Main content

Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru

Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno Γ’ Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapΓͺl i etholwyr Cymru.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

29 o funudau

Podlediad