Sion Tomos Owen, Bardd y Mis - Ar Ôl Ionawr
Sion Tomos Owen, Bardd y Mis - Ar Ôl Ionawr
Ar ôl Ionawr
Tata Ionawr, sa'i moyn neud ffys
am fis y duw Rhufeinig, Janus,
Duw â dau wyneb, un ymlaen, un yn ôl
mis sy' ddwywaith yn boen yn pen-ôl.
Stormau ac enwau wedi enwebu gan wlybter
hinsawdd llawn helig yn ein peltio o bellter,
Ma rhein llawer mwy garw na'r misoedd gynt,
Sa'i Isha glaw, na niwl, na gwynt,
Henk yn hanner can milltir yr awr
yn sbwylo crwydro cynnar Ionawr,
Jocelyn a'i rhybydd Melyn
yn chwythu trampolines ben bryn,
Ma'r tywydd yn topig tymhorol ond C'mon
Am ych-a-fi o fis yw hon.
Blwyddyn y ddraig yw 2024
Arwydd o lwc da, o lewyrch a chryfder,
oni bai bo chi'n credu yn y mynnach sy'n mwydran,
Nostradamus sy' 'di rhoi Kibosh ar y cyfan,
y gwrthwyneb i rheini sy'n dweud "daw haul ar fryn..."
ma fe'n rhagfynnegi Rhyfel byd a Daeargryn!
Ma Dydd Llyn glas yn hen ddydd cas
styc yn y tÅ·, so neb yn mynd mas,
Addewidion, rhaid bo chi'n jocan!
Dry January erbyn hyn yn socan.
Does dim sales, ma popeth yn ddrud
Ma'r cost of living yn costio o hyd.
Sortio treth hunan-gyflodedig
HMRC'n creu blincin headache.
Dim Santes Dwynwen, so dêt night yn ddoeth
pan ma pawb dan flanced gyda potel dŵr poeth,
Yn straffaglu da annwyd am dair wthnos neu fwy
rhamant yw bwydo Lemsip ar lwy.
Hwpa'r 31 dwrnod yn y bin
Sa'i moyn mis arall mor salw a hyn,
Dwi'n bunged up, ffili canu, dim Do Rei Mi,
unwiath eto, dwi di methu rhoi cais Cân i Gymru.
Hancesi, pesychu ac anwyd ac asthma,
Mam bach! Dwi'n fflipin ffed up o'r mis ma.
A dwi'n gwbod taw first world problems yw rhein
i gymharu da'r Congo, Palesteina, Ukraine.
pethau anghyfleus nid stwff newid bywyd,
A dwi'n lwcus, ga'i sgwennu am hyn heb fy erlid,
Nai'm cal fy ngharcharu am gerdd ar y radio,
ac mae perspectif fel hwn yn neud i mi gallio.
Ma'r tÅ· dal yn sefyll, mae mhlant dal i wennu
Dwi'n cal fy nhalu i neud cartwns ac i sgwennu
am bwdi a cwyno am fis bach yn y gaeaf,
Ond byse'n neis ddim i weld Ionawr am flwyddyn arall o leia.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Llyfr Sgwrs Dan y Lloer
Hyd: 10:08
-
Nadolig yn Awstralia
Hyd: 07:45
-
Apêl oesol dramâu Shakespeare
Hyd: 09:17
-
Panad, paned, dishgled...
Hyd: 07:35