Â鶹ԼÅÄ

Tips Adolygu C2

Adolygu

Mae cyfnod yr arholiadau ar ein pennau, ond mae gan C2 yr holl dips i'ch helpu i adolygu.

Gall cyfnod yr arholiadau fod yn un annifyr, gyda miloedd o bobl ifanc led-led Cymru dan straen, boed yr arholiadau yn rai TGAU, Lefel A, gradd... neu unrhyw rai eraill.

Er mwyn eich helpu trwy'r cyfnod yma, a chael y canlyniadau gorau allwch chi, mae C2 a'n harbenigwr arholiadau - Iwan Davies - wedi llunio tips ar eich cyfer.

Pwysigrwydd Adolygu:

  • Byddech chi ddim yn ystyried rhedeg marathon heb ymarfer yn gyntaf - ymgeisiodd Jordan a ma' pawb yn cofio beth ddigwyddodd iddi hi!
  • Meddyliwch am eich arholiadau yn yr un modd. Mae'r ymarfer, fel adolygu yn anodd a di-ddiolch ond mae'r teimlad o lwyddo yn gwneud mwy na iawn am hynny.
  • Os ydych yn anelu am amser o 3 awr neu 7 awr s'dim ots ond cyrraedd y nod yw'r gôl - pe bai chi yn anelu am 12 A* neu sawl C a D - s'dim ots ond i chi gyrraedd eich potensial chi.

Adolygu Cyffredinol:

  • Mi ddylech chi fod wedi dechrau adolygu yn ddelfrydol cyn Pasg, ond nid yw hi'n rhy hwyr. Gwnewch y gorau o'r amser sydd ar ôl.
  • Ewch trwy eich ffeiliau nawr a sicrhewch fod pob dim gyda chi yn barod - ewch i weld eich athrawon i gasglu gwaith coll.
  • Dylai bod gennych un ffeil i bob pwnc/uned a hwn wedi ei labelu yn glir ac wrth law - safio stress
  • Mae presenoldeb yn holl bwysig o hyn allan gan fydd llawer o adolygu yn digwydd yn y gwersi.
  • Mae technegau gwahanol o adolygu yn gweithio i unigolion - ARBROFWCH - ffeindiwch yr arddull sydd orau i chi - gwrando, darllen, gweledol.
  • Cymerwch gamau nawr i sicrhau cyn lleied o stress ac sydd yn bosib - chi yn mynd i gael panic s'dim ots pa mor barod ydych chi ond mae modd o reoli hyn yn yr wythnosau cynt.

Tactegau:

  • Y peth pwysicaf yw creu AMSERLEN ADOLYGU. Amserlen wythnosol sy'n dda fel bod strwythur gyda chi. Mi fydd hyn yn hwyluso'r broses ac yn sicrhau nad oes cyfle gyda chi i wastraffu amser.
  • 45 munud y sesiwn ( byddwch yn colli canolbwyntiad ar ôl hyn) yna egwyl o tua 15m
  • gwnewch bethau gwahanol ym mhob egwyl fel newid bach, gan sicrhau awyr iach.
  • rhowch darged - unwaith i chi orffen adran arbennig o waith eich bod chi'n cael treat e.e. Siocled, gem ar y cyfrifiadur, galwad ffôn, (ond ewch nôl i'r adolygu ar yr amser cywir).
  • Wrth lunio hwn mi allwch gymryd i ystyriaeth eich hoff rhaglenni teledu (i gyd-fynd ag egwyl), tripiau i'r sinema, dre, siopa, chwaraeon - cofiwch bwysigrwydd hamddena, er nid ar draul y dysgu.
  • Peidiwch esgeuluso bwyta ac yfed - dwr hynny yw- neu byddwch yn colli canolbwyntiad.

Gwella eich cof:

  • Ar ôl adolygu uned arbennig mae'n bwysig i adolygu'r hyn a ddysgoch ar ôl amser - e.e. ar ddiwedd y diwrnod adolygu
  • *24 awr yn ddiweddarach
    *Wythnos yn ddiweddarach er mwyn gweld beth yw'r cam nesaf - cryfderau a gwendidau pwnc
    *Defnyddiwch ddydd Sul e.e. fel diwrnod o adolygu'r wythnos gan benodi 15 munud i bob pwnc.

Lleoliad:

  • Sicrhewch leoliad tawel cyfforddus gyda golau da - er yn esmwyth nid yw'r sofa o flaen teledu yn syniad da.
  • Ceisiwch fod i ffwrdd o gyfrifiadur / ffon y t? / ffon symudol i osgoi temtasiwn. Yn ogystal dwedwch wrth eich teulu trefn adolygu eich dydd fel y cewch lonydd ac efallai treats yn ystod eich egwyl.
  • Sicrhewch fod cyflenwad digonol o bapur / adnoddau gyda chi yn yr ystafell fel bod dim tarfu.

°ä´Ç±èï´Ç:

  • Peidiwch copïo nodiadau drosodd a throsodd - defnyddiwch nhw hefyd drwy osod profion bach.
  • Gwnewch nodiadau o ffeithiau allweddol a defnyddiwch uchafbwyntwyr (highlighter pens). Mae hyn yn fodd o wneud pethau ychydig mwy diddorol.

Adolygu mewn gr?p:

  • Mae hyn yn dda os yw eich ffrindiau yn synhwyrol. Mi allwch ddarllen / gosod profion / cwis / ac esbonio darnau anodd. BYDDWCH YN OFALUS gyda'r dechneg yma!!

PWYSIG!!!!

  • Os ydych yn poeni, y peth gorau i wneud yw siarad gyda'ch athro. Ma' nhw yno i'ch helpu. Siaradwch gyda phennaeth yr adran, pennaeth blwyddyn neu eich athro cofrestru os ydych chi yn rhy swil- mae modd i ddatrys eich pryderon felly peidiwch ofni.
  • Peidiwch cuddio dan gragen a disgwyl i atebion ddod atoch chi - byddwch yn pro-actif.
  • Defnyddiwch wefannau fel Â鶹ԼÅÄ Bitesize ond cyn bapurau yw un o'r pethau gorau.

Deg Rheol Adolygu:

  1. byddwch bositif
  2. hyder (nabod papur ayyb)
  3. popeth yn gyflawn (dim munud olaf)
  4. Adolygwch yn Actif - ewch ar ôl pethau annealladwy yn hytrach na chuddio wrthynt.
  5. Ymarfer strwythur atebion
  6. Amseru atebion arholiad- i ddod yn gyfarwydd
  7. Peidiwch mynd yn negyddol a digalonni
  8. Adolygu gr?p - os yn synhwyrol.
  9. Cydbwysedd - o ran y pynciau, hamdden, gwobr
  10. Ewch i weld eich athrawon am broblemau nawr - gore po gyntaf.

Dyna'r cyfan am y tro - pob lwc gyda'r adolygu a'r arholiadau. Os wyt am ragor o gymorth, cofia ymweld ag adran (

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.