Mae rhai o gyflwynwyr C2 wedi recordio cân Nadolig gyda un o grwpiau mwya' poblogaidd y flwyddyn, Gwibdaith Hen Frân.
Coeliwch neu beidio, mae Magi Dodd, Glyn Wise, Jeni Lyn a BB Aled wedi bod yn canu am sannau ar gyfer cân Nadolig eleni fydd yn codi arian i elusen Plant mewn Angen.
Mae'r CD yn cael ei ryddhau ar Ragfyr 10fed ar label Rasal, gyda chân newydd arall o'r enw 'Seren' hefyd yn ymddangos arni. Gafodd 'Cân am Sana' ei recordio yn stiwdio Sain ac mae Magi, Glyn ac Aled yn canu arni a Jeni yn chwarae'r cornet.
Gwranda ar 'Cân am Sana' yn llawn
Bydd y CD yn ymddangos mewn cerdyn Nadolig, bydd o leiaf 60 ceiniog o bob cerdyn yn mynd tuag at Plant mewn Angen, a dim ond nifer cyfyngedig o gopiau fydd yn cael eu cynhyrchu.
Gwylia fideo o hanes y diwrnod yn y stiwdio recordio
Gwylia fideo o Magi a Glyn yn holi Gwibdaith Hen Frân yn y stiwdio
Er fod lleisiau Glyn a Magi yn swynol dros ben ar y gân, fe gymerodd hi ychydig o amser i gael pethau'n gywir! Dyma gyfle i glywed rhai o'r fersiynau doedd ddim cystal...
Nid Gwibdaith Hen Frân ydi'r unig gr?p sy'n recordio cân Nadolig eleni - mae Frizbee wedi rhyddhau 'O Na Mai'n Ddolig Eto' ac mae Bryn Fôn yn rhyddhau dwy gân i godi arian i .
(Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am unrhyw wefan y cysylltir iddi o'r dudalen yma)
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.