Main content
Unigrwydd ymhlith yr henoed dros gyfnod y Nadolig
Dawel Nos
Nos unig, nos o henaint, ei haelwyd
sy’n greulon ddi-geraint,
nos yn cau heb seiniau saint
o’r pafin, lle daw’r ddinas i hawlio’r
Nadolig o’i chwmpas
(criwiau hwyl mewn cytgord cras).
Ei Gŵyl hi sy’n ddafnau glaw o boenus,
ar baen yn llif distaw,
Gŵyl heb gwmni, drwyddi draw,
hithau’n eiddil-bendilio’n un â’i chloc,
a chlecian mae’r radio
hyd oriau’r hwyr yn ei dro.
Cau’r cyrtens; pa seren sy? Am heno,
dim un, ac mae’r gwely’n
fwy oeraidd, mae yfory’n
rhy wag, ond daw anrhegion a thylwyth,
a hewl o angylion
drwy glwyd ei breuddwyd o’r bron
am eiliad...
a dala dig yn ei hôl
y mae’r nos anniddig,
nos o henaint, nos unig.
Aron Pritchard
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Alun Thomas yn cyflwyno
-
Siopa 'Dolig a'r economi
Hyd: 09:56