Main content
'Mor bwysig siarad,' medd ffermwraig o Dregaron a gollodd ei thad
Roedd y dydd Llun cyntaf o Fedi 2020 yn ddiwrnod arferol ar fferm Pontargamddwr ger Tregaron - Rhodri y tad adref yn ffermio, SiΓΆn y fam wedi mynd i'r gwaith a'r efeilliaid Mali a Gwawr yn dechrau ar eu cyfnod yn y chweched.
Ond dyma ddiwrnod a newidiodd fywyd y merched a'u mam. Ar Γ΄l dod adref o'r ysgol fe ddaeth y merched o hyd i'w tad wedi marw drwy hunanladdiad.
Ar wythnos y Sioe Fawr dywed Mali ei bod hi mor bwysig i siarad a rhannu pryderon ac er bod elusennau yn annog sgyrsiau o'r fath dywed ei bod hi'n dal yn anodd i nifer - ffermwyr yn enwedig - i siarad am eu pryderon.
Mae modd cael cymorth drwy gysylltu ag elusen Tir Dewi, neu elusen Sefydliad DPJ ac mae cymorth ar gael hefyd ar wefan Βι¶ΉΤΌΕΔ Action Line.