Main content

"Ma gormod o oscigen yn cyrydu dur!"

Sion Tomos Owen, Bardd y Mis, a cherdd ymateb i ddiswyddiadau gwaith dur Tata, Port Talbot

"Ma gormod o oscigen yn cyrydu dur!"

Ers degawdau
daw cwynion am y gorwel diwydiannol hon
yn difetha tirlun tir a môr
gyda'i dyrau o ddistopia myglyd.
Ond nawr daw machlud i dai bach Aberavon,
heb gobaith gorwel newydd,
dim ond tywyllwch a thawelwch diwedd dydd
heb ffrwd y mwg o'r tân
sy'n llosgi fel dicter y durweithwyr,
dyfal donc a dyrr eu dyfodol.

Ond tonc a ddaw heb hoelen naw,
heb fframwaith i gryfhau'r sylfaen,
wedi adeiladu ar addewid
mor wan a choncrît
uwchben pennau plant ysgol.

Dros £500,000,000 o fuddsoddiad
i fagu gobaith mewn newid newydd
i'r genhedlaeth werdd
gan lywodraeth las
mewn ardal goch
sydd wedi bod yn gweiddi'n groch
am gymorth ers talwm,
i godi ffôn i drafod,
ond mae gormod yn y fantol
i greu'r ddelwedd o achub
mewn byd o ddiystyru
bywydau bob dydd gweithwyr
tref ar arfordir y wlad bach drws nesaf.

Ond yn chwim, ar ôl gwneud dim
ond dadle mewn awyrgylch iasoer,
toddwyd yr elfen o gydweithio i lawr
trwy gofannu pel-droed gwleidyddol
yn y ffwrnais leol.
Doedd dim sbarc yn mhwerau'r Senedd
a chnoi cil fu San Steffan
wrth i bedwar mil
barhau i greu deunydd caled
i farchnad meddal y cyfandir
oedd â dim teyrngarwch bellach
i dyrrau diwydiant dur De Cymru.

Felly dyma'r cwymp
ar ôl blynydde o'r busnes brwnt,
yn creu cynnyrch
adeiladu a pheirianneg pwysica'r byd;
99% haearn, 1% carbon.
Cymysg o ddau briodwedd
sydd yn dra wahanol ar wahan
ond yn gryfach wrth ddod at ei gilydd.
Bron 100% yn gryfach
nac unrhyw elfen arall yn y byd,
ond gall gormod o ocsigen gyrrydu,
ac yn Mhrydain,
ble mae canrannau yn cyfri,
fe wnaeth 52% fwy o ddifrod
i ddyfodol dur
nac unrhyw rhwd i ingot,
gwleidyddion yn esgus becso dam
am bobol Port Talbot,
yn chwarae gemau yn lle trafod masnach,
a dyna bywoliaeth tref
wedi diflannu mewn fflach.

Sion Tomos Owen, Bardd y Mis - Ionawr 2024

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

11 o funudau