Â鶹ԼÅÄ

Bocs Set Jarman

Geraint Jarman a Gari Melville

Mae un o gewri y sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn paratoi i ryddhau bocs-set o'i holl ganeuon ar label Sain, a bydd yn glamp o focs gydda dim llai na 15 CD ynddo!

Dros y blynyddoedd mae Geraint Jarman wedi rhyddhau 10 casgliad gyda Sain - a'r gweddill ar label Ankst, ond mae bron yn chwarter canrif ers iddo fod yn stiwdio Sain yn Llandwrog ddiwethaf. Er i'w CD diweddaraf 'Môrladron' gyda'r Cynganeddwyr gael ei ryddhau ar label Sain yn 2002, nid yno recordiwyd y caneuon - a chafodd ychydig o sioc o ddychwelyd yno!

"Dydw i ddim wedi bod yn Sain ers 1984 pan o'n i'n recordio'r casét Enka," meddai brenin y byd reggae Cymraeg. "Mae'r lle'n ffantastig, ac wedi newid yn llwyr . Mae'n safle grêt ac yn agored iawn, ac mae 3 stiwdio yno erbyn hyn - dim ond un oedd yno ers talwm!"

Gari Melville sy'n cydlynu'r prosiect arloesol, ac ef hefyd sy'n ysgrifennu'r llyfryn cynhwysfawr. Yn ôl Menna Medi o'r cwmni, "...bydd 15 CD yn rhan o'r pecyn gorffenedig, a enwir yn Atgof fel Angor."

Bydd nifer cyfyngedig o'r bocs-sets yn cael eu rhyddhau, gyda'r pris yn £49.99, a bydd yn cael ei lawnsio mewn gig gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni."

"Dyma drysor gan un a gyfrannodd, ac sy'n parhau i gyfrannu, cymaint i fyd adloniant yng Nghymru." - bydd yn sicr yn wych cael holl glasuron y band mewn un casgliad.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.