Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024

Ramadan, Gwinllan, Bardd y Mis, Dysgu Cymraeg, George North, Chef yn Llundain

DROS GINIO 11.03.24

Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?

Ympryd A fast

Cymuned Community

Nodi To mark

Crefyddol Religous

Datgelu To reveal

Hunanddisgyblaeth Self discipline

Llai ffodus Less fortunate

Ansicrwydd Uncertainty

Heriol Challenging

Adlewyrchu To reflect

ALED HUGHES 12.03.24

Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio.
Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.

Cynhyrchu To produce

Gwinllan Vinyard

Her A challenge

Grawnwin Grapes

Llethr Slope

Gwerthfawrogi To appreciate

Addas Appropriate

Sefydlu To establish

Micro hinsawdd Microclimate

Yn y man Mewn munud

Gwinwydd Vines

Arallgyfeirio To diversify

GEORGIA RUTH 12 03 24

Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on’d oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!

Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e’n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe’n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...

Rhydychen Oxford

Gwlad y Basg The Basque Country

Offeryn Instrument

Gwneuthurion Manufacturers

Preniach Small pieces of wood

Pastynau Clubs

Gwledda To feast

Wedi swyno Charmed

Ymatebol Responsive

Llanast Mess

Rhyfeddol Wonderful

BORE COTHI 15.03.24

Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson
yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a’r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...

Rhufain Rome

Cwrs Preswyl Residential course

Ymarfer To practice

DROS FRECWAST 14.03.23

Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai’n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.

Rhestr fer Short list

Penderfyniad enfawr Huge decision

Cyflawni To achieve

Y cyhoedd The public

Uchafbwynt Highlight

BETI A’I PHOBOL 17.03.24

George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd.
Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!

Trueni Bechod

Sylw a stwr Fuss and attention

Cefn gwlad The countryside

Enwoca The most famous

Bodoli To exist

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad