Βι¶ΉΤΌΕΔ

Alun Tan Lan

Alun Tan Lan
Sesiwn acwstig Alun Tan Lan, 2004

Sesiwn acwstic


Pwy ydy Alun Tan Lan? Dyma'r cwestiwn sy' 'di bod ar wefusau ffans cerddoriaeth led-led Cymru yn ddiweddar, felly i gael yr ateb nethon ni wahodd y dyn ei hun i stiwdios C2 ym Mangor ar Ebrill 8 i recordio sesiwn acwstic i ni - a gafon ni ddim ein siomi!

Daeth Alun (Evans) i fewn at Lisa Gwilym ar nos Iau, Ebrill 8 i recordio pedair cΓΆn ecscliwsif i'r rhaglen ac i esbonio ychydig am ei gefndir. Mae'n gyn-aelod o'r grwp Serain o Fetws-y-Coed nath ryddhau un EP yn unig, sef 'Geneth Heb Enw' nΓ΄l yn 1997.

Mae Alun wedi penderfynu yn ddiweddar i fynd yn solo gyda dim byd ond ei gitar a'i lais, a mae'r cynnyrch yn hudol. Mae 'na si ar led y bydd Alun yn rhyddhau albym yn yr haf ar label newydd sbon - mwy o fanylion i ddod ynglyn ΓΆ hyn, ond yr hyn sy'n sicr yw y bydd Alun yn dal i gigio dros y misoedd nesaf fel bod mwy a mwy o bobl yn cael yr ateb i'r cwestiwn "Pwy ydy Alun Tan Lan?"

Cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen i glywed y sesiwn yn llawn. Eisteddwch yn Γ΄l, ymlaciwch a gadewch i Alun Tan Lan eich hudo!

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.