Βι¶ΉΤΌΕΔ

Quidest

C2
Sesiwn C2 Quidest, 2004


Cofi Roc yn ol!
Wedi ffurfio yn yr ysgol yng Nghaernarfon, fe laniodd Quidest ar y sΓ®n tua bum mlynedd yn Γ΄l gyda dΓ΄s da o roc melodic yn llawn o harmoniau a dylanwadau blues. Ai dyma'r grwp fyddai'n llenwi 'sgidiau mawr y Big Leaves oedd pawb yn gofyn?

Yn gyntaf, fe recordiodd Quidest sesiwn acwstic i Radio Cymru cyn mynd ymlaen i ryddhau EP ar label Gwynfryn Cymunedol o'r enw 'Yn Erbyn y Wal' yn 2002 (oedd yn darlunio 4 o'r aelodau yn piso yn erbyn wal!). Daeth caneuon fel 'Isho Mwy', 'Dagrau' ac 'Amser cyn Heddiw' o'r EP yn hits radio dros nos, a fe gymerodd Quidest y cyfrifoldeb llawn o ail-osod Caernarfon yn brifddinas roc Cymru!

Er bod y band wedi ffurfio yn yr ysgol, erbyn hyn mae rhai o'r aelodau wedi mynd i golegau gwahanol, ond diolch byth mae Quidest wedi aros gyda'i gilydd a mae 2004 yn argoeli i fod yn flwyddyn enfawr i'r grwp sy'n rhyddhau albym newydd yn hwyrach yn yr hΓΆf.

Mi fydd caneuon y sesiwn yn ymddangos ar yr albym, felly cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen i glywed blas o'r albym newydd - cyffur arbennig i godi calon a phrawf pendant bod Quidest yn barod i lenwi gofod y Big Leaves!

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.