Βι¶ΉΤΌΕΔ

Y Genod yn darfod

Genod Droog

Cwta fis wedi iddynt ryddhau eu halbwm gyntaf 'Ni Oedd y Genod Droog' mae'r band wedi cyhoeddi eu bod i chwalu o fewn y misoedd nesaf.

Ffrwydrodd y band ar y sΓ®n gerddoriaeth yng Nghymru nol yn 2005, ac er fod ambell aelod newydd wedi mynd a dod yn yr amser hynny, mae'r aelodau craidd wedi aros yr un peth - Dyl Mei, Aneirin Karadog, Ed Holden, Gethin Evans, a Carwyn Jones.

Bwriad yr aelodau wrth ffurfio y 'Genod Droog' oedd i brofi bod modd i fand gyfuno gwreiddioldeb cerddorol gyda adloniant ac awyrgylch parti mewn gigs byw - a thros y dair mlynedd ddwethaf maen't yn sicr wedi cyflawni hynny.

Maen't wedi cyffroi cynulleidfaoedd led-led Cymru (a thu hwnt), gyda rhai o'u gigs mwyaf yn dod yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2007, gigs Maes B. Buont hefyd yn perfformio ym Mhroms Trydannol y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn Llundain yn 2006.

Cawsant gydnabyddiaeth o'u gwaith caled a thalent cerddorol, gan ennill dwy wobr yn noson wobrwyo Roc a Phop Radio Cymru 2007 - Y band byw gorau, a hoff fand gwrandawyr Radio Cymru; yn ogystal a hynny, cawsant eu henwebu yn y categori 'Band byw gorau yn yr Iaith Gymraeg' yng ngwobrau'r Ffatri Bop 2007.

Wedi hir ymaros, rhyddhawyd yr albym 'Ni Oedd y Genod Droog' ar Awst 4ydd eleni, ond fis yn ddiweddarach daeth y cadarnhad fod y band wedi penderfynu rhoi'r ffidl, y gitar, a'r drymiau yn y tΓ΄, ac y byddant yn perfformio eu gig olaf yng Ngwyl Swn yng Nghaerdydd ganol mis Tachwedd.

Er fod colled enfawr yn mynd i fod ar eu holau, gallwch fod yn siwr nad dyma'r olaf y byddwn yn ei glywed gan yr aelodau. Mae Ed Holden ac Aneirin Karadog yn brysur gyda'u prosiect arall, 'Y Diwygiad', Gethin Evans a Carwyn Jones bellach yn aelodau llawn amser o'r band 'Yucatan' a bydd Dyl Mei yn parhau i gadw ei fysedd mewn sawl potes, gan fynd nol i'w gariad cyntaf o bosib, sef cynhyrchu traciau ac albyms gwych yn yr iaith Gymraeg.

Diolch yn fawr Genod Droog am dair mlynedd o adloniant, peli mawr, a chaneuon gwych.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.