

15. Awdurdodaeth

15.1 Llywodraethir a dehonglir y Cytundeb hwn yn unol ΓΆ chyfreithiau Cymru a Lloegr, a llysoedd y gwledydd hynny fydd y llysoedd awdurdodaeth ddigonol.

Os ydych chi'n mynd i'r Arwerthiant ac yn cymryd rhan ynddo, mae'n cadarnhau eich bod wedi deall a derbyn y Telerau ac Amodau uchod.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.