Main content

Cadog - 'Meibion Aberdâr' (Brwydr y Bandiau Tŷ Gwerin 2024)

Cadog yn perfformio 'Meibion Aberdâr' yn fyw o Stiwdio Sain fel rhan o Frwydr y Bandiau Tŷ Gwerin a Radio Cymru 2024.

Dau frawd o Gaerdydd sy’n ceisio dod â hwyl i’r sîn gwerin Gymreig yw Cadog. Er bod Iestyn a Morus yn
gyfarwydd i rai fel aelodau o’r grwp roc Ble?, roedd awydd ganddynt i arbrofi gyda genre ychydig yn
wahanol. Gyda gitâr acwstig a sacsoffon yn ganolog i sain y ddeuawd, mae enwau gwerin gyfoes Cymru fel
No Good Boyo yn ysbrydoliaeth fawr. Gyda’r gobaith o deithio i wyliau gwerin ryngwladol gyda’u
cymysgedd o eiriau doniol, alawon bachog ac ychydig o glocsio, bydd Cadog yn siwr o godi hwyl yn y Ty
Gwerin eleni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau