Main content

Evans yn serennu a Brooks mewn lle da

Fydd 'na glybiau yn cael eu temtio i arwyddo Will Evans ar Γ΄l i ymosodwr Casnewydd sgorio yn erbyn Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr?

Siomedig oedd canlyniadau clybiau Cymru ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr, ond o leiaf rhoddodd Gasnewydd fraw go iawn i Manchester United. Ac Γ΄l sgorio yn erbyn cewri Old Trafford, fydd Will Evans wedi dal sylw rai o glybiau Adran Un neu hyd yn oed y Bencampwriaeth?

Un sydd wedi symud ydi David Brooks, ac mae Owain Tudur Jones yn credu mai Southampton ydi'r lle perffaith i asgellwr Cymru ar hyn o bryd - ac yn darogan pethau mawr i'r rheolwr Russell Martin.

Go brin fydd o mor llwyddiannus Γ’ Jurgen Klopp. Pwy fydd yn gallu llenwi'r esgidiau mawr yna yn Anfield?

Release date:

Available now

53 minutes

Podcast