Tesni Hughes - 'Trefn' (Brwydr y Bandiau Maes B 2024)
Tesni Hughes yn perfformio ei chΓΆn 'Trefn' yn fyw o Stiwdio Sain fel rhan o Frwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru 2024.
Cystadleuodd Tesni Hughes yn BYB 2021 felartist unigol, ond eleni bydd yna fand byw yn ymuno ag hi ar Lwyfan y Maes. Teimla Tesni bod y gerddoriaeth a hi ei hun 'yn sicr wedi aeddfedu' ers y tro diwethaf iddi gystadlu pan yn 16 oed, gyda'r band newydd sy'n cynnwys aelodau o fandiau fel Maes Parcio yn rhoi 'hyder newydd' iddi.
Daw Tesni o Ynys MΓ΄n, a mae sΓ®n a cherddorion yr ynys yn ddylanwadau mawr ar ei cherddoriaeth indie-roc-pop, wrth iddi enwi Fleur de Lys a Meinir Gwilym fel rhai o'r artistiaid rheini sydd yn ysbrydoli'r broses ysgrifennu. Er bod y prosiect bellach wedi tyfu'n fwy na'r 'stwff acwstig' blaenorol, gobeithia Tesni y bydd cynulleidfa Llwyfan y Maes yn parhau i uniaethu gyda'i geiriau personol sy'n aml yn agos at yr asgwrn.