Alan Llwyd, Cofio Leighton
Cerdd gan fardd y mis Radio Cymru, Alan Llwyd er cof am Leighton James
Pan glywais am dy farwolaeth,
er imi dy weld yn chwarae lawer gwaith,
aeth fy meddwl yn ôl
i un gêm arbennig iawn:
gêm gyntaf un yr Elyrch yn yr Adran Gyntaf,
a ninnau wrthi
yn chwifio baneri ein dyrchafiad
o adran is.
Gêm hanesyddol oedd honno,
prynhawn Sadwrn olaf Awst
dair blynedd a deugain yn ôl,
a ninnau’n chwarae yn erbyn Leeds,
un o’r timau gorau, un o gewri
byd y bêl ar y pryd,
y Goliath hwn a gâi fuddugoliaeth hawdd
ar ein Dafydd newydd ni,
neu felly y tybiem.
Prynhawn meddwol oedd hwnnw:
roedd y dorf ar dân,
a’n llafarganu yn treiddio trwy holl Forgannwg,
yn atsain nes cyrraedd Leeds;
a digwyddodd gwyrth,
ni a enillodd o bum gôl i un:
Y cawr ar lawr a Dafydd wedi ei falurio,
a pheniad oedd ei ffon dafl.
Ti oedd y seren:
ti oedd y tu ôl i rai o’r goliau:
dwywaith y croesaist y bêl
i Latchford gyrraedd ei darged, deirgwaith i gyd.
Yn union dri a deugain
Awst yn ôl fe’n gwefreiddiaist ni,
ti a thîm Abertawe
yn rhoi dinas ar dân.
Mae’r Fetsh wedi mynd erbyn hyn;
meinciau a pharc sydd yno mwy yn coffáu
maes chwarae’r Elyrch gynt;
mae’r llafarganu wedi distewi yn stond;
mae’r sloganau a’r llumanau wedi mynd;
mae cliciadau’r clwydi a’r cloc i gyd wedi mynd;
mae’r trafod mawr, mae’r tyrfâu wedi mynd,
ac mae Leighton ei hun wedi mynd.
Erbyn hyn mae gan yr Elyrch stadiwm newydd,
ond ’dyw’r cyffro ddim yno mwy.
Chwiliais am hanes y gêm ar y we
a chael fideo yno ohoni,
fideo o’r gêm fythgofiadwy
honno un prynhawn heulog o haf,
ac am ychydig eiliadau,
siwrneiais am yn ôl mewn amser nes ymuno eilwaith
â’r dorf ar y dydd.
Ac wrth wylio’r fideo o’r Fetsh
ar y prynhawn tanbaid hwnnw,
caf eto dy wylio di
yn chwarae’r gêm, yn ochor-gamu,
yn siwglo â’r bêl, yn dangos dy sgiliau i’r byd,
yn driblo o hyd â’r bêl hon,
y bêl hon sydd eto o’n blaenau,
a chaf innau, am ychydig funudau, fy ieuenctid yn ôl.
A bellach mae’r gêm hanesyddol honno,
y gêm chwedlonol honno erbyn hyn,
ar gael o hyd
y tu mewn i amser ac allan o amser,
ac rwyt tithau, Leighton,
yn dal i gynhyrfu’r dorf
ar fideo’r cyfrifiadur.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ar y Marc
-
Cymru v Y Ffindir
Hyd: 07:18
-
Adolygiad o 'Copa 71' gan Gabriella Jukes
Hyd: 05:56