Main content

Breuddwydio yn Rafah

"Breuddwydio yn Rafah"

Heno, a nunlle yn dawel
fe gaeaf fy llygaid yn dynn
ac wedi gafael ar gudyn o drwmgwsg,
be glywai, o rywle, ond hyn:
Sŵn plantos, fel fi, yn sgrechian,
ond nid sgrechian fel fi maen nhw chwaith.
Nid sgrechian a’u gyddfau yn gignoeth,
a’u hofnau yn llyncu eu hiaith.
Ond sgrechian am eu bod nhw mor hapus.
Sgrech lawn direidi a sbri.
Sgrechian llawn chwerthin a chariad,
sŵn sydd yn atgof i mi.
Fe’u gwelaf, trwy amrant breuddwydion
yn canu a dawnsio yn rhydd.
Eu bywydau yn tincial fel grisial,
eu sgrechfeydd yn gyfeiliant i’r dydd.
Ac os na fydda i yn cael deffro,
os na ddaw, diwrnod arall, i mi,
dwi’n gobeithio y cai fyw’r tro nesa
mewn lle tebyg i hwn, efo chi.

Casia Wiliam

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau